Gweithrediadau

Awgrymiadau a syniadau ar gyfer dy flog lleol

Oddi ar Hedyn

Termau

Blog = web log, sef cyfres o gofnodion mewn trefn amser.

Mae 'blog' yn golygu popeth ac mae 'cofnod' ('post' yn Saesneg) yn golygu un eitem/erthygl.


Pynciau, cyfryngau a fformatau

Mae lot o bobl yn meddwl am destun gwleidyddol pan maen nhw yn ystyried blogiau. Os wyt ti'n darllen y colofn blogiau mewn cylchgrawn Golwg maen nhw yn ail-adrodd testun yn unig o flogiau gwleidyddol yn unig!

Ond rwyt ti'n gallu trafod unrhyw pwnc ar blog trwy unrhyw gyfrwng. Mae gymaint o gyfryngau a fformatau fel

  • Testun
  • Fideo
  • Dolenni
  • Lluniau
  • Delweddau eraill fel siartiau, gwyb-graffig, llinelliad
  • Awdio (ar rywbeth fel Soundcloud)
  • Sleidiau (ar rywbeth fel Slideshare)

Ac wrth gwrs mae unrhyw cymysgiad o'r rhestr uchod yn bosib.


Dw i'n wneud blog lleol. Pa mor lleol?

Does dim rheolau, gall fod ar lefel

  • Stryd
  • Pentref
  • Cwm/dyffryn/llan
  • Tref
  • Maestref o ddinas
  • Dinas gyfan

(esiamplau o'r uchod i gyd i ddilyn)


Metadata: teitlau, tagiau a chategoriau

Mae'r teitl yn bwysig achos dyma beth mae pobl yn gweld ar chwilio Google, darllenyddion RSS (fel Google Reader), Facebook ayyb cyn unrhyw beth arall. Paid â bod yn rhy glyfar yn y teitl. Mae blogiau yn wahanol i bapurau newydd ar bapur achos mae pob erthygl yn bodoli ar wahan. Does dim rheolau ond mae canllawiau.

Tagiau a chategoriau yn labeli i roi drefn ar dy gofnodion.

Mae tagiau yn debyg i'r dudalen mynegai mewn llyfr. Mae lot ohonyn nhw.

Mae categoriau yn debyg i'r dudalen cynnwg mewn llyfr. Mae nifer cyfyngedig o gategori, fel arfer rhwng tua 5 a 15.


Tyfu'r cymuned

Dyma syniadau os wyt ti eisiau hyrwyddo'r blog.

  • Ceisio apelio at gymaint o ddarllenwyr a darpar gyfranwyr a phosib (cynnwys newyddion, hanes, chwaraeon, digwyddiadau)
  • postia dolen uniongyrchol i'r cofnod (yn hytrach na'r blog i gyd) ar Twitter a Facebook
  • ebostia pobl gyda'r dolen (ond bydd yn ofalus)
  • gofynna pobl eraill i gyfrannu achos mae mwy o gyfrannwyr yn ehangi'r cymuned o gwmpas y blog

(mwy i ddod)


Creu/darganfod cynnwys

(i ddod)

Gweler hefyd

Y Rhestr o flogiau Cymraeg