Gweithrediadau

Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Awgrymiadau a syniadau ar gyfer dy flog lleol"

Oddi ar Hedyn

(Yn ailgyfeirio at Canllawiau Blogio)
 
Llinell 1: Llinell 1:
==Termau==
#REDIRECT [[Canllawiau Blogio]]
 
Blog = web log, sef cyfres o gofnodion mewn trefn amser.
 
Mae 'blog' yn golygu popeth ac mae 'cofnod' ('post' yn Saesneg) yn golygu un eitem/erthygl.
 
 
==Pynciau, cyfryngau a fformatau==
 
Mae lot o bobl yn meddwl am destun gwleidyddol pan maen nhw yn ystyried blogiau. Os wyt ti'n darllen y colofn blogiau mewn cylchgrawn Golwg maen nhw yn ail-adrodd testun yn unig o flogiau gwleidyddol yn unig!
 
Ond rwyt ti'n gallu trafod unrhyw pwnc ar blog trwy unrhyw gyfrwng. Mae gymaint o gyfryngau a fformatau fel
*Testun
*Fideo
*Dolenni
*Lluniau
*Delweddau eraill fel siartiau, gwyb-graffig, llinelliad
*Awdio (ar rywbeth fel Soundcloud)
*Sleidiau (ar rywbeth fel Slideshare)
 
Ac wrth gwrs mae unrhyw cymysgiad o'r rhestr uchod yn bosib.
 
 
==Dw i'n wneud blog lleol. Pa mor lleol?==
Does dim rheolau, gall fod ar lefel
*Stryd
*Pentref
*Cwm/dyffryn/llan
*Tref
*Maestref o ddinas
*Dinas gyfan <br>
(''esiamplau o'r uchod i gyd i ddilyn'')
 
 
==Metadata: teitlau, tagiau a chategoriau ==
 
Mae'r teitl yn bwysig achos dyma beth mae pobl yn gweld ar chwilio Google, darllenyddion RSS (fel Google Reader), Facebook ayyb cyn unrhyw beth arall. Paid â bod yn rhy glyfar yn y teitl. Mae blogiau yn wahanol i bapurau newydd ar bapur achos mae pob erthygl yn bodoli ar wahan. Does dim rheolau ond mae canllawiau.
 
Tagiau a chategoriau yn labeli i roi drefn ar dy gofnodion.
 
Mae tagiau yn debyg i'r dudalen mynegai mewn llyfr. Mae lot ohonyn nhw.
 
Mae categoriau yn debyg i'r dudalen cynnwg mewn llyfr. Mae nifer cyfyngedig o gategori, fel arfer rhwng tua 5 a 15.
 
 
==Tyfu'r cymuned==
 
Dyma syniadau os wyt ti eisiau hyrwyddo'r blog.
 
* Ceisio apelio at gymaint o ddarllenwyr a darpar gyfranwyr a phosib (cynnwys newyddion, hanes, chwaraeon, digwyddiadau)
* postia dolen uniongyrchol i'r cofnod (yn hytrach na'r blog i gyd) ar Twitter a Facebook
* ebostia pobl gyda'r dolen (ond bydd yn ofalus)
* gofynna pobl eraill i gyfrannu achos mae mwy o gyfrannwyr yn ehangi'r cymuned o gwmpas y blog
''(mwy i ddod)''
 
 
==Creu/darganfod cynnwys==
''(i ddod)''
 
==Gweler hefyd==
 
[[:Categori:Blog_Cymraeg| Y Rhestr o flogiau Cymraeg]]

Y diwygiad cyfredol, am 14:02, 2 Awst 2012

Ailgyfeirio i: