Gweithredoedd

Sgwrs

Hacio'r Iaith - Ionawr 2013: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Hedyn

Rhyswynne (sgwrs | cyfraniadau)
Carlmorris (sgwrs | cyfraniadau)
B Symudwyd y dudalen Sgwrs:Hacio'r Iaith - Chwefror 2013 i Sgwrs:Hacio'r Iaith - Ionawr 2013 gan Carlmorris dros y ddolen ailgyfeirio
 
(Ni ddangosir 5 golygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 39: Llinell 39:
All pawb roi sylwadau erbyn y 12fed Hydref? Di hynna'n deg? --[[Defnyddiwr:Rhodri.apdyfrig|Rhodri.apdyfrig]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Rhodri.apdyfrig|sgwrs]]) 11:45, 4 Hydref 2012 (BST)
All pawb roi sylwadau erbyn y 12fed Hydref? Di hynna'n deg? --[[Defnyddiwr:Rhodri.apdyfrig|Rhodri.apdyfrig]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Rhodri.apdyfrig|sgwrs]]) 11:45, 4 Hydref 2012 (BST)


Byddai hyn yn lleoliad da - mae yna fanteision pendant i Aberystwyth (wrth gwrs!) Mi wna i gael gair efo Pennaeth yr Adran i weld a allwn ni noddi neu gyfrannu mewn rhyw ffordd arall yn hytrach na lletya eto eleni. --[[Defnyddiwr:Elinhgj|Elinhgj]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Elinhgj|sgwrs]]) 11:56, 4 Hydref 2012 (BST)
:Byddai hyn yn lleoliad da - mae yna fanteision pendant i Aberystwyth (wrth gwrs!) Mi wna i gael gair efo Pennaeth yr Adran i weld a allwn ni noddi neu gyfrannu mewn rhyw ffordd arall yn hytrach na lletya eto eleni. --[[Defnyddiwr:Elinhgj|Elinhgj]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Elinhgj|sgwrs]]) 11:56, 4 Hydref 2012 (BST)


O blaid ei dderbyn. Cynnig pendant gan sefydliad syd efo'r cyfleusterau angenrhiediol (dw i'n cymryd!) a'r adnoddau i hyrwyddo'n gref gyda ni.  Ydy, mae o'n Aberystwyth eto, ond mae pawb ynhoffi trip i Aber!--[[Defnyddiwr:Rhyswynne|Rhyswynne]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Rhyswynne|sgwrs]]) 11:59, 4 Hydref 2012 (BST)
::O blaid ei dderbyn. Cynnig pendant gan sefydliad syd efo'r cyfleusterau angenrhiediol (dw i'n cymryd!) a'r adnoddau i hyrwyddo'n gref gyda ni.  Ydy, mae o'n Aberystwyth eto, ond mae pawb ynhoffi trip i Aber!--[[Defnyddiwr:Rhyswynne|Rhyswynne]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Rhyswynne|sgwrs]]) 11:59, 4 Hydref 2012 (BST)
 
:::O blaid! Gyda llaw ces i sgwrs gydag Illtud yn Aber wythnos diwethaf. Cyffrous ond angen lot o gynllunio call. --[[Defnyddiwr:Carlmorris|Carlmorris]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Carlmorris|sgwrs]]) 14:59, 4 Hydref 2012 (BST)
 
::::Ces i sgwrs gyda Llyfrgell Gen ynglŷn â fformatau wythnos yma. Mae'n debyg bydd y diwrnod ymarferol (o hacio/stwnsho archifau papurau newydd) ar y dydd Gwener a Hacio'r Iaith ar y dydd Sadwrn. Ond does dim dyddiad penodol eto - heblaw rhywbryd yn ystod mis Ionawr 2013. Unrhyw deimladau cryf o ran dyddiad? --[[Defnyddiwr:Carlmorris|Carlmorris]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Carlmorris|sgwrs]]) 15:45, 10 Hydref 2012 (BST)


== Sesiynau - syniadau ==
== Sesiynau - syniadau ==

Golygiad diweddaraf yn ôl 15:41, 24 Hydref 2012

Pryd a ble?

Pryd a ble ydyn ni eisiau cynnal Hacio'r Iaith Ionawr 2013? Caernarfon? Bangor? Aberystwyth eto? Aberteifi? Llanbedr? --Carlmorris (sgwrs) 16:04, 16 Awst 2012 (BST)

Mae hyn yn rhoi y cyfle i ni drio lleoliad arall, sy’n codi dau cwestiwn, sef ble, a phwy fydd yn arwain yr holl beth? Rhaid hefyd ystyried sut ydym am ei ariannu os na chawn y lleoliad ac adnoddau am ddim.
Ceisiwyd cael rhyw drafodaeth fel hyn ar y wici llynedd, ond ddaeth i ddim, yn rhannol gan bod ni mor hapus gyda chyfleusterau gwych Prifysgol Aber (ac yn hapus i Rhodri wneud y mwyafrif helaeth o’r gwaith trefnu!), ond falle sdim dewis gyda ni tro yma.
Dw i’n meddwl bod rhaid i ni fod yn realistig a chydnabod bydd hi bron y amhosib cael cystal lleoliad (h.y. y gofod oedd ar gael) nachwaith y fath adnoddau (di-wi digon addas ar gyfer ffrydio byw, offer ffilmio, oriau dynol ‘am ddim’ y caethweision/myfyrwyr i wneud y ffilmio a’r gwaith golygu wedyn).
Beth sydd ei wir angen mewn lleoliad?
Cyn chwilio am leoliad, falle dylem gytuno ar pa bethau rydym yn fodlon cyfaddawdu arnynt a pha bethau sy’n angenrheidiol (addaswch neu ychwanegwch atynt a gadael sylw.)
Angenrheidiol
  • Lleoliad digon mawr i ddal cyfanswm o 70-80 o bobl (Allwn ni gwtogi ar hyn, a'i gwneud yn 'cyntaf i'r felin'?)
  • 3 ystafell ar wahân (un yn ddigon mawr i ddal pawb ar gyfer ymgynnull ben bore/cinio)
  • Di-wi agored (am ddim) ar draws yr ystafelloedd i gyd
  • Sgrin a thaflunydd ymhob ystafell
Dymunol
  • Bwyd
  • Ffilmio
  • Ffrydio byw
Dewis lleoliad daearyddol
Un peth yw dewis lleoliad daearyddol, ond mae hefyd angen bod ag adeilad/sefydliad addas i gynnal y digwyddiad, o gadw’r gofynion uchod mewn golwg. Dw i'n cynnig bod dwy ffordd o fod o'i chwmpas hi:
  • Darganfod unigolion sy wirioneddol eisiau denu’r Hacio’r Iaith i’w hardal yn ysgrifennu bids fel yr Olympics cynadleddau Wikimedia a WordPress.
  • Mynd trwy restr mynychwyr y gorffennol a gweld os oes patrwm (e.e. llwyth o fynychwyr yn byw/gweithio yng Nghaerdydd neu ochrau Caernarfon) a mynd ar ol rhai ohonyn nhw, yn enwedig os oes ganddynt gysylltiadau defnyddiol unai ym myd addysg neu'r byd teledu ac felly'n gallu darparu lleoliad ac adnoddau.
Sori os ydy hyn yn hirwyntog, ond meddlw byddai'n well dechrau fel hyn.--Rhyswynne (sgwrs) 16:25, 16 Awst 2012 (BST)
Anghytuno, dylen ni trio ffeindio rhywle cystal! Beth am brifysgolion? --Carlmorris (sgwrs) 17:04, 16 Awst 2012 (BST)

Cynigion pendant lleoliadau

Dwi newydd gael sgwrs efo Illtud o'r Llyfrgell Gen ac mae'n nhw eitha awyddus i letya Hacio'r Iaith 2013 ym mis Ionawr. Y syniad fyddai cyfuno diwrnod Haciaith arferol gyda hacathon y diwrnod cynt / ar ol fydd yn seiliedig ar eu archif digidol papurau newydd. Mae'r cynnig yn cynnwys pethau fel bwyd, cefnogaeth dechnegol ac ati.

Os oes na gynigion pendant eraill ar y bwrdd allwch chi eu rhoi nhw isod fel y gallwn ni eu trafod yr un pryd. Os ma Hacio'r Iaith am ddigwydd o gwbl ma'n rhaid symud mlaen rili, a ma'r opsiwn yma'n tynnu dipyn o'r pwysa trefnu ffwrdd o unigolion.

All pawb roi sylwadau erbyn y 12fed Hydref? Di hynna'n deg? --Rhodri.apdyfrig (sgwrs) 11:45, 4 Hydref 2012 (BST)

Byddai hyn yn lleoliad da - mae yna fanteision pendant i Aberystwyth (wrth gwrs!) Mi wna i gael gair efo Pennaeth yr Adran i weld a allwn ni noddi neu gyfrannu mewn rhyw ffordd arall yn hytrach na lletya eto eleni. --Elinhgj (sgwrs) 11:56, 4 Hydref 2012 (BST)
O blaid ei dderbyn. Cynnig pendant gan sefydliad syd efo'r cyfleusterau angenrhiediol (dw i'n cymryd!) a'r adnoddau i hyrwyddo'n gref gyda ni. Ydy, mae o'n Aberystwyth eto, ond mae pawb ynhoffi trip i Aber!--Rhyswynne (sgwrs) 11:59, 4 Hydref 2012 (BST)
O blaid! Gyda llaw ces i sgwrs gydag Illtud yn Aber wythnos diwethaf. Cyffrous ond angen lot o gynllunio call. --Carlmorris (sgwrs) 14:59, 4 Hydref 2012 (BST)
Ces i sgwrs gyda Llyfrgell Gen ynglŷn â fformatau wythnos yma. Mae'n debyg bydd y diwrnod ymarferol (o hacio/stwnsho archifau papurau newydd) ar y dydd Gwener a Hacio'r Iaith ar y dydd Sadwrn. Ond does dim dyddiad penodol eto - heblaw rhywbryd yn ystod mis Ionawr 2013. Unrhyw deimladau cryf o ran dyddiad? --Carlmorris (sgwrs) 15:45, 10 Hydref 2012 (BST)

Sesiynau - syniadau

  • Creu ac addasu ffotographiau a delweddau ar gyfer Wicipedia. --Rhyswynne (sgwrs) 20:21, 16 Awst 2012 (BST)

...