Gweithredoedd

Llechen Android i blant (neu ffôn): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Hedyn

Carlmorris (sgwrs | cyfraniadau)
Carlmorris (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 20: Llinell 20:


=== Apiau sy'n addas i blant ===
=== Apiau sy'n addas i blant ===
[[Delwedd:tuxpaint.jpg]]


Dyma rai apiau sydd ar gael yn Gymraeg sy'n addas i blant.
Dyma rai apiau sydd ar gael yn Gymraeg sy'n addas i blant.

Fersiwn yn ôl 11:19, 29 Gorffennaf 2026

Dyma rai nodiadau ar greu llechen/tabled Android i blentyn/blant. Neu ffôn.

System weithredu

Mae modd i chi osod LineageOS ar lechen er mwyn cael Android Cymraeg. Ar hyn o bryd bydd oddeutu 90-95% neu fwy o'r system yn Gymraeg. (Wrth gwrs mae croeso i chi gyfrannu at y prosiect cyfieithu.)

Mae prosiect LineageOS yn cynnig rhestr o ddyfeisiau a gefnogir - ffonau a llechennau. Byddwch yn hollol siŵr eich bod gyda'r union fodel sydd ar y rhestr.

Mae rhai pobl yn dewis gosod GApps er mwyn rhedeg rhai apiau perchnogol Google. Mae manteision ac anfanteision (ymhelaethu cyn hir yma).

Nodwch nad oes modd rhedeg rhai apiau fel bancio.

Mewn theori, ar wahan i LineageOS mae modd cyfieithu a defnyddio GrapheneOS, postmarketOS, /e/OS/ neu ddosbarthiad arall.

Apiau

Apiau system

  • Aurora, ffordd o osod apiau heb yr angen i redeg Google Play

Apiau sy'n addas i blant

Dyma rai apiau sydd ar gael yn Gymraeg sy'n addas i blant.

  • Cywion Bach
  • TuxPaint, ap paentio
  • SuperTuxKart, gêm gyrru (gosodwch o storfa Aurora er mwyn cael fersiwn sy'n cynnwys y Gymraeg, nid F-Droid - sydd â fersiwn hŷn di-Gymraeg ar hyn o bryd)

Rhybudd

Dyw awdur[on] y tudalen yma ddim yn gyfrifol am unrhyw ganlyniadau a geir o ddarllen y gwybodaeth yma.

Byddwch yn wyliadwrus pan yn rhoi dyfais electroneg i blant yn enwedig unrhyw ddyfais sydd ar y we, am resymau amlwg. Chi sy'n gyfrifol am eich plentyn/plant chi!

Hefyd mae elfen o risg mewn gosod dosbarthiad "amgen" o Android ac mae'n debygol o dorri unrhyw warantî sydd rhwng darparydd y dyfais a chithau.