Sut i ddechrau blog - canllaw i ddechreuwyr
Oddi ar Hedyn
Mae'r ganllaw yma yn esbonio sut i ddechrau blog lleol am dy ardal ar gwasanaeth am ddim o'r enw WordPress.com. Wrth gwrs rwyt ti'n gallu dechrau blog am unrhyw pwnc arall ond rydyn ni'n rhoi pwyslais ar blog lleol yn y ganllaw yma. Mae systemau eraill yn bodoli hefyd ond dw i'n licio WordPress - mae lot o bobol o Gymru a llawer iawn o gwmpas y byd yn cytuno!
Pam?
Mae'r ganllaw yn ddefnyddiol am y rhesymau bosib isod.
- Rhannu newyddion
- Rhannu lluniau a fideos
- Hyrwyddo digwyddiadau
- Helpu dy gymuned neu pentref ac ysgol
- Codi arian am bethau, elusenau
- Ymgyrchu
- Papur bro ar-lein
- Defnyddio'r iaith Gymraeg ar-lein
Llun o http://baecolwyn.com - blog lleol da iawn
Beth ydw i angen?
Rwyt ti angen:
- cyfrifiadur
- cysylltiad i'r we
- cyfeiriad e-bost
(Os wyt ti'n gallu darllen y tudalen yma ar y we ac os mae gen ti cyfeiriad e-bost, rwyt ti'n hollol iawn!)
Beth fydd nodweddion y blog?
Gwnawn ni defnyddio gwasanaeth ar-lein o'r enw WordPress. Mae'r peth am ddim. Ar y diwedd bydd gen ti gwefan gyda'r nodweddion isod. Does dim ots os ti ddim yn eu deall eto.
- eitemau newyddion / cofnodion
- gallu postio testun, lluniau, fideo, neu ychydig o'r tri
- sylwadau gan darllenyddion os ti eisiau
- cyfeiriad fel enwpentref.wordpress.com
- rhyngwyneb yn Gymraeg
- mwy nag un awdur os ti eisiau
Amser?
Bydd y broses yma yn gymryd tua 5 neu 10 munud.
Iawn, dw i'n barod. Canllaw plis!
1. Cer i http://cy.wordpress.com/
2. Clicia "Sign Up Now!"
3. Llenwa'r ffurflen gyda:
- Cyfeiriad Blog (yr x yn x.wordpress.com, os mae'r ffurflen yn gynnig cyfeiriad fel "x.com is available, use it for your blog for $rhwybeth a year?", clicia "No thanks, I’ll use the free wordpress.com address." am y tro. Rwyt ti'n gallu cysylltu dy flog gyda chyfeiriad fel x.com yn y dyfodol - ond paid a phoeni ar hyn o bryd.)
- Enw Defnyddiwr (defnyddia'r un enw a'r cyfeiriad os ti eisiau)
- Cyfrinair
- Cadarnhau (yr un cyfrinair eto)
- E-mail address
4. Clicia "Sign Up"
5. Mae WordPress yn gynnig ffurflen arall gyda phroffil personol. Rwyt ti'n gallu llenwi a chlicia "Cadw Proffil"...
...neu gadael y proffil yn hollol wag am y tro.
6. Cer i dy e-bost. Dylet ti wedi derbyn e-bost gan WordPress i gadarnhau dy gyfeiriad e-bost. Dilyna'r cyfarwyddiadau yn y neges e-bost. Paid ag anghofio dy ffolder am sbam, weithiau mae negeseuon yn mynd yna. (Dim lwc? Arosa am 5 neu 10 munud. Os dwyt ti ddim wedi derbyn yr e-bost, cei paned. Os dwyt ti dal ddim wedi derbyn yr e-bost, cer i'r gwaelod y tudalen a newida'r cyfeiriad i gyfeiriad dy briod, plentyn neu ffrind.)
7. Rwyt ti wedi gorffen y pethau sylfaenol! Mae'r blog lleol yn fyw ar y we - cer i'r cyfeiriad. Mae dim ond un cofnod arno fe ar hyn o bryd ("Hello world!"), sef cofnod awtomatig... Gweler yr adran nesaf am dy gofnod cyntaf go iawn.
Postio dy gofnod cyntaf
Cofnod blog yw eitem o newyddion, barn, gwybodaeth neu beth bynnag. Yn yr adran hon, rydyn ni'n edrych at bostio cofnod dy hun.
1. Cer i http://cy.wordpress.com eto. Y peth pwysig yw'r bar llwyd ar y brig. Ti'n gallu dechrau popeth gyda'r bar llwyd ar y brig.
2. Os ydy'r bar llwyd yn dweud "Fy Nghyfrif" a "Fy Mlog" mae popeth yn iawn, cer i 3. (Ond os oes gyda ti botwm Mewngofnodi dylet ti mewngofnodi gyda dy enw a chyfrinair. Cofia enw oedd dy enw blog neu beth bynnag sgwennaist ti pan greuaist ti'r flog. Llanhedyn oedd enw fy mhentref ond dyw e ddim yn bodoli yn anffodus. Dim ond engraifft.) Os oes gyda ti cysylltiad i'r we, rwyt ti'n gallu mewngofnodi unrhyw le - caffi, adre, llyfrgell, ar y lleuad ayyb. Defnyddia "Cofia fi" am mewngofnodi yn awtomatig - adre neu ar dy gliniadur yn unig i fod yn ddiogel!
3. Cer i "Fy Mlog" - dylai fe ymddangos dewislen, does dim rhaid i ti clicio. Clicia "Cofnod Newydd". Bydd sgrin yn ymddangos, mae'r rhan fwyaf yn wyn. Gwyn yw dy fyd.
4. Ti yw'r golygydd: dim rheolau, dim ond canllawiau. Peth pwysig gyda dy gofnod cyntaf yw gorffen rhywbeth bach a chyhoeddi. Efallai sgwenna rhywbeth fel "Archwilio'r busnes blogio yma. Dw i'n dysgu. Diolch am ddarllen.". Efallai paid â bod yn ddwfn. Ond lan i ti. Mae'r teitl yn eitha pwysig - bydd e'n ymddangos ar Google, Facebook, Twitter ayyb, i unrhyw danysgrifwr (trwy darllenydd RSS), dy flog fel gwefan hefyd wrth gwrs. Felly dw i'n trio sgwennu crynodeb fach o'r cofnod yn y teitl. Mae mwyseiriau, puns ayyb yn gweithio yn y papur, dydyn nhw ddim mor dda yn y teitl. Ond lan i ti. Dim ond canllawiau.
5. Clicia "Cyhoeddi"...
6. Mae'r peth ar y we. Yn ôl y nodiad melyn. Cer i gyfeiriad dy flog i weld dy waith.
Opsiynau
Thema ayyb... yn fuan
Dolenni perthnasol
- Sut i ychwanegu lluniau i dy flog lleol
- Sut i newid yr iaith dy flog i Gymraeg
- Sut i danysgrifio i flogiau yn awtomatig gydag RSS
- Syniadau ar gyfer dy flog lleol
- Y Rhestr - blogiau lleol am ysbrydoliaeth
- Y Rhestr - blogiau yn Gymraeg (llawer)
Am y tudalen yma
Croeso i ti golygu'r tudalen yma gydag unrhyw pethau defnyddiol. Yn enwedig, bydd canllaw ar fideo yn dda!
Os wyt ti eisiau helpu, cer i gyfieithu WordPress.com i Gymraeg: http://translate.wordpress.com/projects/wpcom/cy/default