Gweithredoedd

Fideo: digwyddiadau byw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Hedyn

Carlmorris (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Carlmorris (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 71: Llinell 71:


==Sut i greu cyfrif ar YouTube==
==Sut i greu cyfrif ar YouTube==
[[Delwedd:youtube-sgrin.jpg]]


#Cer i http://www.youtube.com/create_account?next=%2F
#Cer i http://www.youtube.com/create_account?next=%2F
Llinell 79: Llinell 81:


''(Mae'r adran yma yn cael ei sgwennu ar hyn o bryd!)''
''(Mae'r adran yma yn cael ei sgwennu ar hyn o bryd!)''


==Lanlwytho i YouTube==
==Lanlwytho i YouTube==

Fersiwn yn ôl 23:16, 25 Gorffennaf 2011

Sut ydw i'n wneud fideo o bethau? Dyma canllaw cyflym.


Fel beth?

  • Eisteddfod
  • pethau yn y gymuned
  • gigs
  • barnau/ymgyrchu
  • areithiau
  • priodasau
  • cyfweliad neu sgwrs am rywbeth


Beth ydw i ei angen?

Rwyt ti angen:

  • cyfrifiadur
  • cysylltiad i'r we
  • cyfeiriad e-bost
  • camera rhad fel Flip neu ffôn gyda chamera


Cyn gadael

  • Mae lot o bobol yn mynd i bob man gyda chamera. Pam lai?
  • Paid anghofio dy wefrwr ac i'w defnyddio cyn i ti adael. (Neu batris os angen.)


Caniatâd

Mae'r caniatâd o'r bobol yn y fideo yn bwysig. Dylet ti sôn am YouTube hefyd. Bydd ar yr ochr saff!

Ambell waith mae'n iawn heb ofyn, e.e. os ti wedi mynd i gyfarfod cyhoeddus gyda'r wasg a chyfryngau eraill.


Athroniaeth

  • Mae fideo ryff gallu bod yn well na brochure-fideo gan criw proffesiynol.


Syniadau / fformatau

  • Saethu wyneb. Gyda dy lais yn y cefndir (bydd sain dy lais yn eitha cryf).
  • Cyfweliad rhwng unigolyn a thi (weithiau dw i'n eistedd
  • Os mae pobol yn y fideo yn eistedd mae'r canlyniad yn wahanol. (Gwell ar gyfer siarad weithiau.)

enghreifftiau ar eu ffordd

  • Mae fideos byrion yn weithio yn dda ar-lein. Os mae 3 person yn siarad mewn digwyddiad, gwnaf 3 fideo ar wahan yn hytrach nag un enfawr.
  • Fel arfer dylet ti greu dau fideo ar wahan os ti rili rili eisiau wneud fideo dwyieithog. (Neu anghofia'r dwyieithrwydd a gwnaf fideo Cymraeg yn unig. Haws! Mae'n dibynnu.)

angen mwy yma


Gwneud - y delwedd

  • Bydd yn ymwybodol o'r haul. Fel arfer rwyt ti eisiau haul ar wynebau yn hytrach na'r cefndir. Does dim rheolau - dim ond canllawiau. Ond os ti'n cael yr haul yn y cefndir mae'n edrych fel silwét neu pobol di-enw mewn rhaglen difrifol iawn fel Crimestoppers.
  • Ar gamerâu bach mae'r chwyddo yn 'dyfalu' y llun i ryw raddau. Dylet ti osoda'r chwyddo yn y canol fel arfer. Bydd yn agos i'r stori/pobol!
  • Os ti'n saethu rhywbeth gyflym mae'n neis i olygu ar y pryd. Recordia a stopia mewn amser. Felly fydd ddim rhaid i ti golygu pethau mas hwyrach. Cyflym!


Gwneud - yr awdio

  • Bydd yn ymwybodol o seiniau eraill, yn enwedig gyda chyfweliad neu sgwrs manwl
  • Mae'n anodd trwsio pethau hwyrach! Felly bydd yn hyderus, mewn torf cer i'r blaen os bosib
  • Weithiau mae rhaid i ti sefyll ar bwys y seinydd am ansawdd awdio gwell


Sut i greu cyfrif ar YouTube

  1. Cer i http://www.youtube.com/create_account?next=%2F
  1. Llenwa'r ffurflen. Dylet ti meddwl am dy enw achos ti'n methu ei newid.
  1. Dilyna'r gorchmynion.

(Mae'r adran yma yn cael ei sgwennu ar hyn o bryd!)

Lanlwytho i YouTube

  • Bydd yn gyflym. Mae'n neis i gael y fideo cyn gynted a phosib. Bydd mwy o ddiddordeb syth ar ôl y digwyddiad. Yr un diwrnod os bosib.

(Mae'r adran yma yn cael ei sgwennu ar hyn o bryd!)


Dolenni perthnasol


Am y dudalen yma

Croeso i ti olygu'r tudalen yma gydag unrhyw bethau defnyddiol.