Hacio'r Iaith 2014: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Oddi ar Hedyn
Lleihau maint y ddelwedd |
→Post Mortem: bawd |
||
Llinell 89: | Llinell 89: | ||
:<small>Tybed a wneith rhywun symud hwn i'r dudalen adborth, pan ceith ei chreu? Diolch.</small> | :<small>Tybed a wneith rhywun symud hwn i'r dudalen adborth, pan ceith ei chreu? Diolch.</small> | ||
[[ | [[Delwedd:IMG 1638.JPG|bawd|chwith|Y podlediad yn ei anterth.]] | ||
Can diolch i bawb am gynhadledd gwerth chweil. Mi ddysgais lawer o'r sesiynnau amrywiol a chyfoethog. Diolch i bawb a fu wrthi. [[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Llywelyn2000|sgwrs]]) 19:09, 16 Chwefror 2014 (UTC) | Can diolch i bawb am gynhadledd gwerth chweil. Mi ddysgais lawer o'r sesiynnau amrywiol a chyfoethog. Diolch i bawb a fu wrthi. [[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Llywelyn2000|sgwrs]]) 19:09, 16 Chwefror 2014 (UTC) |
Fersiwn yn ôl 19:16, 16 Chwefror 2014
Helo!
Dyma sgwrs am Hacio'r Iaith 2014...
Cynnwys y Sesiynau yn Gyffredinol
Nôl at yr hacio?
Mi gafodd rhai Carl a fi sgwrs ar ôl Hacio'r Iaith 2013 y byddai'n dda mynd nôl i haciaith sydd lot mwy am y gwneud, dangos, esbonio, hacs bach, how-to a phethau mwy am y cynnwys a chynnyrch, yn hytrach na'r trafod mwy cyffredinol am 'y Gymraeg ar y we'. Ydych chi'n cytuno? Di hynna ddim yn meddwl nad oes isio trafod, jest efallai ein bod ni'n anelu i bawb sôn am be ma nhw wedi bod yn gweithio arno, neu wneud rhywbeth o'r newydd.
Os oes teimlad i fynd i'r cyfeiriad falle dylen ni drio sicrhau slotiau penodol i brosiectau penodol o flaen llaw. Falle bydd hynny'n rhoi mwy o degwch yn sut da ni'n amserlennu slotiau hefyd.
O ran pwy fasa'n wych i gael fel craidd iddo fasa e.e. pawb sydd wedi cael grant tech y llywod i son am eu prosiect (a rhai eraill fel prosiect Sibrwd y Theatr Gen)
Be di'ch barn? --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 15:25, 9 Rhagfyr 2013 (UTC)
- Cytuno 100%. Mae digwyddiadau eraill sy'n rhoi mwy o bwyslais ar bolisi. Mae modd bwcio rhai o'r sesiynau o flaen llaw. --Carlmorris (sgwrs) 15:42, 9 Rhagfyr 2013 (UTC)
- Sut ydyn ni am ddechrau gosod sesiynau pendant yn yr amserlen o flaen llaw? Gosod rhai 'pendant' ar y grid drafft a gofyn am sylwadau? --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 00:07, 27 Ionawr 2014 (UTC)
- Ia llunio grid drafft pan gawn ni gadarnhad sawl stafell sydd ar gael. Llunio grid a gosod un neu ddau ddigwyddiad ar gyfer pob sesiwn a phenderfynu ar ba stafell ar y diwrnod fel ti wedi cynnig. Bydd yn rhwybeth i'w hysbysebu ar blog/twitter Haciaith er mwyn cael pobl i ymateb a rhoi sylw yn y run-up i'r digwyddiad. Mae wastad rhyw dawelwch mawr yn yr wythnosau'n arwain at y penwythnos! --Rhyswynne (sgwrs) 10:37, 27 Ionawr 2014 (UTC)
Tîm Blogwyr Byw?
Er mwyn gallu cofnodi a chyfathrebu'r digwyddiad, dwi'n meddwl byddai'n dda penodi un person o bob ystafell i fod yn flogiwr byw. Os gallwn ni gael gwirfoddolwyr sy'n fodlon gwneud hyn o flaen llaw yna gret. Efallai neges ebost fach yn gofyn i bobol sydd efo diddordeb greu cyfri ar Haciaith.com o flaen llaw a bod yn barod i wneud ar y dydd. Dwi'n meddwl bod Twitter ond yn gallu cyfathrebu hyn a hyn a mae'n debygol iawn y bydd na nifer sydd ddim yn gallu bod yno eisiau ymuno mewn trafodaethau. --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 14:40, 12 Rhagfyr 2013 (UTC)
Amseru sesiynau
Oes angen 5 munud rhwng pob sesiwn? Dechrau sesiynau am 5mund wedi; gorffen 5 munud i?
- Dwi wedi ail-drefnu amseroedd y sesiynau - prif newidiadau: hanner awr cofrestru yn lle awr, haclediad 45 mun / cinio 45 mun, 10 munud rhwng sesiynau i ddod nol ac ail-drefnu stafelloedd. Gadwch sylw os ydach chi'n anghytuno. --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 15:49, 4 Chwefror 2014 (UTC)
Trefnu sesiynau unigol
Gawn ni wneud rheol newydd eleni? Ar gyfer pob sesiwn, a chyn i unrhywun ddechrau siarad, mae angen penodi dau berson yn y stafell i wneud dau swydd: 1 i gadw amser, 1 i flogio byw / cadw nodiadau ar gyfer rhoi ar y blog yn fuan wedyn (os yw'n addas e.e. os oes dim ond 2 neu 3 neu os yw'n sesiwn ymarferol a mae ffordd well o gyfathrebu'r sesiwn yn allanol na blog byw). Be chi'n feddwl? --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 00:06, 27 Ionawr 2014 (UTC)
- Dw i'n fodlon gwneud y ddau beth, unai gyda'i gilydd, neu am yn ail sesiwn.--Rhyswynne (sgwrs) 10:26, 27 Ionawr 2014 (UTC)
Trefnu sesiynau fesul awr
Mae sefyllfaeoedd wedi codi yn y gorffennol lle roedd maint yr ystafell yn anaddas ar gyfer sesiwn. Sgwn i os allwn ni osgoi hyn eleni a sicrhau bod pawb yn gael y gofod gorau ar gyfer eu sesiwn?
Efallai gallwn ni wneud system o fynd nôl at y grid cyn pob sesiwn a gofyn i bobol ymgasglu mewn man penodol i nodi eu bod nhw am fynd i'r sesiwn hwnnw - gallwn ni wedyn ddyrannu ystafell ar sail niferoedd pobol.
Syniad da? --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 00:06, 27 Ionawr 2014 (UTC)
- Dyna fyddai arau d wi'n meddwl. Dwi wedi bod i gynhadledd ble penderfynwyd stafelleodd yn yr un modd on di gyda ben bore, ond mae;n debyd bydd pobl yn newid eu meddwl yn ystod y dydd.
- Oes rhestr o stafelloedd? Dw i wedi gweld hen ebost gan Carl oddiwrth Delyth yn nodi'r canlynol:
- Canolfan Rheolaeth, (digon mawr i 80 o bobl) – modd cael bwffe ar yr ochr, digon o le i gofrestru, a defnyddio’r gofod mawr i gynnal un grŵp neu pawb gyda’i gilydd.
- Yr ystafell gyfarfod lawr llawr, (lle i tua 12 o bobl rownd bwrdd cynhadledd),
- 2 ystafell gyfarfod arall gyda lle i tua 30 o bobl yr un (neu 40 at a push).
- Ystafell cyfrifiaduron gyda 12 cyfrifiadur yno – modd cael cyfrineiriau at y dydd os oes angen .
- Ystafell y Coleg Cymraeg – linc fideo yno a chyfrifiadur gyda thaflunydd etc.
- Oes angen ystafell arall fel hyn? Neu mathau eraill o ystafelloedd?
- Mae hynna'n gyfanswm o 6 ystafell! Gwell cael cadarnhad os yw pob un dal ar gael.--Rhyswynne (sgwrs) 10:22, 27 Ionawr 2014 (UTC)
Trafodaeth fanylach am gynnwys sesiynau unigol / amserlen
Haclediad
Beth am ei symud o cyn cinio i ar ôl cinio? A falle gwneud cinio yn hanner awr a rowlio fo mewn i'r Haclediad?
Dangosiad cyntaf: isdeitlau Cymraeg ffilm "Du Sköna"
Ffilm Swedeg yw Du Sköna. Mae hi ar gael am ddim dan drwydded CC BY-NC-SA. Dan ni wedi creu isdeitlau Cymraeg. Dan ni'n bwriadu cael dangosiad yn y Ganolfan Rheolaeth, Nos Wener am 23:00. Hyd y ffilm yw tua 90 munud. Divec (sgwrs) 22:24, 11 Chwefror 2014 (UTC)
Hyrwyddo?
Gan bod ni mewn lleoliad gwahanol tro ma, efallai bod angen hyrwyddo yn wahanol i drio denu pobol o'r Gogledd sydd heb fod o'r blaen. Neu ddim?
- Efallai. Dyw'r nifer o bennau erioed wedi bod yn broblem. Yn ogystal â 'llenwi seddi' rydym ni'n hyrwyddo er mwyn dangos beth mae pobl yn gallu gwneud ar-lein yn Gymraeg. Hefyd ym mhersonol dw i ddim yn ysu am lwyth o gamerau teledu yna... Bydden nhw yn newid yr amgylchedd yn fy marn i. --Carlmorris (sgwrs) 15:42, 9 Rhagfyr 2013 (UTC)
- digon teg am gamerau, dwi ddim yn credu bod ffilmio sesiynau yn fordd effeithiol o gyfathrebu gwybodaeth o'r digwyddiad hwn beth bynnag. Dwi'n credu bod y fideo wnaeth Mr.Llef yn 2012 yn dda ddo. Rhoi teimlad y digwyddiad yn lle cofnod sych. --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 14:40, 12 Rhagfyr 2013 (UTC)
Materion eraill
Parcio
Dros y penwythnos, gallwch parcio yn y maesoedd parcio y prifysgol am ddim. Nid oes rhaid derbyn côd.--Markgajones (sgwrs) 02:17, 22 Rhagfyr 2013 (UTC)
Llety
Roedd sôn falle byddai cynnig arbennig i fynychwyr Hacio'r Iaith aros yn ystafelloedd gwely "o safon ragorol" y Ganolfan Busnes. Unrhyw newydd? Eisiau sortio lle i aros reit buan rwan. --Rhyswynne (sgwrs) 11:46, 7 Ionawr 2014 (UTC)
- Fase'n dda cael gwybod am hyn fel mater o frys. Oes modd cael gwybodaeth fyny erbyn dechrau wythnos nesa? --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 14:01, 10 Ionawr 2014 (UTC)
- Dyna'r bwriad! --Carlmorris (sgwrs) 02:07, 12 Ionawr 2014 (UTC)
- Byddaf i'n ychwanegu gwybodaeth am lety nes ymlaen... --Carlmorris (sgwrs) 15:27, 13 Ionawr 2014 (UTC)
- Newydd ychwanegu manylion am lety yn y Ganolfan.
- Byddaf i'n ychwanegu gwybodaeth am lety nes ymlaen... --Carlmorris (sgwrs) 15:27, 13 Ionawr 2014 (UTC)
- Dyna'r bwriad! --Carlmorris (sgwrs) 02:07, 12 Ionawr 2014 (UTC)
Allai rhywun ychwanegu opsiynau eraill o dan llefydd eraill ym Mangor plis? Mae nifer cyfyngedig o lefydd yn y Ganolfan ac mae angen ambell i opsiwn rhatach hefyd. Diolch! --Carlmorris (sgwrs) 14:54, 15 Ionawr 2014 (UTC)
Post Mortem
- Tybed a wneith rhywun symud hwn i'r dudalen adborth, pan ceith ei chreu? Diolch.
Can diolch i bawb am gynhadledd gwerth chweil. Mi ddysgais lawer o'r sesiynnau amrywiol a chyfoethog. Diolch i bawb a fu wrthi. Llywelyn2000 (sgwrs) 19:09, 16 Chwefror 2014 (UTC)