Gweithrediadau

API Cymraeg

Oddi ar Hedyn

Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:42, 29 Ebrill 2016 gan Carlmorris (Sgwrs | cyfraniadau)

Dyma restr o wasanaethau API sydd o ddiddordeb i ddatblygwyr sy'n creu pethau Cymraeg.

Asiantaeth Safonau Bwyd - sgoriau hylendid bwyd

Mae’r data ar y sgoriau hylendid bwyd y DU a gyhoeddir ar www.food.gov.uk/ratings ar gael drwy raglen API, a hynny yn fformat XML a JSON. Mae hwn yn wasanaeth rhad ac am ddim ac nid oes angen cofrestru i’w ddefnyddio. Mae telerau ac amodau yn berthnasol (gweler y ddolen isod), ac mae canllawiau ar gael i ddatblygwyr.

Beiblau

Mae API ar gyfer Beibl Cymraeg Newydd (Argraffiad Diwygiedig) (BCN), Beibl.net (BNET) a Beibl William Morgan (BWM) ar gael eu hailddenfyddio. Mwy o wybodaeth yma.

Hedyn

Gan gynnwys Y Rhestr

Rhagor o wybodaeth: API Hedyn

Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru

Mae API i gyrchu data dangosyddion y Rhaglen. Mwy o wybodaeth yma.