Gweithredoedd

Sgwrs

Sgwrs:Meddalwedd

Oddi ar Hedyn

Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:00, 13 Mehefin 2011 gan Carlmorris (sgwrs | cyfraniadau)

Beth fydd y strwythur mwyaf defnyddiol ar y tudalen(nau)/adran yma? Mae 3 amcan:

  • cyfieithwyr 'pro' eisiau cyfieithu
  • weithiau mae pobol eisiau treulio 5 munud i helpu gyda chyfieithu
  • defnyddwyr eisiau ffeindio meddalwedd yn Gymraeg, e.e. themau WordPress

Mae hen cynnwys ar Dokuwiki, nai trosglwyddo fe cyn hir ond bydd lot yn hen. --Carlmorris 10:04, 13 Mehefin 2011 (UTC)

Dw i'n am gynnig:
  • Tudalen flaen gyda rhestr o BOPETH (meddlawed a gwasanaethau ar-lein) yn nhrefn y wyddor, a nesaf i bob un ei statws (ar gael yn Gymraeg, ar ganol ei gyfieithu, neu mae posib ei leoleiddio)
  • Wedyn tudalen unigol i bob un o'r uchod, gyda dolenni perthnasol i'r cyfieithiad ayyb (a manylion cyswllt y rhai sy'n gyfrifol os yn bosib)
  • yn olaf, gwneud defnydd o gategoriau - felly os ydy rhywun yn clcio ar Drupal (sy falla ond wedi hanner ei gyfieithu), byddai modd clicio ar y categori/tage 'CMS' ar y gwaelod, a bydd yn dangos pob opsiwn CMS arall o'r rhestr, a gobeithio bod un addas sydd wedi ei leoleiddio'n llawn yna
Beth chi'n feddwl?--Rhyswynne 10:21, 13 Mehefin 2011 (UTC)
Felly ychwanegu meddalwedd i'r Rhestr? Syniad da. (Neu cael gwarad a'r Rhestr fel syniad a galw popeth Hedyn!) Pa gategoriau? Bach yn wahanol i Categori:Blog Cymraeg achos mae lot o amrywiaeth.
Categoriau mawr fel:
  • Meddalwedd yn Gymraeg
  • Meddalwedd Windows pen-ddesg (e.e. Audacity)
  • Meddalwedd Mac OS pen-ddesg (e.e. Audacity)
  • Meddalwedd Linux pen-ddesg (e.e. Audacity, GNOME)
  • Meddalwedd gweinydd (rhedeg ar weinydd neu ar y we fel PHPMyAdmin, WordPress, Drupal, Apache)
Categoriau bach fel:
  • Meddalwedd - thema WordPress
  • Meddalwedd - ategyn WordPress?
fersiwn gynnar iawn... Sut i ychwanegu meddalwedd i'r Rhestr. Croesawi unrhyw help! --Carlmorris 16:53, 13 Mehefin 2011 (UTC)