Fideo: digwyddiadau byw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Oddi ar Hedyn
Dim crynodeb golygu |
|||
Llinell 86: | Llinell 86: | ||
''(Mae'r adran yma yn cael ei sgwennu ar hyn o bryd!)'' | ''(Mae'r adran yma yn cael ei sgwennu ar hyn o bryd!)'' | ||
==Lanlwytho i YouTube== | ==Lanlwytho i YouTube== | ||
*Bydd yn gyflym. Mae'n neis i gael y fideo cyn gynted a phosib. Bydd mwy o ddiddordeb syth ar ôl y digwyddiad. Yr un diwrnod os bosib. | *Bydd yn gyflym. Mae'n neis i gael y fideo cyn gynted a phosib. Bydd mwy o ddiddordeb syth ar ôl y digwyddiad. Yr un diwrnod os bosib. | ||
*Teitl, disgrifiad, tagiau. Pwysig os ti eisiau gwylwyr. Un tag da yw 'cymraeg' os mae'r fideo yn Gymraeg. Syniad da. | |||
*Cadwa sylwadau ar agor a'r opsiwn mewnosod plis! Mae pobol eisiau rhannu dy fideo a chael sgyrsiau o gwmpas dy fideo. | |||
''(Mae'r adran yma yn cael ei sgwennu ar hyn o bryd!)'' | ''(Mae'r adran yma yn cael ei sgwennu ar hyn o bryd!)'' |
Fersiwn yn ôl 23:29, 25 Gorffennaf 2011
Sut ydw i'n wneud fideo o bethau? Dyma canllaw cyflym.
Mae'r ffocws ar ddigwyddiadau ar hyn o bryd.
Fel beth?
- Eisteddfod
- pethau yn y gymuned
- gigs
- barnau/ymgyrchu
- areithiau
- priodasau
- cyfweliad neu sgwrs am rywbeth
- digwyddiadau eraill
Beth ydw i ei angen?
Rwyt ti angen:
- cyfrifiadur
- cysylltiad i'r we
- cyfeiriad e-bost
- camera rhad fel Flip neu ffôn gyda chamera
Cyn gadael
- Mae lot o bobol yn mynd i bob man gyda chamera. Pam lai?
- Paid anghofio dy wefrwr ac i'w defnyddio cyn i ti adael. (Neu batris os angen.)
Caniatâd
Mae'r caniatâd o'r bobol yn y fideo yn bwysig.
Dylet ti sôn am y bwriad o YouTube hefyd.
Ambell waith mae'n iawn heb ofyn, e.e. os ti wedi mynd i gyfarfod cyhoeddus gyda'r wasg a chyfryngau eraill.
Os fydd plant yn y fideo mae'n bwysig iawn i sicrhau caniatâd o'r rhieni.
Athroniaeth
- Mae fideo ryff gallu bod yn well na brochure-fideo gan criw proffesiynol.
- Mae digon o le ar y we am dy fideo hyd yn oed fideos mewn niche am bwnc arbennig. Eisiau gwneud fideo am gadw pysgod neu dy hoff cerddoriaeth Almaeneg o'r 70au? Wel pam lai?
Syniadau / fformatau
- Saethu wyneb. Gyda dy lais yn y cefndir (bydd sain dy lais yn eitha cryf).
- Cyfweliad rhwng unigolyn a thi (weithiau dw i'n eistedd
- Os mae pobol yn y fideo yn eistedd mae'r canlyniad yn wahanol. (Gwell ar gyfer siarad weithiau.)
enghreifftiau ar eu ffordd
- Mae fideos byrion yn weithio yn dda ar-lein. Os mae 3 person yn siarad mewn digwyddiad, gwnaf 3 fideo ar wahan yn hytrach nag un enfawr.
- Fel arfer dylet ti greu dau fideo ar wahan os ti rili rili eisiau wneud fideo dwyieithog. (Neu anghofia'r dwyieithrwydd a gwnaf fideo Cymraeg yn unig. Haws! Mae'n dibynnu.)
angen mwy yma
Gwneud - y delwedd
- Bydd yn ymwybodol o'r haul. Fel arfer rwyt ti eisiau haul ar wynebau yn hytrach na'r cefndir. Does dim rheolau - dim ond canllawiau. Ond os ti'n cael yr haul yn y cefndir mae'n edrych fel silwét neu pobol di-enw mewn rhaglen difrifol iawn fel Crimestoppers.
- Ar gamerâu bach mae'r chwyddo yn 'dyfalu' y llun i ryw raddau. Dylet ti osoda'r chwyddo yn y canol fel arfer. Bydd yn agos i'r stori/pobol!
- Os ti'n saethu rhywbeth gyflym mae'n neis i olygu ar y pryd. Recordia a stopia mewn amser. Felly fydd ddim rhaid i ti golygu pethau mas hwyrach. Cyflym!
Gwneud - yr awdio
- Bydd yn ymwybodol o seiniau eraill, yn enwedig gyda chyfweliad neu sgwrs manwl
- Mae'n anodd trwsio pethau hwyrach! Felly bydd yn hyderus, mewn torf cer i'r blaen os bosib
- Weithiau mae rhaid i ti sefyll ar bwys y seinydd am ansawdd awdio gwell
Sut i greu cyfrif ar YouTube
- Cer i http://www.youtube.com/create_account?next=%2F
- Llenwa'r ffurflen. Dylet ti meddwl am dy enw achos ti'n methu ei newid.
- Dilyna'r gorchmynion.
(Mae'r adran yma yn cael ei sgwennu ar hyn o bryd!)
Lanlwytho i YouTube
- Bydd yn gyflym. Mae'n neis i gael y fideo cyn gynted a phosib. Bydd mwy o ddiddordeb syth ar ôl y digwyddiad. Yr un diwrnod os bosib.
- Teitl, disgrifiad, tagiau. Pwysig os ti eisiau gwylwyr. Un tag da yw 'cymraeg' os mae'r fideo yn Gymraeg. Syniad da.
- Cadwa sylwadau ar agor a'r opsiwn mewnosod plis! Mae pobol eisiau rhannu dy fideo a chael sgyrsiau o gwmpas dy fideo.
(Mae'r adran yma yn cael ei sgwennu ar hyn o bryd!)
Dolenni perthnasol
- Sut i ychwanegu lluniau i dy flog lleol
- Sut i fewnosod fideo ar dy flog lleol
- Sut i newid yr iaith dy flog i Gymraeg
- Sut i ddilyn blogiau gyda RSS
- Awgrymiadau a syniadau ar gyfer dy flog lleol
- Y Rhestr - blogiau lleol am ysbrydoliaeth
- Y Rhestr - blogiau yn Gymraeg (llawer)
Am y dudalen yma
Croeso i ti olygu'r tudalen yma gydag unrhyw bethau defnyddiol.