Sgwrs:Meddalwedd
Oddi ar Hedyn
Beth fydd y strwythur mwyaf defnyddiol ar y tudalen(nau)/adran yma? Mae 3 amcan:
- cyfieithwyr 'pro' eisiau cyfieithu
- weithiau mae pobol eisiau treulio 5 munud i helpu gyda chyfieithu
- defnyddwyr eisiau ffeindio meddalwedd yn Gymraeg, e.e. themau WordPress
Mae hen cynnwys ar Dokuwiki, nai trosglwyddo fe cyn hir ond bydd lot yn hen. --Carlmorris 10:04, 13 Mehefin 2011 (UTC)
- Dw i'n am gynnig:
- Tudalen flaen gyda rhestr o BOPETH (meddlawed a gwasanaethau ar-lein) yn nhrefn y wyddor, a nesaf i bob un ei statws (ar gael yn Gymraeg, ar ganol ei gyfieithu, neu mae posib ei leoleiddio)
- Wedyn tudalen unigol i bob un o'r uchod, gyda dolenni perthnasol i'r cyfieithiad ayyb (a manylion cyswllt y rhai sy'n gyfrifol os yn bosib)
- yn olaf, gwneud defnydd o gategoriau - felly os ydy rhywun yn clcio ar Drupal (sy falla ond wedi hanner ei gyfieithu), byddai modd clicio ar y categori/tage 'CMS' ar y gwaelod, a bydd yn dangos pob opsiwn CMS arall o'r rhestr, a gobeithio bod un addas sydd wedi ei leoleiddio'n llawn yna
- Beth chi'n feddwl?--Rhyswynne 10:21, 13 Mehefin 2011 (UTC)
- Felly ychwanegu meddalwedd i'r Rhestr? Syniad da. (Neu cael gwarad a'r Rhestr fel syniad a galw popeth Hedyn!) Pa gategoriau? Bach yn wahanol i Categori:Blog Cymraeg achos mae lot o amrywiaeth.
- Categoriau mawr fel:
(snip)
- Categoriau bach fel:
(snip) cer i Sut i ychwanegu meddalwedd i'r Rhestr!
- fersiwn gynnar iawn... Sut i ychwanegu meddalwedd i'r Rhestr. Croesawi unrhyw help! --Carlmorris 16:53, 13 Mehefin 2011 (UTC)
- ddim yn licio "yn y cwmwl" ond mae'n disgrifio beth yw e.. --Carlmorris 17:20, 13 Mehefin 2011 (UTC)