Gweithrediadau

Blas o stwff gan Gwilym Deudraeth

Oddi ar Hedyn

Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:35, 27 Ionawr 2011 gan Carlmorris (Sgwrs | cyfraniadau)

Dw i'n trefnu y sesiwn Chydig ar Gof a Chadw yn Hacio'r Iaith 2011.

Dw i ddim yn gyfarwydd iawn ar farddoniaeth ond englynion yw'r tapas barddoniaeth Cymraeg dw i'n cymryd. Neu dim sum.

Dw i newydd sganio llyfr llawn o englynion gan Gwilym Deudraeth dros fy amser cinio yn Llyfrgell Canolog Caerdydd. Roedd rhaid i mi archebu'r llyfr o'r archif o flaen llaw wythnos yma. Dw i ddim wedi cael digon o amser i'w OCRo ond dyma ddelweddau o rhai o'r englynion.

Dof i'r sesiwn gyda'r llyfr llawn, Chydig ar Gof a Chadw yw'r teitl y llyfr hefyd. Rydyn ni i gyd yn berchen ar y cerddi achos mae Gwilym newydd cyrraedd yn y parth cyhoeddus (ar y diwrnod cyntaf mis Ionawr 2011). Dyw'r boi ddim yn enwog iawn. Syniad tu ôl y sesiwn yw creu addasiadau (lluniau, cerddoriaeth, fideo a mwy) a mwy o bresenoldeb Gwilym Deudraeth ar y we (faint ydyn ni'n gallu wneud yn sesiwn awr?). Byddan ni archwilio'r cyfleoedd (creadigol, busnes, addysg a mwy) gyda chynnwys Cymraeg yn y parth cyhoeddus a gobeithio dysgu pethau am fideo, awdio, prosesu delweddau gyda PhotoShop neu GIMP ayyb.

Y-bardd-a'i-lyfr-bach.jpg

Ysgwyd-llaw-bach.jpg

Hen-lythyrau-bach.jpg

Y-gath-arall-bach.jpg

Hedd-wyn-ellis-evans-bach.jpg

Y-knocker-up-bach.jpg

Y-bardd-ar-ei-wyliau-haf-yn-lloegr-bach.jpg

--Carlmorris 15:31, 27 Ionawr 2011 (UTC)