Newid Windows 8 i'r Gymraeg
Oddi ar Hedyn
Windows 8 yn Gymraeg
Er nad oes llawer o gydnabyddiaeth o hyn ar y We, mae hi *yn* bosib defnyddio Windows 8 yn Gymraeg.
Y cam cyntaf ydy sefydlu'r pecyn iaith. Mae angen defnyddio'r arlwy "charm" Windows-8 aidd sef yr arlwy ddu gewch chi pan yn symud eich llygoden i gornel dde gwaelod eich sgrin.
Gweler y linc yma : http://windows.microsoft.com/en-US/windows-8/language#1TC=t1
Yr ail gam yw sicrhau mai'r Gymraeg yw prif iaith eich cyfrifiadur. Os nad ydych wedi gwneud hyn yn barod wrth sefydlu gallwch wneud hyn yw dewis "Language" yn y "Control Panel". Rhaid i'r Gymraeg fod uwchben y Saesneg neu chewch chi fawr ddim Cymraeg, dim ond manion fel y dyddiad.
Mae'r linc yma'n dangos engrhaifft o sut i lwytho pecyn iaith : http://support.microsoft.com/kb/2607607
Bydd angen llwytho pecynnau iaith ychwanegol mewn ffordd wahanol ar gyfer meddalwedd fel Microsoft Office, Libre Office, Firefox ac ati.