Sut i newid iaith eich blog i Gymraeg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Oddi ar Hedyn
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 18: | Llinell 18: | ||
Mae WordPress Cymraeg yn dibynnu ar y gymuned i gyfieith a rhannu themau a'r [http://translate.wordpress.com/projects/wpcom/cy/default prif meddalwedd WordPress yn Gymraeg]. Chwarae teg iddyn nhw achos maen nhw yn agored i gyfraniadau. Dyma pam rwyt ti'n gallu gweld termau Saesneg - weithiau. Rydyn ni'n gweithio arno fe! | Mae WordPress Cymraeg yn dibynnu ar y gymuned i gyfieith a rhannu themau a'r [http://translate.wordpress.com/projects/wpcom/cy/default prif meddalwedd WordPress yn Gymraeg]. Chwarae teg iddyn nhw achos maen nhw yn agored i gyfraniadau. Dyma pam rwyt ti'n gallu gweld termau Saesneg - weithiau. Rydyn ni'n gweithio arno fe! | ||
[[Categori:Canllawiau]] | |||
[[Categori:Blogio]] |
Fersiwn yn ôl 23:09, 18 Hydref 2012
Gallwch newid dau wahanol osodiad iaith yn WordPress.com; iaith eich blog, a iaith y rhyngwyneb.
Iaith y blog
Iaith y blog ydy'r iaith y byddwch yn ysgrifennu eich blog ynddo. Mae gan bob blog ei osodiad iaith ei hunan, felly os oes gennych flogiau lluosog sy'n gysylltiedig â'ch cyfrif, gall pob un gael gosodiad iaith gwahanol.
Gellir golygu'r gosodiad iaith o dan Gosodiadau > Cyffredinol (Settings > General) ar dashfwrdd y blog.
Iaith y rhyngwyneb
Dyma'r iaith a ddefnyddir gan eich elfennau dangosfwrdd (neu rhyngwyneb defnyddiwr). Mae'n benodol i bob cyfrif WordPress.com. Nid yw'n newid o flog i flog.
Gellir golygu gosodiad iaith eich rhyngwyneb o dan Defnyddwyr > Personol (Users > Personal Settings) yn y dewislen chwith.
Dyw rhai o'r termau ddim yn Gymraeg?
Mae WordPress Cymraeg yn dibynnu ar y gymuned i gyfieith a rhannu themau a'r prif meddalwedd WordPress yn Gymraeg. Chwarae teg iddyn nhw achos maen nhw yn agored i gyfraniadau. Dyma pam rwyt ti'n gallu gweld termau Saesneg - weithiau. Rydyn ni'n gweithio arno fe!