Tech/iaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2014
Oddi ar Hedyn
Bydd llwyth o ddigwyddiadau am dechnoleg, gwe, meddalwedd, memes yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol 2014 yn Llanelli.
Rydym yn ceisio casglu amserlen ar y dudalen hon. Plîs ychwanegwch unrhyw ddigwyddiadau gyda theitl, manylion a lleoliad.
Defnyddiwch #haciaith os ydych chi eisiau trafod stwff technolegol a'r iaith. Ni fydd 'stondin' Hacio'r Iaith ar y maes yn Eisteddfod Genedlaeth 2014 fel y cyfryw ond bydd lot ohonom ni o'r cymuned o gwmpas.
dydd Gwener 1
...
dydd Sadwrn 2
...
dydd Sul 3
Unrhyw un am sesh Hacio'r Iaith yn y dafarn am 2 awr? (Hyblyg o ran dyddiad)
Bydda'i o gwmpas ar ddyddiau Sul/Llun/Maw, siwr o fod, ac yn hapus i gyfrannu i sesh! Illtud (sgwrs) 15:08, 18 Mehefin 2014 (BST)
dydd Llun 4
BBC Cymru Fyw
12 hanner dydd
Pabell BBC Radio Cymru
Ewch i 'glywed am wasanaeth ar-lein unigryw newydd BBC Cymru yn Gymraeg'
Hawliau yn yr oes ddigidol: democratiaeth a chreadigrwydd
3:30YH
Pabell y Cymdeithasau 2
Sut mae llywodraethau a chwmnïau yn bygwth preifatrwydd yr unigolyn a sut mae ymgyrchwyr yn ceisio ei amddiffyn? Beth yw perthnasedd hawlfraint i’r Gymraeg? Yn y cyd-destun yma, beth yw dyfodol S4C? Oes angen darparydd newydd o gynnwys digidol yn Gymraeg yn ogystal?
Radio Cymru > Teledu Cymraeg > *llenwch y bwlch*
Gwestai:
Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones (Cadeirydd)
Jim Killock (ORG - Grŵp Hawliau Agored)
Robin Owain (Wikimedia)
Sian Gale (BECTU)
Carl Morris (Cymdeithas yr Iaith Gymraeg)
Sesiwn Technolegau Iaith
4:00YH
Stondin Prifysgol Bangor
Trosolwg o waith y flwyddyn, gan gynnwys braich robotig yn ymateb i orchmynion llafar Cymraeg, ap Paldaruo, sy'n ffordd o dorfoli casglu corpws llafar (rhan o'n project GALLU), lansio ein ap dysgu Cymraeg (project TILT)
dydd Mawrth 5
...
dydd Mercher 6
Unrhyw un am sesh Hacio'r Iaith yn y dafarn am 2 awr? (Hyblyg o ran dyddiad)
- Ti'n galw dwy awr yn sesh wyt ti? ;) Cyfrifa fi mewn, ys dywedir. Kinetic (sgwrs) 07:09, 14 Gorffennaf 2014 (BST)
dydd Iau 7
Llwyfan ar gyfer y Gymraeg ledled y byd - yr iaith mewn oes ddigidol
12.00 - 13.00
Trefnwyd gan Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Pabell y Cymdeithasau 1
- Rhodri Glyn Thomas AC - Y Comisiynydd sydd â chyfrifoldeb dros
Ieithoedd Swyddogol yn y Cynulliad
- Rhodri ap Dyfrig – Arbenigwr mewn Cyfranogiad Digidol
- Geraint Wyn Parry – Prif Weithredwr, Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru
- Huw Marshall – Rheolwr Digidol, S4C
- Gareth Morlais – Pennaeth yr Uned Iaith Gymraeg, Llywodraeth Cymru
Bydd y panel o arbenigwyr yn trafod dyfodol yr iaith Gymraeg yn yr oes ddigidol. Prif fyrdwn y drafodaeth fydd edrych ar sut y bydd newidiadau yn y ffordd rydym yn cyfathrebu ac yn rhannu gwybodaeth yn effeithio
ar ieithoedd fel y Gymraeg, a sut y gall ieithoedd o’r fath addasu i ddatblygiadau technolegol.
dydd Gwener 8
Brecwast #dyddgwen yng nghanol dre? Pwy sydd o blaid?! --Carlmorris (sgwrs) 12:57, 6 Mehefin 2014 (BST)
- Dwi mewn ar yr amod bod "brecwast" ddim yn meddwl rhywbeth gwirion fel 9 yn y bora. :) Kinetic (sgwrs) 07:13, 14 Gorffennaf 2014 (BST)
dydd Sadwrn 9
...
I'w hychwanegu
Nid yw'r dyddiadur uchod yn gyflawn. Mae croeso i chi ychwanegu digwyddiadau. Os oes rhagor o fanylion am ddigwyddiadau gan y sefydliadau isod byddai fe'n wych i weld nhw.
- Canolfan Bedwyr?
- Maes D?
- S4C
BBCCymdeithas yr Iaith Gymraeg?- prifysgolion
- eraill?