Gweithredoedd

Prosesu treigladau gyda meddalwedd

Oddi ar Hedyn

Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:20, 5 Hydref 2012 gan Carlmorris (sgwrs | cyfraniadau)

Esboniad

Mae angen cod agored i adnabod treigladau. Bydd gymaint o bosibiliadau!

Dw i eisiau datblygu ategyn WordPress i ychwanegu treigladau cywir i chwilio. Ar hyn o bryd mae angen chwilio am 'Caer', 'Gaer', 'Nghaer' ar wahan. Gyda'r ategyn byddai modd chwilio am un ohnonyn nhw yn unig a derbyn canlyniadau gyda phob fersiwn.

Felly... os ydyn ni'n gallu sgwennu ffug-cod gyda'n gilydd byddai modd sgwennu'r ategyn a rhyddhau'r cod dan GPL.

Er mwyn cael prosiect haws:

  • Efallai gwnawn ni ddechrau gyda'r fersiwn 'geiriadur' o'r gair yn unig - yn yr enghraifft mae pobl yn debygol i chwilio am 'Caer' yn hytrach nag unrhyw fersiwn arall.
  • Anghofia gwrywaidd a benywaidd ar hyn o bryd (byddai angen rhestr o eiriau fel arall)

O'n i'n meddwl bod system gyda http://kevindonnelly.org.uk/ ond dw i'n methu ffeindio fe. Hefyd bydda'r broses datblygu yn hwyl!


Y treigladau

Llythyren Meddal Trwynol Llais
p b mh ph
t d nh th
c g ngh ch
b f m
d dd n
g Nodyn:Unicode* ng
m f
ll l
rh r

--Carlmorris (sgwrs) 20:20, 5 Hydref 2012 (BST)


Y cod

treiglad meddal treiglad trwynol treiglad llais