Gweithrediadau

Categori

Blog Cymraeg

Oddi ar Hedyn

Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:00, 21 Mawrth 2011 gan Nicdafis (Sgwrs | cyfraniadau)

Mae'r dudalen hon yn cynnwys y prif gategoriau ar gyfer y prosiect Casglu Blogiau. Ar waelod y dudalen hon, fel welwch restr llawn o'r holl flogiau (sydd wedi eu hychwanegu hyd yma!) yn nhrefn y wyddor.

Cefndir

Ers i’r blog Cymraeg cyntaf ymddangos yn 2001, mae nifer o rai eraill wedi dilyn. Mae rhai yn dal i fynd heddiw, rhai wedi eu gadael (ond yn dal ar gael), ac eraill wedi diflannu’n llwyr (unai dry ddewis yr awdur neu oherwydd telerau’r cwmni llety).

Mae sawl newid wedi bod. Ar y dechrau, roedd bron pob blogiwr Cymraeg yn roi dolen at bron i bob blog Cymraeg arall. Gydag amser, fe newidioedd hyn, yn rhanol gan bod oes y blogroll wedi dod i ben, ac hefyd gan bod cynifer o flogiau Cymraeg, roedd pobl yn dewis a dethol pa flogiau roeddynt yn ddarllen a pha rai roeddynt yn rhoi dolen atynt. Roedd hyn yn beth i’w groesawu, sef bod pobl yn rhoi dolen yn ôl a blaen i’w gilydd gan bod y blog o ddiddrodeb, ac nid o ddyletswydd.

Fel mae amser wedi mynd yn ei flaen, a gyda chwymp ym mhoblogrwydd cadw blog, mae’r byd blogio Cymraeg wedi dod yn fwy darniog, ac efallai gyda llai o gyswllt rhwng y blogiau a’r blogwyr.

Dw i wedi manteisio wici Hedyn i gasglu blogiau Cymraeg. Mae’r casgliad yn cynnys blogiau byw a rhai sydd ddim gyda ni bellach. Mae sawl peth wedi fy ysgogi, ond yn bennaf i ddangos y fath amrywiaeth sydd ac a fu.

Mae defnyddio wici i wneud hyn yn fy ngalluogi i ddodi’r blogiau mewn gwahanol gategoriau

Alla i helpu?

Wrth gwrs - mae mwy o fanylion ar y dudalen sgwrs.

Gweler hefyd

Podlediad Cymraeg

Erthyglau yn y categori "Blog Cymraeg"

Dangosir isod 200 tudalen ymhlith cyfanswm o 752 sydd yn y categori hwn.

(tudalen flaenorol) (tudalen nesaf)

B

(tudalen flaenorol) (tudalen nesaf)