Gweithredoedd

Dan y Cownter - gwendidau mewn darpariaeth Cymraeg

Oddi ar Hedyn

Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:06, 13 Ebrill 2016 gan Carlmorris (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)

Mae gwasanaethau yn Gymraeg ar-lein weithiau. Ond mae angen i ti ofyn ac efallai bydd y gwasanaeth dan y cownter mewn bag papur brown...

Dyma tudalen cyflym i gasglu enghreifftiau o statws isradd y Gymraeg ar-lein.

Ar-lein / ar y we

Pa enghreifftiau?

Ar hyn o bryd dw i'n meddwl bod unrhyw enghraifft yn dilys heblaw am diffyg rhyngwynebau achos maen nhw yn amlwg? Ond os oes enghraifft o ryngwyneb diffygol, pam lai. --Carlmorris (sgwrs) 16:32, 31 Hydref 2013 (UTC)

Google

Google Chwilio

  • "Did you mean: (gair Saesneg)?" (WEL, NA!!) e.e. [1]
  • Dim ymwybyddiaeth o dreigladau. Mae angen cydnabod a dangos canlyniadau gyda 'Gaernarfon', 'Nghaernarfon', 'Chaernarfon' os mae'r defnyddiwr yn chwilio am 'Caernarfon'.
  • Awtogwblhau ddim yn darparu unrhyw chwiliadau posib Cymraeg. Gweler.

.

Google Mapia

  • Diffyg enwau llefydd Cymraeg. Nid yw hon ar fap.

. . .

Google Newyddion

  • Diffyg ffynhonellau Cymraeg, e.e. Dyw Golwg360, BBC Newyddion nac Y Cymro ddim ar Google News o gwbl.

. . .

BBC

BBC.co.uk

. . .

iPlayer

  • chwiliad am 'radio cymru' - sero canlyniad
  • Lot o raglenni Saesneg yn parhau am flynyddoedd ond mae terfyn ar bob rhaglen Cymraeg - enghraifft
  • Mae modd neidio'n syth i ddarn benodol o raglen ar iPlayer enghraifft

BBC Newyddion/News

  • Is-raddio datganoliad a newyddion pwysig o Gymru o bosib? enghraifft
  • Diffyg newyddion byd-eang
  • Amser cyhoeddi. Weithiau mae'r un stori yn ymddangos yn gynharach yn Saesneg, hyd yn oed stori am 'bwnc Cymraeg'. Enghraifft arall ydy noson canlyniad yr is-etholiad yn Ynys Mon ym mis Awst 2013 pan oedd angen aros am oriau i weld y canlyniad.
  • BBC yn israddio Cymru - o adran i isadran

BBC - blogiau Cymraeg

BBC - diffyg disgrifiadau

Llywodraeth Cymru

Swyddfa Cymru

  • Sawl gwahaniaeth ar Twitter: nifer o drydariadau, bywgraffiad, diffyg dolenni (cymharer rhywbeth da fel llencymru/litwales)

Cymharu cyfrifon Twitter

Enw'r corff Cyfrif Cymraeg Sawl trydariad Nifer mae'n ddilyn Nifer dilynwyr Cyfrif Saesneg Sawl trydariad Nifer mae'n ddilyn Nifer dilynwyr Dyddiad gwirio
(BBBB.MM)
Swyddfa Cymru @swyddfacymru 196 2 111 @walesoffice 1,419 279 3,606 2013.11
Llety Caerdydd @lletycaerdydd 66 53 27 @cardiffdigs 839 143 358 2013.11
Cyngor Caerdydd @cyngorcaerdydd 6,706 248 1,066 @cardiffcouncil 15,757 355 22,241 2013.11
Parc Bute @parcbute 243 18 60 @buteparkcardiff 355 60 913 2013.11
Ombwdsmon @Ombwdsmon 98 75 45 @OmbudsmanWales 190 486 462 2015.11

Prifysgol Aberystwyth

Prifysgol Aber: gwefan argraffu mewn 11 iaith, ond dim Cymraeg

Meddalwedd arall

Yn fuan