Tech/iaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2014
Oddi ar Hedyn
Bydd llwyth o ddigwyddiadau am dechnoleg, gwe, meddalwedd, memes yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol 2014 yn Llanelli.
Rydym yn ceisio casglu amserlen ar y dudalen hon. Plîs ychwanegwch unrhyw ddigwyddiadau gyda theitl, manylion a lleoliad.
Defnyddiwch #haciaith os ydych chi eisiau trafod stwff technolegol a'r iaith. Ni fydd 'stondin' Hacio'r Iaith ar y maes yn Eisteddfod Genedlaeth 2014 fel y cyfryw ond bydd lot ohonom ni o'r cymuned o gwmpas.
dydd Gwener 1af
...
dydd Sadwrn 2il
...
dydd Sul 3ydd
Sesiwn Hacio'r Iaith
5:30YH tan 7:30YH
Dewch i drafod technoleg a'r Gymraeg.
Croeso cynnes i bawb.
Tafarn Y Bryngwyn Newydd, Pwll ger Llanelli
dydd Llun 4ydd
BBC Cymru Fyw
12 hanner dydd
Pabell BBC Radio Cymru
Ewch i 'glywed am wasanaeth ar-lein unigryw newydd BBC Cymru yn Gymraeg'
Hawliau yn yr oes ddigidol: democratiaeth a chreadigrwydd
3:30YH
Trefnwyd gan Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Pabell y Cymdeithasau 2
Sut mae llywodraethau a chwmnïau yn bygwth preifatrwydd yr unigolyn a sut mae ymgyrchwyr yn ceisio ei amddiffyn? Beth yw perthnasedd hawlfraint i’r Gymraeg? Yn y cyd-destun yma, beth yw dyfodol S4C? Oes angen darparydd newydd o gynnwys digidol yn Gymraeg yn ogystal?
Radio Cymru > Teledu Cymraeg > *llenwch y bwlch*
http://cymdeithas.org/digwyddiadau/hawliau-yn-yr-oes-ddigidol-democratiaeth-chreadigrwydd
Gwestai:
Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones (Cadeirydd)
Jim Killock (ORG - Grŵp Hawliau Agored)
Robin Owain (Wikimedia)
Sian Gale (BECTU)
Carl Morris (Cymdeithas yr Iaith Gymraeg)
Prifysgol Bangor: Sesiwn Technolegau Iaith
4:00YH
Stondin Prifysgol Bangor
Trosolwg o waith y flwyddyn, gan gynnwys braich robotig yn ymateb i orchmynion llafar Cymraeg, ap Paldaruo, sy'n ffordd o dorfoli casglu corpws llafar (rhan o'n project GALLU), lansio ein ap dysgu Cymraeg (project TILT)
dydd Mawrth 5ed
...
dydd Mercher 6ed
Sesiwn Hacio'r Iaith
5:00YH - tan amser i'w gadarnhau
Ar y maes: Bwrdd mawr ger y stondinau bwyd
Dewch i drafod technoleg a'r Gymraeg. Croeso i bawb.
dydd Iau 7fed
Llwyfan ar gyfer y Gymraeg ledled y byd - yr iaith mewn oes ddigidol
12.00 - 13.00
Trefnwyd gan Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Pabell y Cymdeithasau 1
- Rhodri Glyn Thomas AC - Y Comisiynydd sydd â chyfrifoldeb dros
Ieithoedd Swyddogol yn y Cynulliad
- Rhodri ap Dyfrig – Arbenigwr mewn Cyfranogiad Digidol
- Geraint Wyn Parry – Prif Weithredwr, Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru
- Huw Marshall – Rheolwr Digidol, S4C
- Gareth Morlais – yr Uned Iaith Gymraeg, Llywodraeth Cymru
Bydd y panel o arbenigwyr yn trafod dyfodol yr iaith Gymraeg yn yr oes ddigidol. Prif fyrdwn y drafodaeth fydd edrych ar sut y bydd newidiadau yn y ffordd rydym yn cyfathrebu ac yn rhannu gwybodaeth yn effeithio
ar ieithoedd fel y Gymraeg, a sut y gall ieithoedd o’r fath addasu i ddatblygiadau technolegol.
dydd Gwener 8fed
Brecwast Ffrwti
9YB - 11YB
The York Palace, 51 Stryd Stepney, Llanelli
Dewch i fwyta brecwast a chreu delweddau #dyddgwen gyda'n gilydd. Croeso i bawb.
dydd Sadwrn 9fed
...
I'w hychwanegu
Mae croeso i chi ychwanegu digwyddiadau i'r rhestr ychod. Os oes rhagor o fanylion am ddigwyddiadau gan y sefydliadau isod byddai fe'n wych i weld nhw.
Canolfan Bedwyr?- Maes D?
- S4C
BBCCymdeithas yr Iaith Gymraeg?- prifysgolion
- eraill?