Gweithrediadau

Archifo rhaglenni teledu

Oddi ar Hedyn

Mae'r tudalen yma yn gynnig meddalwedd i archifo rhaglenni teledu a radio. Bydd yn wybodol o unrhyw hawliau os wyt ti eisiau gwneud mwy nag archifo preifat.

BBC iPlayer

get_iplayer (yn cynnwys S4C a BBC Radio Cymru)

Get iPlayer Automator (Apple Mac yn unig ond mae'n gweithio tu allan i Brydain)

Facebook

1. Ewch i'r fideo

2. Newidiwch yr www i m yn yr URL

3. Chwaraewch y fideo

4. De-gliciwch a dewiswch cadw fideo fel

S4C Clic

Dyma ffordd o lawrlwytho oddi ar S4C Clic sydd yn gweithio ar y wefan gyfredol (2021), ac wedi'i brofi mewn Firefox, Chromium, a Chrome.

Mae angen fersiwn diweddar o ffmpeg ar eich system. Er mwyn gwirio pa fersiwn sydd gennych ewch i'r llinell orchymyn a theipiwch: ffmpeg --help

Mae angen dod i hyd i gyfeiriad at ffeil m3u8, sydd yn edrych fel https://vod-uk.s4c-cdn.co.uk/canu_gyda_fy_arwr___caryl_parry_jones_c_rcf86r_003137fc60/hls/canu_gyda_fy_arwr___caryl_parry_jones_c_rcf86r_003137fc60_Ott_Hls_Ts_Avc_Aac_16x9_1280x720p_2500Kbps.m3u8

1. Ewch i'r rhaglen berthnasol ar wefan S4C Clic.

2. Mewngofnodwch gyda'ch cyfrif S4C Clic. (Os nad oes cyfrif gennych mae angen creu cyfrif.)

3. Dechreuwch Offer Datblygwr (Developer Tools) yn eich porwr. Fel arfer mae eisiau pwyso F12.

4. Ewch i Rwydwaith / Network.

5. Cliciwch chwarae ar y fideo.

6. Bydd yr adran hon yn rhestru'r holl ffeiliau sydd wedi'i lawrlwytho. Yn y flwch chwilio neu hidlo teipiwch m3u8. Fel arfer mae dewis o dri chyfeiriad gwahanol: fersiwn ansawdd uchel (e.e. 1280x720) a dau fersiwn arall. Copiwch y cyfeiriad rydych chi eisiau. Ewch am yr un ansawdd uchel os ydych chi ar gysylltiad eithaf da.

7. Teipiwch y gorchymyn isod: ffmpeg -i "RHOWCH-Y-CYFEIRIAD-YMA" -bsf:a aac_adtstoasc -vcodec copy -c copy -crf 50 rhaglen.mp4

Mae eisiau rhoi'r cyfeiriad i mewn uchod, rhwng dyfynodau.

Er enghraifft ffmpeg -i "https://vod-uk.s4c-cdn.co.uk/canu_gyda_fy_arwr___caryl_parry_jones_c_rcf86r_003137fc60/hls/canu_gyda_fy_arwr___caryl_parry_jones_c_rcf86r_003137fc60_Ott_Hls_Ts_Avc_Aac_16x9_1280x720p_2500Kbps.m3u8" -bsf:a aac_adtstoasc -vcodec copy -c copy -crf 50 canu_gyda_fy_arwr___caryl_parry_jones.mp4

8. Arhoswch nes bod y ffeil wedi'i gadw yn ei gyfanrwydd. Yn amlwg mae rhaglenni hir yn cymryd mwy o amser.

Senedd.tv

Mae senedd.tv bellach yn cynnig lawrlwytho fideos. Ewch i'r botwm o dan unrhyw fideo.

Fel arall mae ffordd o wneud hyn trwy youtube-dl. (Manylion i'w dilyn yma yn fuan.)

Trawsnewid ffeiliau

FFmpeg (o FLV i AVI, MP4 ayyb]

YouTube

youtube-dl

youtube-dl (llinell orchymyn)

Enghraifft - lawrlwytho fideo:
youtube-dl https://www.youtube.com/watch?v=XUDb-lHN79Y

Enghraifft - lawrlwytho sain yn unig:
youtube-dl --extract-audio --audio-format mp3 https://www.youtube.com/watch?v=XUDb-lHN79Y

Eraill

Video DownloadHelper (ategyn Firefox)

You-Get

Gwasanaethau eraill megis Parliamentlive.tv

Dyma restr o wasanaethau mae youtube-dl yn gallu cipio (llinell orchymyn)

Cyngor amrywiol

Dyma sut i gael gwared â'r logo yn y cornel, y dyfrnod neu 'watermark'.

BBC

(logo ar y dde)
ffmpeg -i rhaglen.mp4 -vf delogo=x=1082:y=0:w=200:h=79 -c:a copy rhaglen_heblogo.mp4

neu (logo ar y chwith)
ffmpeg -i rhaglen.mp4 -vf delogo=x=7:y=6:w=90:h=59 -c:a copy rhaglen_heblogo.mp4

neu (logo ar y chwith, darn sy'n dechrau am 00:23:16 sydd yn parhau am 10 eiliad)
ffmpeg -i rhaglen.mp4 -ss 00:23:16 -t 00:00:10 -vf delogo=x=7:y=6:w=90:h=64 -c:a copy rhaglen_heblogo.mp4

S4C

Defnyddiwch rywbeth fel yr isod i dynnu logo S4C o'r cornel.

ffmpeg -i rhaglen.mp4 -vf delogo=x=7:y=6:w=69:h=57 -c:a copy rhaglen_heblogo.mp4