Gweithredoedd

Gweithdy Creu App ar gyfer dechreuwyr gyda Mei Gwilym

Oddi ar Hedyn

Fersiwn a roddwyd ar gadw am 22:39, 19 Gorffennaf 2012 gan Meigwilym (sgwrs | cyfraniadau)

Gweithdy Creu App ar gyfer Dechreuwyr

Dyma ni, mofos, dy gyfle di i wneud £££ ac ymddeol yn gynnar...

OK, ella ddim, ond yn y gweithdy hwn byddan ni'n edrych ar sylfeini rhaglennu, gan ddefnyddio'r rhain i greu app syml.

Mae sawl nod i'r gweithdy. Gall o unai:

  • Rhoi syniad i ti sut mae rhagleni cyfrifiadurol yn gweithio
  • Rhoi ti ar ben ffordd i greu apps syml ar gyfer dy hun neu dy gymuned
  • Rhoi'r pwer i ti gymryd drosodd y byd

Beth bynnag dy obeithion, dwi'n siwr cawn ni lot o hwyl.

Beth fyddwn ni'n creu?

App syml i amserlenu digwyddiad neu debyg. Dyma esiampl byw: http://gwilym.net/gwylfelin sy'n dangos holl digwyddiadau yng Ngŵyl Y Felinheli 2012.

Byddwn ni'n rhaglennu yn Javascript, gan edrych ar HTML a CSS hefyd (a mwy na thebyg son am PHP a cronfeydd data).

Gan nad ydw i yn ffan o ail dyfeisio olwynion, byddwn ni'n defnyddio'r llyfrgell http://jquerymobile.com/ i'n cynorthwyo.

Ar gyfer demos cyflym byddwn yn defnyddio http://jsfiddle.net/

Dwi'n awgrmu i ti lawrlwytho Notepad++ http://notepad-plus-plus.org (rhad ac am ddim) a Chrome https://www.google.com/intl/en/chrome/browser/ ar gyfer y sesiwn. Lawrlwytha'r rhain cyn y sesiwn rhag ofn bydd problemau di-wi.

Croeso i bawb!

Tra dwi'n gobeithio byddi di'n dod â dy laptop i gael ymuno yn yr hwyl, does dim rheidrwydd i wneud - dim ond parodrwydd i wrando arna i'n mwydro am awr neu ddwy.

Bydd y gweithdy am 1000 ar ddydd Gwener y 'Steddfod, yng nghefnlen y Babell Lên.

Pwy ydw i?

Dwi'n creu gwefannau yn llawrydd, ac wedi bod wrthi ers bron i 6 mlynedd. Mae peth gwybodaeth ar fy ngwefan http://mei.gwilym.net/ neu gelli di ddal fyny gyda mi yn http://twitter.com/meigwilym