Hacio'r Iaith - Ionawr 2013: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Oddi ar Hedyn
Llinell 45: | Llinell 45: | ||
:::O blaid! Gyda llaw ces i sgwrs gydag Illtud yn Aber wythnos diwethaf. Cyffrous ond angen lot o gynllunio call. --[[Defnyddiwr:Carlmorris|Carlmorris]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Carlmorris|sgwrs]]) 14:59, 4 Hydref 2012 (BST) | :::O blaid! Gyda llaw ces i sgwrs gydag Illtud yn Aber wythnos diwethaf. Cyffrous ond angen lot o gynllunio call. --[[Defnyddiwr:Carlmorris|Carlmorris]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Carlmorris|sgwrs]]) 14:59, 4 Hydref 2012 (BST) | ||
::::Ces i sgwrs gyda Llyfrgell Gen ynglŷn â fformatau wythnos yma. Mae'n debyg bydd y diwrnod ymarferol ar y dydd Gwener a Hacio'r Iaith ar y dydd Sadwrn. Ond does dim dyddiad penodol eto heblaw rhywbryd yn ystod mis Ionawr 2013. Unrhyw deimladau cryf o ran dyddiad? --[[Defnyddiwr:Carlmorris|Carlmorris]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Carlmorris|sgwrs]]) 15:45, 10 Hydref 2012 (BST) | ::::Ces i sgwrs gyda Llyfrgell Gen ynglŷn â fformatau wythnos yma. Mae'n debyg bydd y diwrnod ymarferol (o hacio/stwnsho archifau papurau newydd) ar y dydd Gwener a Hacio'r Iaith ar y dydd Sadwrn. Ond does dim dyddiad penodol eto - heblaw rhywbryd yn ystod mis Ionawr 2013. Unrhyw deimladau cryf o ran dyddiad? --[[Defnyddiwr:Carlmorris|Carlmorris]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Carlmorris|sgwrs]]) 15:45, 10 Hydref 2012 (BST) | ||
== Sesiynau - syniadau == | == Sesiynau - syniadau == |
Fersiwn yn ôl 14:48, 10 Hydref 2012
Pryd a ble?
Pryd a ble ydyn ni eisiau cynnal Hacio'r Iaith Ionawr 2013? Caernarfon? Bangor? Aberystwyth eto? Aberteifi? Llanbedr? --Carlmorris (sgwrs) 16:04, 16 Awst 2012 (BST)
- Mae hyn yn rhoi y cyfle i ni drio lleoliad arall, sy’n codi dau cwestiwn, sef ble, a phwy fydd yn arwain yr holl beth? Rhaid hefyd ystyried sut ydym am ei ariannu os na chawn y lleoliad ac adnoddau am ddim.
- Ceisiwyd cael rhyw drafodaeth fel hyn ar y wici llynedd, ond ddaeth i ddim, yn rhannol gan bod ni mor hapus gyda chyfleusterau gwych Prifysgol Aber (ac yn hapus i Rhodri wneud y mwyafrif helaeth o’r gwaith trefnu!), ond falle sdim dewis gyda ni tro yma.
- Dw i’n meddwl bod rhaid i ni fod yn realistig a chydnabod bydd hi bron y amhosib cael cystal lleoliad (h.y. y gofod oedd ar gael) nachwaith y fath adnoddau (di-wi digon addas ar gyfer ffrydio byw, offer ffilmio, oriau dynol ‘am ddim’ y caethweision/myfyrwyr i wneud y ffilmio a’r gwaith golygu wedyn).
- Beth sydd ei wir angen mewn lleoliad?
- Cyn chwilio am leoliad, falle dylem gytuno ar pa bethau rydym yn fodlon cyfaddawdu arnynt a pha bethau sy’n angenrheidiol (addaswch neu ychwanegwch atynt a gadael sylw.)
- Angenrheidiol
- Lleoliad digon mawr i ddal cyfanswm o 70-80 o bobl (Allwn ni gwtogi ar hyn, a'i gwneud yn 'cyntaf i'r felin'?)
- 3 ystafell ar wahân (un yn ddigon mawr i ddal pawb ar gyfer ymgynnull ben bore/cinio)
- Di-wi agored (am ddim) ar draws yr ystafelloedd i gyd
- Sgrin a thaflunydd ymhob ystafell
- Dymunol
- Bwyd
- Ffilmio
- Ffrydio byw
- Dewis lleoliad daearyddol
- Un peth yw dewis lleoliad daearyddol, ond mae hefyd angen bod ag adeilad/sefydliad addas i gynnal y digwyddiad, o gadw’r gofynion uchod mewn golwg. Dw i'n cynnig bod dwy ffordd o fod o'i chwmpas hi:
- Darganfod unigolion sy wirioneddol eisiau denu’r Hacio’r Iaith i’w hardal yn ysgrifennu bids fel
yr Olympicscynadleddau Wikimedia a WordPress. - Mynd trwy restr mynychwyr y gorffennol a gweld os oes patrwm (e.e. llwyth o fynychwyr yn byw/gweithio yng Nghaerdydd neu ochrau Caernarfon) a mynd ar ol rhai ohonyn nhw, yn enwedig os oes ganddynt gysylltiadau defnyddiol unai ym myd addysg neu'r byd teledu ac felly'n gallu darparu lleoliad ac adnoddau.
- Darganfod unigolion sy wirioneddol eisiau denu’r Hacio’r Iaith i’w hardal yn ysgrifennu bids fel
- Sori os ydy hyn yn hirwyntog, ond meddlw byddai'n well dechrau fel hyn.--Rhyswynne (sgwrs) 16:25, 16 Awst 2012 (BST)
- Anghytuno, dylen ni trio ffeindio rhywle cystal! Beth am brifysgolion? --Carlmorris (sgwrs) 17:04, 16 Awst 2012 (BST)
Cynigion pendant lleoliadau
Dwi newydd gael sgwrs efo Illtud o'r Llyfrgell Gen ac mae'n nhw eitha awyddus i letya Hacio'r Iaith 2013 ym mis Ionawr. Y syniad fyddai cyfuno diwrnod Haciaith arferol gyda hacathon y diwrnod cynt / ar ol fydd yn seiliedig ar eu archif digidol papurau newydd. Mae'r cynnig yn cynnwys pethau fel bwyd, cefnogaeth dechnegol ac ati.
Os oes na gynigion pendant eraill ar y bwrdd allwch chi eu rhoi nhw isod fel y gallwn ni eu trafod yr un pryd. Os ma Hacio'r Iaith am ddigwydd o gwbl ma'n rhaid symud mlaen rili, a ma'r opsiwn yma'n tynnu dipyn o'r pwysa trefnu ffwrdd o unigolion.
All pawb roi sylwadau erbyn y 12fed Hydref? Di hynna'n deg? --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 11:45, 4 Hydref 2012 (BST)
- Byddai hyn yn lleoliad da - mae yna fanteision pendant i Aberystwyth (wrth gwrs!) Mi wna i gael gair efo Pennaeth yr Adran i weld a allwn ni noddi neu gyfrannu mewn rhyw ffordd arall yn hytrach na lletya eto eleni. --Elinhgj (sgwrs) 11:56, 4 Hydref 2012 (BST)
- O blaid! Gyda llaw ces i sgwrs gydag Illtud yn Aber wythnos diwethaf. Cyffrous ond angen lot o gynllunio call. --Carlmorris (sgwrs) 14:59, 4 Hydref 2012 (BST)
- Ces i sgwrs gyda Llyfrgell Gen ynglŷn â fformatau wythnos yma. Mae'n debyg bydd y diwrnod ymarferol (o hacio/stwnsho archifau papurau newydd) ar y dydd Gwener a Hacio'r Iaith ar y dydd Sadwrn. Ond does dim dyddiad penodol eto - heblaw rhywbryd yn ystod mis Ionawr 2013. Unrhyw deimladau cryf o ran dyddiad? --Carlmorris (sgwrs) 15:45, 10 Hydref 2012 (BST)
Sesiynau - syniadau
- Raspberry Pi Cymraeg? --Carlmorris (sgwrs) 20:18, 16 Awst 2012 (BST)
- Creu ac addasu ffotographiau a delweddau ar gyfer Wicipedia. --Rhyswynne (sgwrs) 20:21, 16 Awst 2012 (BST)
...