Prosesu treigladau gyda meddalwedd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Oddi ar Hedyn
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
== Esboniad == | == Esboniad == | ||
Mae angen cod agored i adnabod treigladau. | Mae angen cod agored i adnabod treigladau. Byddai gymaint o bosibiliadau! | ||
Dw i eisiau datblygu ategyn WordPress i ychwanegu treigladau cywir i chwilio. Ar hyn o bryd mae angen chwilio am 'Caer', 'Gaer', 'Nghaer' ar wahan. Gyda'r ategyn byddai modd chwilio am un ohnonyn nhw yn unig a derbyn canlyniadau gyda phob fersiwn. | Dw i eisiau datblygu ategyn WordPress i ychwanegu treigladau cywir i chwilio. Ar hyn o bryd mae angen chwilio am 'Caer', 'Gaer', 'Nghaer' ar wahan. Gyda'r ategyn byddai modd chwilio am un ohnonyn nhw yn unig a derbyn canlyniadau gyda phob fersiwn. |
Fersiwn yn ôl 19:51, 5 Hydref 2012
Esboniad
Mae angen cod agored i adnabod treigladau. Byddai gymaint o bosibiliadau!
Dw i eisiau datblygu ategyn WordPress i ychwanegu treigladau cywir i chwilio. Ar hyn o bryd mae angen chwilio am 'Caer', 'Gaer', 'Nghaer' ar wahan. Gyda'r ategyn byddai modd chwilio am un ohnonyn nhw yn unig a derbyn canlyniadau gyda phob fersiwn.
Felly... os ydyn ni'n gallu sgwennu ffug-cod gyda'n gilydd byddai modd sgwennu'r ategyn a rhyddhau'r cod dan GPL.
Er mwyn cael prosiect haws:
- Efallai gwnawn ni ddechrau gyda'r fersiwn 'geiriadur' o'r gair yn unig - yn yr enghraifft mae pobl yn debygol i chwilio am 'Caer' yn hytrach nag unrhyw fersiwn arall.
- Anghofia gwrywaidd a benywaidd ar hyn o bryd (byddai angen rhestr o eiriau fel arall)
O'n i'n meddwl bod system gyda http://kevindonnelly.org.uk/ ond dw i'n methu ffeindio fe. Hefyd bydda'r broses datblygu yn hwyl! --Carlmorris (sgwrs) 20:20, 5 Hydref 2012 (BST)
Y treigladau
Llythyren Meddal Trwynol Llais H-bom p b mh ph t d nh th c g ngh ch b f m d dd n g /hwyl fawr g/ ng m f ll l rh r aeiouwy rhoi h arno!
Y cod
// cynhyrchu llinyn gyda phob fersiwn o'r gair // e.e. mewnbwn Caer yn cael allbwn 'Caer NEU Gaer NEU Nghaer NEU Chaer' llinyn cynhyrchu_treigladau(llinyn $gair) { llinyn $chwiliad = $gair; os ydy'r llythyren gyntaf o'r $gair ar y tabl? { // ydy felly mae'r gair yn gallu treiglo cer trwy pob llythyren ar y tabl { $chwiliad += 'NEU'; $chwiliad += cyfnewid_llythyren_gyntaf($gair); // parchu maint y llythyren (C yn newid i G, c yn newid i g) } $chwiliad = '(' + $chwiliad + ')'; } fel arall { // nac ydy felly dyw'r gair ddim yn dreiglo // e.e. aderyn, Aberystwyth, // byddai $chwiliad == $gair } dychwelyd $chwiliad; } llinyn chwilio(llinyn mewnbwn_chwiliad) { cer trwy pob $gair ym $mewnbwn_chwiliad { cyfnewid cynhyrchu_treigladau($gair) am $gair } }