Sut i greu isdeitlau ar fideo YouTube
Oddi ar Hedyn
Dyma sut i wneud isdeitlau ar YouTube.
Ewch i http://www.youtube.com/watch?v=rxNSgjS0pq0 am enghraifft a chliciwch ddant am
Pam?
Plant, pobol di-Gymraeg, dysgwyr (unrhyw iaith), pobol tramor, byddar, karaoke, cerddoriaeth, darlithoedd, rhaglenni teledu, hwyl. Llawer o rhesymau.
Sut?
1. Lanlwythwch eich fideo chi.
2. Creuwch ffeiliau gyda'ch hoff golygydd testun, e.e. Gedit ar Linux Ubuntu, Notepad neu TextPad ar Windows, TextMate ar Apple Mac. (Neu rydych chi'n gallu defnyddio meddalwedd isdeitlo.)
Dyma'r ffeiliau dw i wedi defnyddio:
Cymraeg: http://quixoticquisling.com/testun/ble'r-wyt-ti'n-myned-cymraeg.sbv
Deutsch: http://quixoticquisling.com/testun/ble'r-wyt-ti'n-myned-deutsch.sbv
English: http://quixoticquisling.com/testun/ble'r-wyt-ti'n-myned-english.sbv
Y fformat yw:
awr:munud:eiliad:milieiliad,awr:munud:eiliad:milieiliad
Geiriau
awr:munud:eiliad:milieiliad,awr:munud:eiliad:milieiliad
Geiriau
awr:munud:eiliad:milieiliad,awr:munud:eiliad:milieiliad
[Disgrifiad mewn cromfachau sgwar]
...
Er enghraifft:
0:00:00.000,0:00:15.000
[Cychwyn]
0:00:15.000,0:00:24.000
Ble'r wyt ti'n myned
fy 'ngeneth ffein gu
0:00:24.000,0:00:30.000
Myned i odro, o syr,
mynte hi
...
Dw i wedi sgwennu 000 am milieiliad bob tro. Dw i wedi torri'r brawddegau am golwg.
Mae'n dweud "[Cychwyn]" am y 15 eiliad cyntaf.
3. Ewch i YouTube. Ewch i Edit (eich fideo) | Captions and Subtitles | Add New Captions or Transcript. Dilynwch y cyfarwyddiadau.
4. Weithiau dydy'r newidiadau yn digwydd yn syth am rhyw rheswm.
Help
Dw i'n chwilio am fwy o ieithoedd ar gyfer yr enghraifft yma. Wyt ti'n gallu helpu?
Diolch i Pererin am y cerddoriaeth a Annette Strauch am y cyfieithiad Almaeneg.