Teipio acenion Cymraeg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Oddi ar Hedyn
Curon (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae Llywodraeth Cymru wedi [http://cymraeg.llyw.cymru/services/Technology/howto/teipio-acenion/?lang=cy cyhoeddi tudalen ar ei wefan] yn dangos sut i deip...' |
Curon (sgwrs | cyfraniadau) B →Mac OS |
||
Llinell 40: | Llinell 40: | ||
|} | |} | ||
Nodwch fod yr uchod yn union yr un cyfaniad ac yn Windows, ond bod enw gwahanol | Nodwch fod yr uchod yn union yr un cyfaniad ac yn Windows, ond bod enw gwahanol ar yr allwedd i'r dde o'r bylchwr. | ||
== Linux == | == Linux == |
Fersiwn yn ôl 14:40, 20 Chwefror 2016
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi tudalen ar ei wefan yn dangos sut i deipio acenion Cymraeg. Dim ond wybodaeth ar gyfer Windows maent wedi darparu, a rhaid edrych ar y fidio i ganfod y ffordd haws. Isod mae gwybodaeth lawn ar gyfer amryw o wahanol systemau gweithredu a ddaw o sgwrs wreiddiol ar SaySomethinginWelsh.
Windows
Gan ddefnyddio gosodiad bysellfwrdd Cymraeg, gwasgwch y cyfuniadau yma cyn neu'r un pryd a'r llafariad.
Acen | Teipiwch |
---|---|
Acen ddyrchafedig (á é í ó ú ẃ ý) | AltGr + (y llafariad) |
Acen drom (à è ì ò ù ẁ ỳ) | AltGr + ` |
Hirnod (â ê î ô û ŵ ŷ) | AltGr + 6 |
Didolnod (ä ë ï ö ü ẅ ÿ) | AltGr + 2 |
Mae modd defnyddio Ctrl+Alt yn lle AltGr.
Mac OS
Gan ddefnyddio gosodiad bysellfwrdd Cymraeg, gwasgwch y cyfuniadau yma cyn neu'r un pryd a'r llafariad.
Acen | Teipiwch |
---|---|
Acen ddyrchafedig (á é í ó ú ẃ ý) | Option + (y llafariad) |
Acen drom (à è ì ò ù ẁ ỳ) | Option + ` |
Hirnod (â ê î ô û ŵ ŷ) | Option + 6 |
Didolnod (ä ë ï ö ü ẅ ÿ) | Option + U |
Nodwch fod yr uchod yn union yr un cyfaniad ac yn Windows, ond bod enw gwahanol ar yr allwedd i'r dde o'r bylchwr.
Linux
Gan ddefnyddio gosodiad bysellfwrdd Saesneg (DU), gwasgwch y cyfuniadau yma cyn y llafariad.
Acen | Teipiwch |
---|---|
Acen ddyrchafedig (á é í ó ú ẃ ý) | Alt Gr + ; |
Acen drom (à è ì ò ù ẁ ỳ) | Alt Gr + # |
Hirnod (â ê î ô û ŵ ŷ) | Alt Gr + ' |
Didolnod (ä ë ï ö ü ẅ ÿ) | Alt Gr + [ |