Gweithdy Creu App ar gyfer dechreuwyr gyda Mei Gwilym: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Oddi ar Hedyn
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '== Gweithdy Creu App ar gyfer Dechreuwyr == Dyma ni, mofos, dy gyfle di i wneud £££ ac ymddeol yn gynnar... OK, ella ddim, ond yn y gweithdy hwn bydd...' |
|||
Llinell 28: | Llinell 28: | ||
Tra dwi'n gobeithio byddi di'n dod â dy laptop i gael ymuno yn yr hwyl, does dim rheidrwydd i wneud - dim ond parodrwydd i wrando arna i'n mwydro am awr neu ddwy. | Tra dwi'n gobeithio byddi di'n dod â dy laptop i gael ymuno yn yr hwyl, does dim rheidrwydd i wneud - dim ond parodrwydd i wrando arna i'n mwydro am awr neu ddwy. | ||
===Pwy ydw i?=== | |||
Dwi'n creu gwefannau yn llawrydd, ac wedi bod wrthi ers bron i 6 mlynedd. Mae peth gwybodaeth ar fy ngwefan http://mei.gwilym.net/ neu gelli di ddal fyny gyda mi yn http://twitter.com/meigwilym |
Fersiwn yn ôl 22:38, 19 Gorffennaf 2012
Gweithdy Creu App ar gyfer Dechreuwyr
Dyma ni, mofos, dy gyfle di i wneud £££ ac ymddeol yn gynnar...
OK, ella ddim, ond yn y gweithdy hwn byddan ni'n edrych ar sylfeini rhaglennu, gan ddefnyddio'r rhain i greu app syml.
Mae sawl nod i'r gweithdy. Gall o unai:
- Rhoi syniad i ti sut mae rhagleni cyfrifiadurol yn gweithio
- Rhoi ti ar ben ffordd i greu apps syml ar gyfer dy hun neu dy gymuned
- Rhoi'r pwer i ti gymryd drosodd y byd
Beth bynnag dy obeithion, dwi'n siwr cawn ni lot o hwyl.
Beth fyddwn ni'n creu?
App syml i amserlenu digwyddiad neu debyg. Dyma esiampl byw: http://gwilym.net/gwylfelin sy'n dangos holl digwyddiadau yng Ngŵyl Y Felinheli 2012.
Byddwn ni'n rhaglennu yn Javascript, gan edrych ar HTML a CSS hefyd (a mwy na thebyg son am PHP a cronfeydd data).
Gan nad ydw i yn ffan o ail dyfeisio olwynion, byddwn ni'n defnyddio'r llyfrgell http://jquerymobile.com/ i'n cynorthwyo.
Ar gyfer demos cyflym byddwn yn defnyddio http://jsfiddle.net/
Dwi'n awgrmu i ti lawrlwytho Notepad++ http://notepad-plus-plus.org (rhad ac am ddim) a Chrome https://www.google.com/intl/en/chrome/browser/ ar gyfer y sesiwn. Lawrlwytha'r rhain cyn y sesiwn rhag ofn bydd problemau di-wi.
Croeso i bawb!
Tra dwi'n gobeithio byddi di'n dod â dy laptop i gael ymuno yn yr hwyl, does dim rheidrwydd i wneud - dim ond parodrwydd i wrando arna i'n mwydro am awr neu ddwy.
Pwy ydw i?
Dwi'n creu gwefannau yn llawrydd, ac wedi bod wrthi ers bron i 6 mlynedd. Mae peth gwybodaeth ar fy ngwefan http://mei.gwilym.net/ neu gelli di ddal fyny gyda mi yn http://twitter.com/meigwilym