Dan y Cownter - gwendidau mewn darpariaeth Cymraeg
Oddi ar Hedyn
The printable version is no longer supported and may have rendering errors. Please update your browser bookmarks and please use the default browser print function instead.
Mae gwasanaethau yn Gymraeg ar-lein weithiau. Ond mae angen i ti ofyn ac efallai bydd y gwasanaeth dan y cownter mewn bag papur brown...
Dyma tudalen cyflym i gasglu enghreifftiau o statws isradd y Gymraeg ar-lein.
Ar-lein / ar y we
Pa enghreifftiau?
Ar hyn o bryd dw i'n meddwl bod unrhyw enghraifft yn dilys heblaw am diffyg rhyngwynebau achos maen nhw yn amlwg? Ond os oes enghraifft o ryngwyneb diffygol, pam lai. --Carlmorris (sgwrs) 16:32, 31 Hydref 2013 (UTC)
Google Chwilio
- Geiriau Cymraeg yn isradd, e.e. Arriva Wales / Arriva Cymru
- "Did you mean: (gair Saesneg)?" (WEL, NA!!) e.e. [1]
- Dim ymwybyddiaeth o dreigladau. Mae angen cydnabod a dangos canlyniadau gyda 'Gaernarfon', 'Nghaernarfon', 'Chaernarfon' os mae'r defnyddiwr yn chwilio am 'Caernarfon'.
- Awtogwblhau ddim yn darparu unrhyw chwiliadau posib Cymraeg. Gweler.
.
Google Mapia
- Diffyg enwau llefydd Cymraeg. Nid yw hon ar fap.
. . .
Google Newyddion
- Diffyg ffynhonellau Cymraeg, e.e. Dyw Golwg360, BBC Newyddion nac Y Cymro ddim ar Google News o gwbl.
. . .
BBC
BBC.co.uk
- Edrych i mi fel bod http://www.bbc.co.uk yn diofynnu i Lundain a Saesneg. Does dim enwau Cymraeg o dan newid lleoliad. --Carlmorris (sgwrs) 16:36, 31 Hydref 2013 (UTC)
. . .
iPlayer
- chwiliad am 'radio cymru' - sero canlyniad
- Lot o raglenni Saesneg yn parhau am flynyddoedd ond mae terfyn ar bob rhaglen Cymraeg - enghraifft
- Mae modd neidio'n syth i ddarn benodol o raglen ar iPlayer enghraifft
BBC Newyddion/News
- Is-raddio datganoliad a newyddion pwysig o Gymru o bosib? enghraifft
- Diffyg newyddion byd-eang
- Amser cyhoeddi. Weithiau mae'r un stori yn ymddangos yn gynharach yn Saesneg, hyd yn oed stori am 'bwnc Cymraeg'. Enghraifft arall ydy noson canlyniad yr is-etholiad yn Ynys Mon ym mis Awst 2013 pan oedd angen aros am oriau i weld y canlyniad.
- Straeon am y Gymraeg ar gael ar wefan Cymraeg yn unig, e.e.
- Dim modd cael BBC Newyddion (ond mae BBC Wales yno) ar app BBC News (tudalen Gymraeg BBC Newyddion sy'n cyfeirio defnyddwyr at URL symudol a'r ap, heb nod i nad oes newyddion Cymraeg ar yr ap)
- Beth am BBC News ar Connected TV? Oes Newyddion Cymru yno, ac yn Gymraeg?
- BBC yn israddio Cymru - o adran i isadran
- Tagiau ar newyddion Saesneg sydd ddim ar y Gymraeg, e.e. http://www.bbc.co.uk/news/topics/5ffcc00a-d72f-4a49-bf05-44d9e61f3a40/wales-education
BBC - blogiau Cymraeg
- Blog Vaughan Roderick yn defnyddio hen feddalwedd heb fotymau rhannu tra bod 'na botymau ar flogiau Saesneg fel David Cornock. Effaith niweidiol o bosib ar nifer o ddarllenwyr.
BBC - diffyg disgrifiadau
Llywodraeth Cymru
Swyddfa Cymru
- Sawl gwahaniaeth ar Twitter: nifer o drydariadau, bywgraffiad, diffyg dolenni (cymharer rhywbeth da fel llencymru/litwales)
Cymharu cyfrifon Twitter
Enw'r corff | Cyfrif Cymraeg | Sawl trydariad | Nifer mae'n ddilyn | Nifer dilynwyr | Cyfrif Saesneg | Sawl trydariad | Nifer mae'n ddilyn | Nifer dilynwyr | Dyddiad gwirio (BBBB.MM) |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Swyddfa Cymru | @swyddfacymru | 196 | 2 | 111 | @walesoffice | 1,419 | 279 | 3,606 | 2013.11 |
Llety Caerdydd | @lletycaerdydd | 66 | 53 | 27 | @cardiffdigs | 839 | 143 | 358 | 2013.11 |
Cyngor Caerdydd | @cyngorcaerdydd | 6,706 | 248 | 1,066 | @cardiffcouncil | 15,757 | 355 | 22,241 | 2013.11 |
Parc Bute | @parcbute | 243 | 18 | 60 | @buteparkcardiff | 355 | 60 | 913 | 2013.11 |
Ombwdsmon | @Ombwdsmon | 98 | 75 | 45 | @OmbudsmanWales | 190 | 486 | 462 | 2015.11 |
Prifysgol Aberystwyth
Prifysgol Aber: gwefan argraffu mewn 11 iaith, ond dim Cymraeg
Meddalwedd arall
Yn fuan