Moch Cwta: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Oddi ar Hedyn
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall) | |||
Llinell 80: | Llinell 80: | ||
* Erthygl 1: Hacio'r Iaith 2012 - Rhodri ap Dyfrig | * Erthygl 1: Hacio'r Iaith 2012 - Rhodri ap Dyfrig | ||
* Erthygl 2: | * Erthygl 2: | ||
* Erthygl 3: nai trio meddwl am bwnc --[[Defnyddiwr:Carlmorris|Carlmorris]] 15:13, 2 Rhagfyr 2011 (UTC) | |||
* Erthygl 3: | * Erthygl 4: Byddwn i yn fodlon sgwennu erthygl - --[[Defnyddiwr:Garethvjones|Garethvjones]] 15:35, 2 Rhagfyr 2011 (UTC) | ||
* Erthygl 4: | |||
* Erthygl 5: | * Erthygl 5: | ||
* Erthygl 6: | * Erthygl 6: | ||
[wedi newid ffurf y rhestr chydig fel bod dim pwysau ar hyn o bryd i bennu dyddiad ayyb. Gallwn drafod pynciau oddiar wici. --[[Defnyddiwr:Rhodri.apdyfrig|Rhodri.apdyfrig]] 16:48, 2 Rhagfyr 2011 (UTC)] | |||
==Llyfryddiaeth Cyfryngau Digidol a Iaith== | |||
Arbrawf / man trafod: http://hedyn.net/wici/Llyfryddiaeth_Cyfryngau_Digidol_a_Iaith |
Golygiad diweddaraf yn ôl 16:52, 27 Ionawr 2012
Dechreuodd Wikipedia gyda neges ebost i gymuned o bobol. Dechreuodd Linux gyda neges bach hefyd.
Mae pob project, bach neu mawr, angen y moch cwta, cyfranwyr, aelodau, cynnwys ayyb.
Felly postia neges fan hyn os ti angen help i brofi dy broject arlein. Plis postia os ti angen am help - bydd yma elfen o hunan-hyrwyddo, mae'n iawn, gawn ni weld.
Hapus i ddechrau. --Carlmorris 00:33, 10 Chwefror 2011 (UTC)
Y Bydysawd
Mae'r Bydysawd yn rhywle i drafod materion cyfoes, chwaraeon a theledu. Mae'r wefan yn tynnu pennawdau a dolenni i straeon arlein yn awtomatig trwy'r dydd.
Bydda i rili rili gwerthfawrogi sylw ar unrhyw stori. Ti'n gallu logio mewn gyda cyfrifon ar Disqus, Twitter, Facebook, OpenID - mae gyda ti opsiwn i rhannu ar dy rwydwaith ond does dim rhaid i ti.
Mae'r gwefan wedi derbyn 98 sylw hyd yn hyn gan 10 person. Dechrau da, yn enwedig y ffaith bod y sylwadau o ansawdd. Nawr dw i'n gofyn am mwy o sylwadau. Dylai fe bod yn eitha hawdd. Gobeithio bydd e'n ddiddorol hefyd ond gawn ni weld. Diolch! Cer i'r cwestiynau aml. Efallai cer i raglen teledu a gadael sylw achos does dim lot ar hyn o bryd. --Carlmorris 00:33, 10 Chwefror 2011 (UTC)
Spots
Gêm gyfrifiadurol strategol (ar gyfer Windows a Linux yn unig ar hyn o bryd). Angen help i'w lleolieddio i'r Gymraeg. Ffeil txt. cymhrol fer. --Rhyswynne 08:39, 10 Chwefror 2011 (UTC)
- Dw i'n fodlon helpu. Allet ti postio ffeil fel tudalen yma plis? Neu Google Doc? Rydyn ni'n gallu gweithio arno fe fel tîm. --Carlmorris 15:34, 10 Chwefror 2011 (UTC)
- Wedi gwneud y cyfieithiad. Mae ar gael yma: http://stwnsh.com/spots --Garethvjones 17:45, 10 Chwefror 2011 (UTC)
- Gwych! Rwyt ti wedi ennill mochyn cwta yr wythnos! --Carlmorris 17:59, 10 Chwefror 2011 (UTC)
- Dyna gyflym! Dw i wedi creu dogfen google o'r ffeil Iaith a Chyfarwyddiadau, ac wedi gwneud un neu ddau newid bychan. Os nad oes gwrthwynebiad, gallaf ateb y boi drwy Urban75 fory. Fel arall, nodwch unrhyw newidiadau yma, neu danpfnwch negesa ataf i mi eich galluogi i newid.--Rhyswynne 22:12, 10 Chwefror 2011 (UTC)
- Fe wnes i e-bostio'r person drwy ei wefan a rhoi link i'r ffeiliau iddo ddoe. Wedi chwarae y gêm yn y iaith Gymraeg a wedi sylwi bod tô bach yn achosi problemau. --Garethvjones 12:53, 11 Chwefror 2011 (UTC)
- Wyt ti angen "cymeriad dihangfa" yn hytrach na'r cymeriad ASCII arferol? Defnyddia \xF4 yn lle ô, ac yn y blaen. --Carlmorris 16:19, 12 Chwefror 2011 (UTC)
- Mae awdur y gêm, Nicholas Kingsley, wedi sortio'r broblem allan nawr --Garethvjones 20:19, 13 Chwefror 2011 (UTC)
Cyfeirlyfr blogiau a phodlediadau Cymraeg ar Hedyn
Plis ychwanega unrhyw blogiau a phodlediadau Cymraeg fel tudalennau i Hedyn. Rydyn ni'n adeiladu cyfeirlyfr fel Yahoo. Amcanion: ymchwil, tyfu'r we Gymraeg, hyrwyddo blogiau, mapio'r tyllau yn y we Gymraeg. Enghraifft: [[1]] am enghraifft. Diolch. --Carlmorris 13:09, 2 Mawrth 2011 (UTC)
- gyda llaw, hwn yw Y Rhestr --Carlmorris 22:30, 10 Ebrill 2011 (UTC)
#cipolwg180
Project fideo. Cymerwch ran! http://www.youtube.com/watch?v=CZPIv1hFH2E (Hollol arbrofol.)
- Hag hollol breifat mae'n debig? Howlsedhes 02:05, 27 Hydref 2011 (BST)
- nes i newid fy meddwl, doedd y syniad ddim mor dda! diolch --Carlmorris 15:19, 27 Hydref 2011 (BST)
Troseddau Google Translate a chyfieithu peirianyddol
Troseddau Google Translate a chyfieithu peirianyddol
Ysgrifennu am y We Gymraeg/Gymreig i Global Voices yn 2012
Ar ôl cael fy nghyfweld ar gyfer gwefan Global Voices gan Ayesha Saldanha am y Gymraeg arlein ychydig yn ôl mi gytunais i ysgrifennu cyfres o erthyglau am y we Gymraeg a thechnoleg yng Nghymru ar gyfer y wefan. Yn anffodus dwi ddim wedi llwyddo i gyflawni hynny oherwydd cyfyngiadau amser.
Ond, dwi dal eisiau gweld os oes modd gwneud hynny mewn rhy ffordd arall. Mi alla i ddechrau pethau gyda'r gyntaf. A fyddai gan unrhywun allan yna ddiddordeb mewn cyfrannu un erthygl mewn cyfres o 6?
Byddai angen iddyn nhw fod yn Saesneg, ond gallen ni wasatd wneud cyfieithiad pe bai chi isio. Y syniad yw bod rhagor o bobol yn ffeindio allan am yr hyn sydd yn digwydd o fewn y we Gymraeg. Cafodd fy erthygl i ei gyfieithu gan wirfoddolwyr i'r Ffrangeg, Sbaeneg, Pwyleg a dwy o ieithoed China (Mandarin a Chantoneeg?), a dwi'n siwr byddai eich un chithau hefyd.
Mae Global Voices yn ceisio cael rhagor o leisiau lleiafrifol yn rhan o'r wefan trwy eu cynllun Rising Voices.
Dwi'n hapus i fod yn olygydd ar y cyfan, gan geisio gosod y dedleins a cheisio rhoi trosolwg dros yr erthyglau, ond fasa'n wych gallu gosod amserlen o 6 mis neu efallai blwyddyn, lle gallen ni edrych mewn manylder ar bethau fel e-lyfrau, bandllydan, cyfryngau digidol, Hacio'r Iaith, technolegau iaith ayyb fel themau gwahanol, ond eu bod nhw'n dod o berspectif Cymreig neu Gymraeg.
Os oes ganddoch chi ddiddordeb, un ai sgwennwch eich enw isod, neu gadwch i fi wybod ar Twitter. Os oes llawer yn cynnig gwneud yna falle gallwn ni ystyried gwneud un erthygl bob mis am flwyddyn.
- Erthygl 1: Hacio'r Iaith 2012 - Rhodri ap Dyfrig
- Erthygl 2:
- Erthygl 3: nai trio meddwl am bwnc --Carlmorris 15:13, 2 Rhagfyr 2011 (UTC)
- Erthygl 4: Byddwn i yn fodlon sgwennu erthygl - --Garethvjones 15:35, 2 Rhagfyr 2011 (UTC)
- Erthygl 5:
- Erthygl 6:
[wedi newid ffurf y rhestr chydig fel bod dim pwysau ar hyn o bryd i bennu dyddiad ayyb. Gallwn drafod pynciau oddiar wici. --Rhodri.apdyfrig 16:48, 2 Rhagfyr 2011 (UTC)]
Llyfryddiaeth Cyfryngau Digidol a Iaith
Arbrawf / man trafod: http://hedyn.net/wici/Llyfryddiaeth_Cyfryngau_Digidol_a_Iaith