Teipio acenion Cymraeg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Oddi ar Hedyn
Curon (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae Llywodraeth Cymru wedi [http://cymraeg.llyw.cymru/services/Technology/howto/teipio-acenion/?lang=cy cyhoeddi tudalen ar ei wefan] yn dangos sut i deip...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 14:35, 20 Chwefror 2016
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi tudalen ar ei wefan yn dangos sut i deipio acenion Cymraeg. Dim ond wybodaeth ar gyfer Windows maent wedi darparu, a rhaid edrych ar y fidio i ganfod y ffordd haws. Isod mae gwybodaeth lawn ar gyfer amryw o wahanol systemau gweithredu a ddaw o sgwrs wreiddiol ar SaySomethinginWelsh.
Windows
Gan ddefnyddio gosodiad bysellfwrdd Cymraeg, gwasgwch y cyfuniadau yma cyn neu'r un pryd a'r llafariad.
| Acen | Teipiwch |
|---|---|
| Acen ddyrchafedig (á é í ó ú ẃ ý) | AltGr + (y llafariad) |
| Acen drom (à è ì ò ù ẁ ỳ) | AltGr + ` |
| Hirnod (â ê î ô û ŵ ŷ) | AltGr + 6 |
| Didolnod (ä ë ï ö ü ẅ ÿ) | AltGr + 2 |
Mae modd defnyddio Ctrl+Alt yn lle AltGr.
Mac OS
Gan ddefnyddio gosodiad bysellfwrdd Cymraeg, gwasgwch y cyfuniadau yma cyn neu'r un pryd a'r llafariad.
| Acen | Teipiwch |
|---|---|
| Acen ddyrchafedig (á é í ó ú ẃ ý) | Option + (y llafariad) |
| Acen drom (à è ì ò ù ẁ ỳ) | Option + ` |
| Hirnod (â ê î ô û ŵ ŷ) | Option + 6 |
| Didolnod (ä ë ï ö ü ẅ ÿ) | Option + U |
Nodwch fod yr uchod yn union yr un cyfaniad ac yn Windows, ond bod enw gwahanol i'r allwedd i'r dde o'r bylchwr.
Linux
Gan ddefnyddio gosodiad bysellfwrdd Saesneg (DU), gwasgwch y cyfuniadau yma cyn y llafariad.
| Acen | Teipiwch |
|---|---|
| Acen ddyrchafedig (á é í ó ú ẃ ý) | Alt Gr + ; |
| Acen drom (à è ì ò ù ẁ ỳ) | Alt Gr + # |
| Hirnod (â ê î ô û ŵ ŷ) | Alt Gr + ' |
| Didolnod (ä ë ï ö ü ẅ ÿ) | Alt Gr + [ |
