Moch Cwta
Oddi ar Hedyn
Dechreuodd Wikipedia gyda neges ebost i gymuned o bobol. Dechreuodd Linux gyda neges bach hefyd.
Mae pob project, bach neu mawr, angen y moch cwta, cyfranwyr, aelodau, cynnwys ayyb.
Felly postia neges fan hyn os ti angen help i brofi dy broject arlein. Plis postia os ti angen am help - bydd yma elfen o hunan-hyrwyddo, mae'n iawn, gawn ni weld.
Hapus i ddechrau. --Carlmorris 00:33, 10 Chwefror 2011 (UTC)
Y Bydysawd
Mae'r Bydysawd yn rhywle i drafod materion cyfoes, chwaraeon a theledu. Mae'r wefan yn tynnu pennawdau a dolenni i straeon arlein yn awtomatig trwy'r dydd.
Bydda i rili rili gwerthfawrogi sylw ar unrhyw stori. Ti'n gallu logio mewn gyda cyfrifon ar Disqus, Twitter, Facebook, OpenID - mae gyda ti opsiwn i rhannu ar dy rwydwaith ond does dim rhaid i ti.
Mae'r gwefan wedi derbyn 98 sylw hyd yn hyn gan 10 person. Dechrau da, yn enwedig y ffaith bod y sylwadau o ansawdd. Nawr dw i'n gofyn am mwy o sylwadau. Dylai fe bod yn eitha hawdd. Gobeithio bydd e'n ddiddorol hefyd ond gawn ni weld. Diolch! Cer i'r cwestiynau aml. Efallai cer i raglen teledu a gadael sylw achos does dim lot ar hyn o bryd. --Carlmorris 00:33, 10 Chwefror 2011 (UTC)