Dan y Cownter - gwendidau mewn darpariaeth Cymraeg
Oddi ar Hedyn
Mae gwasanaethau yn Gymraeg ar-lein weithiau. Ond mae angen i ti ofyn ac efallai bydd y gwasanaeth dan y cownter mewn bag papur brown...
Dyma tudalen cyflym i gasglu enghreifftiau o statws isradd y Gymraeg ar-lein.
Pa enghreifftiau?
Ar hyn o bryd dw i'n meddwl bod unrhyw enghraifft yn dilys heblaw am diffyg rhyngwynebau achos maen nhw yn amlwg? Ond os oes enghraifft o ryngwyneb diffygol, pam lai. --Carlmorris (sgwrs) 16:32, 31 Hydref 2013 (UTC)
Google Chwilio
- Geiriau Cymraeg yn isradd, e.e. Arriva Wales / Arriva Cymru
- "Did you mean: (gair Saesneg)?" (WEL, NA!!)
- Dim ymwybyddiaeth o dreigladau
.
Google Mapia
- Diffyg enwau llefydd Cymraeg. Nid yw hon ar fap.
. . .
Google Newyddion
- Diffyg ffynhonellau Cymraeg, e.e. Dyw Golwg360 ddim ar Google News o gwbl.
. . .
BBC.co.uk
- Edrych i mi fel bod http://www.bbc.co.uk yn diofynnu i Lundain a Saesneg. Does dim enwau Cymraeg o dan newid lleoliad. --Carlmorris (sgwrs) 16:36, 31 Hydref 2013 (UTC)
. . .
iPlayer
- Lot o raglenni Saesneg yn parhau am flynyddoedd ond mae terfyn ar bob rhaglen Cymraeg - enghraifft
BBC Newyddion/News
- Is-raddio datganoliad a newyddion pwysig o Gymru o bosib? enghraifft
- Diffyg newyddion byd-eang
- Amser cyhoeddi. Weithiau mae'r un stori yn ymddangos yn gynharach yn Saesneg, hyd yn oed stori am 'bwnc Cymraeg'. Enghraifft arall ydy noson canlyniad yr is-etholiad yn Ynys Mon ym mis Awst 2013 pan oedd angen aros am oriau i weld y canlyniad.
- Straeon am y Gymraeg ar gael ar wefan Cymraeg yn unig, e.e.
- Dim modd cael BBC Newyddion (ond mae BBC Wales yno) ar app BBC News (tudalen Gymraeg BBC Newyddion sy'n cyfeirio defnyddwyr at URL symudol a'r ap, heb nod i nad oes newyddion Cymraeg ar yr ap)
- Beth am BBC News ar Connected TV? Oes Newyddion Cymru yno, ac yn Gymraeg?
- Dim dolen i BBC Newyddion o ddewislen hafan BBC News, a'r ddolen 'Wales' yn mynd i'r newyddion Saesneg yn unig yn lle rhoi dewis Cym/Saes
BBC - blogiau Cymraeg
- Blog Vaughan Roderick yn defnyddio hen feddalwedd heb fotymau rhannu tra bod 'na botymau ar flogiau Saesneg fel David Cornock. Effaith niweidiol o bosib ar nifer o ddarllenwyr.
BBC - diffyg disgrifiadau
Swyddfa Cymru
- Sawl gwahaniaeth ar Twitter: nifer o drydariadau, bywgraffiad, diffyg dolenni (cymharer rhywbeth da fel llencymru/litwales)
Cymharu cyfrifon Twitter
Enw'r corff | Cyfrif Cymraeg | Sawl trydariad | Nifer mae'n ddilyn | Nifer dilynwyr | Cyfrif Saesneg | Sawl trydariad | Nifer mae'n ddilyn | Nifer dilynwyr | Dyddiad gwirio (BBBB.MM) |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Swyddfa Cymru | @swyddfacymru | 196 | 2 | 111 | @walesoffice | 1,419 | 279 | 3,606 | 2013.11 |
Llety Caerdydd | @lletycaerdydd | 66 | 53 | 27 | @cardiffdigs | 839 | 143 | 358 | 2013.11 |
Cyngor Caerdydd | @cyngorcaerdydd | 6,706 | 248 | 1,066 | @cardiffcouncil | 15,757 | 355 | 22,241 | 2013.11 |
Parc Bute | @parcbute | 243 | 18 | 60 | @buteparkcardiff | 355 | 60 | 913 | 2013.11 |
Prifysgol Aberystwyth
Prifysgol Aber: gwefan argraffu mewn 11 iaith, ond dim Cymraeg