Gweithrediadau

Archifo rhaglenni teledu

Oddi ar Hedyn

The printable version is no longer supported and may have rendering errors. Please update your browser bookmarks and please use the default browser print function instead.

Mae'r tudalen yma yn gynnig meddalwedd i archifo rhaglenni teledu a radio. Bydd yn wybodol o unrhyw hawliau os wyt ti eisiau gwneud mwy nag archifo preifat.

BBC iPlayer

get_iplayer (yn cynnwys S4C a BBC Radio Cymru)

Get iPlayer Automator (Apple Mac yn unig ond mae'n gweithio tu allan i Brydain)

Facebook

1. Ewch i'r fideo

2. Newidiwch yr www i m yn yr URL

3. Chwaraewch y fideo

4. De-gliciwch a dewiswch cadw fideo fel

S4C Clic

StreamTransport (lawrlwytho o S4C Clic, angen cysylltiad da i'r rhwygwyd heb broblemau, Windows yn unig)

Defnyddiwch youtube-dl ar gyfer S4C Clic (llinell orchymyn)

e.e.

youtube-dl -F http://www.s4c.cymru/clic/c_level2.shtml?series_id=531286144

Senedd.tv

Mae senedd.tv bellach yn cynnig lawrlwytho fideos. Ewch i'r botwm o dan unrhyw fideo.

Fel arall mae ffordd o wneud hyn trwy youtube-dl. (Manylion i'w dilyn yma yn fuan.)

Trawsnewid ffeiliau

FFmpeg (o FLV i AVI, MP4 ayyb]

YouTube

youtube-dl

youtube-dl (llinell orchymyn)

Enghraifft - lawrlwytho fideo:
youtube-dl https://www.youtube.com/watch?v=XUDb-lHN79Y

Enghraifft - lawrlwytho sain yn unig:
youtube-dl --extract-audio --audio-format mp3 https://www.youtube.com/watch?v=XUDb-lHN79Y

Eraill

Video DownloadHelper (ategyn Firefox)

You-Get

Gwasanaethau eraill megis Parliamentlive.tv

Dyma restr o wasanaethau mae youtube-dl yn gallu cipio (llinell orchymyn)

Cyngor amrywiol

Dyma sut i gael gwared â'r logo yn y cornel, y dyfrnod neu 'watermark'.

BBC

ffmpeg -i rhaglen.mp4 -vf delogo=x=1082:y=0:w=200:h=79 -c:a copy rhaglen_heblogo.mp4

S4C

Defnyddiwch rywbeth fel yr isod i dynnu logo S4C o'r cornel.

ffmpeg -i rhaglen.mp4 -vf delogo=x=7:y=6:w=69:h=57 -c:a copy rhaglen_heblogo.mp4