Sut i newid iaith eich blog i Gymraeg
Oddi ar Hedyn
Gallwch newid dau wahanol osodiad iaith yn WordPress.com; iaith eich blog, a iaith y rhyngwyneb.
Iaith y blog
Iaith y blog ydy'r iaith y byddwch yn ysgrifennu eich blog ynddo. Mae gan bob blog ei osodiad iaith ei hunan, felly os oes gennych flogiau lluosog sy'n gysylltiedig â'ch cyfrif, gall pob un gael gosodiad iaith gwahanol.
Gellir golygu'r gosodiad iaith o dan Gosodiadau > Cyffredinol (Settings > General) ar dashfwrdd y blog.
Iaith y rhyngwyneb
Dyma'r iaith a ddefnyddir gan eich elfennau dangosfwrdd (neu rhyngwyneb defnyddiwr). Mae'n benodol i bob cyfrif WordPress.com. Nid yw'n newid o flog i flog.
Gellir golygu gosodiad iaith eich rhyngwyneb o dan Defnyddwyr > Personol (Users > Personal Settings) yn y dewislen chwith.
Dyw rhai o'r termau ddim yn Gymraeg?
Mae WordPress Cymraeg yn dibynnu ar y gymuned i gyfieithu a rhannu themâu, ategion a'r prif system WordPress i Gymraeg.
Os wyt ti wedi dewis thema neu nodwedd sydd ddim ar gael yn Gymraeg eto, byddi di'n gweld ambell i derm yn Saesneg.
Rydym yn gweithio arno fe!