Gweithrediadau

Android Cymraeg

Oddi ar Hedyn

The printable version is no longer supported and may have rendering errors. Please update your browser bookmarks and please use the default browser print function instead.

Android1.gif

Dyma dudalen i rannu syniadau sut mae cyfieithu Android i'r Gymraeg.


Dw i ddim yn berson technegol ond, i fi, y peth pwysicaf yw'r gallu i decstio yn y Gymraeg. Tecstio darogan. Basai'n help i bawb ac yn adnodd arbennig o ddefnyddiol i ddysgwyr - Mal

Ydy'r cod Tecstio ar gael unrhywle? Neu efallai allforio'r geiriadur o OpenOffice (dan drwydded cod agored)? --Carlmorris 22:04, 30 Ionawr 2011 (UTC)


Ebost gan huwwaters (gyda chaniatad)

Dwi'n meddwl dwi'n deall sut i gyfieithu Android i'r Gymraeg, ar ôl llawer o ddarllen a gwneud llanast gyda gosodiadau fy Mac (newid llwybrau default yn Terminal etc.)

Nodyn: yn ôl sôn, bydd Android 2.3 - Honeycomb - efo cefnogaeth gwell a haws efo ieithoedd, ond mae dal angen cyfieithu hen fersiynau o Android i ffonau hŷn.

Dyma sut dwi'n deall hi:

Mae Android yn defnyddio ffeil strings.xml sy'n cynnwys 'strings' i un rhaglen penodol. 
Mae calendr yn un rhaglen, llyfr ffôn yn rhaglen arall, a phob un efo ffeil strings.xml ei hun.

I gyfieithu Android mae angen gwneud ffeil ychwanegol strings-cy.xml i bob rhaglen, ac ychwanegu locale arall yn kernel Android ei hun, i ddeud wrth y rhaglenni ma i 
ddefnyddio'r ffeiliau strings-cy.xml yn lle yr un Saesneg (UDA) stings.xml.

Mae Google yn defnyddio system Git i gadw trac o newidiadau. 
Hynny yw, mae pawb yn defnyddio Git i gael gafael ar ffeiliau Andorid a mae'n diweddaru'r ffeiliau mewn ffordd tebyg i 'real-time', neu fewn ffordd i osgoi un person 
yn gwneud newidiadau a'u fynylwytho, wedyn rhywun arall yn gwneud newidiadau i hen ffeil, ei fynylwytho, ac ysgrifennu dros y ffeil arall.

Bydd angen i ti cael gafael ar Git, sy'n gweithio fel ategyn i Terminal/Command. Ti wedyn angen rhoi cod i mewn i osod y lleoliad default, wedyn defnyddio ategyn o 
Git o'r enw Repo. Ti wedyn yn defnyddio Repo i wneud copi o holl ffeiliau Android o weinydd Google, sydd wedyn yn cadw nhw'n synced etc. Mae'n lawrlwytho nhw, 
wedyn mae angen i ti adeiladu'r ffeiliau neu dad-bacio nhw cyn medri di eu golygu.

Gobeithio bod hwn o gymorth.

Diolch Huw. --Carlmorris 15:34, 2 Chwefror 2011 (UTC)

I ychwanegu at yr uchod, gan fy mod wedi creu rhaglen syml a'i roi ar fy ffôn:

Mae system Git dal yn cael ei ddefnyddio sy'n rhywbeth mwy rhithiol, ond mae Repo yn derbyn ffeiliau o Git ac yn eu dad-bacio i ffeiliau darllenadwy (.xml .py .java etc.). Gellir defnyddio'r ffeiliau yn Repo er defnydd dy hun, a'i roi ar dy ffôn efo gwifren USB. I gyfrannu at Android gyfan, fel bod y Gymraeg yn dod yn rhan o fersiynau swyddogonol o Android, rhaid defnyddio Git i gymyd unrhyw ffeiliau sydd wedi eu newid wedi Repo, eu pacio a'u fynylwytho.

Gyda mwy o chwarae o gwmpas, y ffordd hawsaf yw lawrlwytho meddalwedd cod agored Eclipse a pecyn datblygu meddalwedd (SDK) Android. Mae Eclipse yn amgylchedd datblygu rhaglenni Java, gyda SDK Android yn rhoi cyfarwyddiadau i Eclipse dros pa ffeiliau i'w defnyddio a cod ychwanegol (headers, diffiniadau etc.).

Yn anffodus, mae llawer o wasanaethau ffônau symudol - Orange, O2, Vodafone - yn defnyddio fersiynau eu hunain o Android, felly hyd yn oed os yw'r Gymraeg yn rhan o Android swyddogol Google, ni fydd o reidrwydd yn ymddangos ar ffonau ar y farchnad. Sylwais ar hyn gan fod mwy o ieithoedd ar gael i Android na sy'n cael ei gynnig ar Android 2.2 trwy Orange. Felly, mae'n dipyn o job 'gwneud o eich hun'.

- Huw

newydd dechrau cyfieithu Android. Huw, dw i am hacio/fflachio cyn poeni am mabwysiadid gan cwmnïau. --Carlmorris 16:44, 12 Rhagfyr 2011 (UTC)

Beth yw'r diweddaraf? --Cymrodor (sgwrs) 08:03, 13 Gorffennaf 2013 (BST)

Does dim byd i'w adrodd yn anffodus. Cer amdani os oes gyda thi amser! --Carlmorris (sgwrs) 14:07, 13 Gorffennaf 2013 (BST)