Gweithrediadau

Trwydded gyhoeddus gyffredinol GNU fersiwn 2 (GPL yn Gymraeg)

Oddi ar Hedyn

(Ailgyfeiriad oddi wrth Trwydded gyhoeddus gyffredinol GNU (GPL yn Gymraeg))
TRWYDDED GYHOEDDUS GYFFREDINOL GNU

Cyfieithiad answyddogol o Drwydded Gyhoeddus Gyffredinol (TGG) GNU i'r
Gymraeg yw hwn. Ni chyhoeddwyd mohono gan y Free Software Foundation, ac
nid yw'n mynegi'n gyfreithiol termau dosbarthu meddalwedd sy'n defnyddio
TGG GNU--testun Saesneg gwreiddiol TGG GNU yn unig a wna hynny. Serch
hynny, gobeithiwn y bydd y cyfieithiad yma'n gymorth i siaradwyr Cymraeg
ddeall a gwneud gwell defnydd o TGG GNU.

This is an unofficial translation of the GNU General Public License into
Welsh. It was not published by the Free Software Foundation, and does
not legally state the distribution terms for software that uses the GNU
GPL - only the original English text of the GNU GPL does that. However,
we hope that this translation will help Welsh speakers understand the
GNU GPL better.

Fersiwn 2, Mehefin 1991

Hawlfraint (C) 1989, 1991 Free Software Foundation, Inc. 59 Temple
Place, Suite 330, Boston, MA 02111-1307 USA

Mae gan bawb yr hawl i gopio a dosbarthu copiau gair am air o'r drwydded
hon, ond nid oes hawl ei newid.

Rhagair

Mae trwyddedau ar gyfer y rhan fwyaf o feddalwedd wedi'u cynllunio i'ch
amddifadu o'ch rhyddid i'w rhannu a'i newid. I'r gwrthwyneb mae Trwydded
Gyhoeddus Gyffredinol GNU wedi'i bwriadu i warantu eich rhyddid i rannu
a newid meddalwedd rhydd--i wneud yn siwr fod pob meddalwedd yn rhydd ar
gyfer ei holl ddefnyddwyr. Mae'r Drwydded Gyhoeddus Gyffredinol yn
berthnasol i'r rhan fwyaf o feddalwedd y Free Software Foundation ac i
unrhyw raglen mae ei hawduron yn ymrwymo i'w defnyddio. (Mae peth
meddalwedd Free Software Foundation arall yn cael ei gynnwys o fewn y
Drwydded Gyhoeddus Gyffredinol Llyfrgelloedd yn lle hynny.) Mae modd ei
gosod ar gyfer eich rhaglenni chi hefyd.

Pan ydym yn son am feddalwedd rhydd (free software), rydym yn son am
ryddid nid pris. Mae ein Trwyddedau Cyhoeddus Cyffredinol wedi'u
cynllunio i wneud yn siwr fod gennych y rhyddid i ddosbarthu copiau o
feddalwedd rhydd (a chodi am y gwasanaeth hwn os dymunwch), eich bod yn
derbyn y cod ffynhonnell neu bod modd i chi ei gael os dymunwch, bod
modd i chi newid y feddalwedd neu ddefnyddio darnau ohoni ar gyfer
rhaglenni rhydd newydd; a'ch bod yn gwybod bod bod modd i chi wneud y
pethau hyn.

I ddiogleu eich hawliau, mae angen i ni osod cyfyngiadau sy'n atal
unrhyw un rhag eich amddifadu o'r hawliau hyn neu ofyn i chi ildio'r
hawliau. Mae'r cyfyngiadau'n trosi i rhai cyfrifoldebau penodol i chi os
ydych yn dosbarthu copiau o'r feddalwedd, neu yn ei newid.

Er engrhaifft, os byddwch yn dosbarthu copiau o raglen, p'un ai am ddim
neu am bris, rhaid i chi rhoi i'r derbynwyr yr holl hawliau sydd gennych
chi. Rhaid i chi hefyd wneud yn siwr eu bod hwy hefyd yn derbyn neu yn
medru cael y cod ffynhonnell. A rhaid i chi ddangos yr amodau hyn iddyn
nhw wybod eu hawliau.

Rydym yn diogelu eich hawliau gyda dau gam: (1) hawlfreintio'r
feddalwedd, a (2) cynnig y drwydded hon sy'n rhoi caniatad i chi gopio,
dosbarthu a/neu addasu'r feddalwedd.

Hefyd, ar gyfer diogelwch pob awdur a'n diogelwch ni, rydym eisiau
gwneud yn siwr fod pawb yn deall nad oes gwarant ar gyfer y feddalwedd
rydd hon. Os yw'r feddalwedd yn cael ei haddasu gan rywun a'i phasio
ymlaen, rydym am i'w derbynwyr wybod nad y gwreiddiol sydd ganddynt, fel
nad yw problemau sydd wedi'u cyflwyno gan eraill yn adlewyrchu ar enw
da'r awduron gwreiddiol.

Yn olaf, mae unrhyw rhaglen rydd o dan fygythiad parhaus patentau
meddalwedd. Rydym yn awyddus i osgoi'r perygl fod ailddosbarthwyr
rhaglen rydd yn cymryd trwydded patent, gan wneud y rhaglen yn
berchnogol. I rwystro hyn, rydym wedi'i gwneud hi'n glir y dylai unrhyw
batent gael ei drwyddedu ar gyfer defnydd rhydd pawb neu beidio gael ei
drwyddedu o gwbl.

Isod ceir yr union amodau ar gyfer copio, dosbarthu ac addasu.

TRWYDDED GYHOEDDUS GYFFREDINOL GNU

TELERAU AC AMODAU AR GYFER COPIO, DOSBARTHU AC ADDASU

0. Mae'r Drwydded hon yn berthnasol i unrhyw raglen neu waith arall sy'n
cynnwys hysbysiad wedi'i osod gan y daliwr hawlfraint sy'n nodi bod modd
ei ddosbarthu o dan amodau'r Drwydded Gyhoeddus Gyffredinol hon. Mae'r
"Rhaglen" , isod, yn cyfeirio at unrhyw raglen neu waith, ac mae "gwaith
yn seiliedig ar y Rhaglen" yn golygu un ai y Rhaglen neu unrhyw waith
deilliannol o dan gyfraith hawlfraint: hynny yw, gwaith yn cynnwys y
rhaglen neu ran ohoni, un ai air am air neu gyda newidiadau a/neu
gyfieithiad i iaith arall. (O hyn ymlaen, bydd cyfieithu yn cael ei
gynnwys heb gyfyngiad o fewn y term "addasu" . Cyfeirir at bob daliwr
trwydded fel "chi" .

Nid yw gweithgareddau ar wahan i gopio, dosbarthu ac addasu yn cael eu
cynnwys yn y Drwydded hon; maen nhw tu allan iddi. Nid oes cyfyngiad ar
y weithred o redeg y Rhaglen, ac mae allbwn y Rhaglen yn gynwysedig dim
ond os yw cynnwys yr allbwn yn ffurfio gwaith sy'n seiliedig ar y
Rhaglen (yn annibynnol o fod wedi cael ei wneud o redeg y Rhaglen). Mae
p'un ai yw hyn yn wir yn dibynnu ar beth mae'r Rhaglen yn ei wneud.

1. Mae hawl i chi gopio a dosbarthu copiau gair am air o'r cod
ffynhonnell fel i chi ei dderbyn, ar unrhyw gyfrwng, ar yr amod eich bod
yn cyhoeddi yn eich copi yn amlwg ac yn addas hysbysiad hawlfraint a
gwadiad gwarant; yn cadw pob hysbysiad sy'n cyfeirio at y Drwydded hon
ac i absenoldeb unrhyw warant gyda'i gilydd yn gyfan; a rhoi i
dderbynwyr eraill y Rhaglen gopi o'r Drwydded hon gyda'r Rhaglen.

Mae modd i chi godi tal am y weithred gorfforol o drosglwyddo copi, ac
mae modd i chi, yn ol eich dewis, gynnig diogelwch gwarant yn gyfnewid
am dal.

2. Mae modd i chi newid eich copi neu gopiau o'r rhaglen neu unrhyw rhan
ohoni, gan felly greu gwaith yn seiliedig ar y Rhaglen, a chopio a
dosbarthu yr addasiadau neu'r gwaith o dan amodau Adran 1 uchod, ar yr
amod eich bod hefyd yn bodloni pob un o'r amodau hyn:

a) Rhaid i chi achosi i'r ffeiliau sydd wedi'u haddasu gario hysbysiadau
amlwg yn datgan eich bod wedi newid y ffeiliau a dyddiad unrhyw newid.

b) Rhaid i chi achosi i unrhyw waith rydych yn ei ddosbarthu neu ei
gyhoeddi, sydd yn gyfangwbl neu yn rhannol yn deillio o'r Rhaglen neu
unrhyw ran ohoni, gael ei thrwyddedu fel cyfanwaith heb unrhyw gost i
bob trydydd parti dan delerau'r Drwydded hon.

c) Os yw'r rhaglen sydd wedi'i haddasu fel arfer yn darllen gorchmynion
yn rhyngweithiol pan gaiff ei rhedeg, rhaid i chi achosi iddi, pan fydd
yn cychwyn rhedeg ar gyfer defnydd rhyngweithiol o'r fath yn y ffordd
fwyaf cyffredin, argraffu neu arddangos datganiad yn cynnwys hysbysiad
hawlfraint addas a hysbysiad nad oes yna warant (neu fel arall, yn dweud
eich bod chi yn rhoi gwarant) ac y gall defnyddwyr ailddosbarthu'r
rhaglen dan yr amodau hyn, ac yn dweud wrth y defnyddiwr sut i edrych ar
gopi o'r Drwydded hon. (Eithriad: os yw'r Rhaglen ei hun yn
rhyngweithiol ond nad yw fel arfer yn argraffu datganiad o'r fath, nid
oes raid i'ch gwaith sy'n seiliedig ar y Rhaglen argraffu datganiad.)
Mae'r gofynion hyn wedi'u gosod ar y gwaith sydd wedi'i addasu fel
cyfanwaith. Os ceir rhannau y mae modd eu hadnabod o'r gwaith hwnnw sydd
heb ddeillio o'r Rhaglen, a bod modd yn rhesymol eu hystyried fel
gweithiau annibynnol ac ar wahan ynddynt eu hunain, yna nid yw'r
Drwydded hon, a'i thelerau, yn berthnasol i'r adrannau hynny pan fyddwch
yn eu dosbarthu fel gweithiau ar wahan. Ond pan fyddwch yn dosbarthu'r
un rhannau fel rhan o gyfanwaith sy'n waith seiliedig ar y Rhaglen,
rhaid i ddosbarthiad y cyfanwaith fod ar delerau'r Drwydded hon, y mae
ei chaniatad i drwyddedigion eraill yn estyn i'r cyfanwaith i gyd, ac
felly i bob un rhan ohoni heb wneud cyfrif o bwy wnaeth ei ysgrifennu.

Felly, nid bwriad yr adran hon yw hawlio hawliau na herio eich hawliau i
waith sydd wedi'i ysgrifennu yn gyfangwbl gennych chi; yn hytrach, y
bwriad yw gweithredu'r hawl i reoli dosbarthiad gweithiau deilliannol
neu gyfunol sy'n seiliedig ar y Rhaglen.

Yn ychwanegol, nid yw cydgrynhoi gwaith arall nad yw wedi'i seilio ar y
Rhaglen gyda'r Rhaglen (neu gyda gwaith sydd wedi'i seilio ar y Rhalgen)
ar gyfrol o gyfrwng storio neu ddosbarthu yn dod a'r gwaith arall o fewn
cwmpas y Drwydded hon.

3. Gallwch gopio a dosbarthu'r Rhaglen (neu waith wedi'i seilio arni,
dan Adran 2) mewn cod gwrthrych neu ffurf weithredadwy dan delerau
Adrannau 1 a 2 uchod ond i chi hefyd wneud un o'r canlynol:

a) Rhoi gyda hi y cod ffynhonnell darllenadwy i beiriant cyfatebol
cyflawn, sydd yn gorfod cael ei ddosbarthu dan delerau Adrannau 1 a 2
uchod ar gyfrwng sydd yn gyffredin yn cael ei ddefnyddio ar gyfer
ymgyfnewid meddalwedd; neu,

b) Rhoi gyda hi gynnig ysgrifenedig, sy'n ddilys am o leiaf dair
blynedd, i roi i unrhyw drydydd parti, am dal sydd ddim mwy na'ch cost
am y weithred gorfforol o ddosbarthu cod, i'w dosbarthu dan delerau
Adrannau 1 a 2 uchod ar gyfrwng sydd fel arfer yn cael ei ddefnyddio ar
gyfer ymgyfnewid meddalwedd; neu,

c) Rhoi gyda hi y wybodaeth y gwnaethoch chi ei derbyn ynghylch y cynnig
i ddosbarthu cod ffynhonnell cyfatebol. (Dim ond ar gyfer dosbarthiad
anfasnachol y mae'r dewis arall hwn yn cael ei ganiatau a dim ond os
gwnaethoch chi dderbyn y rhaglen mewn cod gwrthrych neu ffurf
weithredadwy gyda chynnig o'r fath, yn unol ag Isadran b uchod.)

Mae'r cod ffynhonnell ar gyfer gwaith yn golygu ffurf ddewisol y gwaith
ar gyfer ei addasu. Ar gyfer gwaith gweithredadwy, ystyr cod ffynhonnell
cyflawn yw'r cyfan o'r cod ffynhonnell ar gyfer pob modiwl y mae'n eu
cynnwys, a hefyd unrhyw ffeiliau diffinio rhyngwyneb cysylltiedig, a
hefyd y sgriptiau a ddefnyddiwyd i reoli creu a gosod y gwaith
gweithredadwy. Fodd bynnag, fel eithriad arbennig, nid oes raid i'r cod
ffynhonnell sy'n cael ei ddosbarthu gynnwys unrhyw beth sy'n cael ei
ddosbarthu fel arfer (naill ai ar ffurf ffynhonnell neu ddeuaidd) gyda
phrif gydrannau (crynhoydd, cnewyllyn, ac ati) y system weithredu y
mae'r gwaith gweithredadwy yn rhedeg arno, on bai fod y gydran honno ei
hun yn dod gyda'r gwaith gweithredadwy.

Os yw'r gwaith gweithredadwy neu god gwrthrych yn cael ei ddosbarthu
drwy gynnig mynediad at gopi o le dynodedig, yna mae cynnig mynediad
cyfatebol i gopio'r cod ffynhonnell o'r un lle yn cyfrif fel dosbarthu'r
cod ffynhonnell, er nad yw trydydd partion yn cael eu gorfodi i gopio'r
ffynhonnell ynghyd a'r cod gwrthrych.

4. Nid oes hawl i chi gopio, addasu, isdrwyddedu na dosbarthu'r Rhaglen
ac eithrio fel sy'n cael ei ddarparu mewn cymaint eiriau dan y Drwydded
hon. Mae unrhyw ymgais fel arall i gopio, addasu, isdrwyddedu neu
ddosbarthu'r Rhaglen yn ddi-rym, a bydd yn awtomatig yn terfynu eich
hawliau dan y Drwydded hon. Fodd bynnag, ni fydd partion sydd wedi
derbyn copiau, neu hawliau, oddi wrthych dan y Drwydded hon yn cael eu
trwyddedau wedi'u terfynu cyn belled a bo'r partion hynny yn parhau i
gydymffurfio'n llawn.

5. Nid oes raid i chi dderbyn y Drwydded hon, gan nad ydych wedi'i
llofnodi. Fodd bynnag, nid oes unrhyw beth arall yn rhoi hawl i chi
addasu neu ddosbarthu'r Rhaglen na'r gweithiau sy'n deillio ohoni. Mae'r
gweithredoedd hyn yn cael eu gwahardd gan y ddeddf os nad ydych yn
derbyn y Drwydded hon. Felly, drwy addasu neu ddosbarthu'r Rhaglen (neu
unrhyw waith sy'n seiliedig ar y Rhaglen), rydych yn dangos eich bod yn
derbyn y Drwydded hon i wneud hynny, a'i holl delerau ac amodau ar gyfer
copio, dosbarthu neu addasu'r Rhaglen neu weithiau sy'n seiliedig arni.

6. Bob tro rydych yn ailddosbarthu'r Rhaglen (neu unrhyw waith sy'n
seiliedig ar y Rhaglen), mae'r derbyniwr yn awtomatig yn derbyn trwydded
oddi wrth y trwyddedwr gwreiddiol i gopio, dosbarthu neu addasu'r
Rhaglen yn unol a'r telerau ac amodau hynny. Nid oes hawl gennych osod
unrhyw gyfyngiadau pellach ar weithrediad derbynwyr o'r hawliau sy'n
cael ei rhoi ynddi. Nid ydych yn gyfrifol am orfodi trydydd partion i
gydymffurfio a'r Drwydded hon.

7. 7. Os yw amodau yn cael eu gosod arnoch, o ganlyniad i ddyfarniad
llys neu honiad o dorri patent neu am unrhyw reswm arall (heb fod yn
gyfyngedig i faterion patent), p'un ai gan orchymyn llys, cytundeb neu
rywbeth arall, sy'n croesddweud amodau'r Drwydded hon, nid ydynt yn eich
esgusodi rhag amodau'r Drwydded hon. Os na allwch ddosbarthu fel ag i
fodloni ar yr un pryd eich rhwymedigaethau dan y Drwydded hon ac unrhyw
rwymedigaethau perthnasol eraill, yna o ganlyniad i hyn ni chewch
ddosbarthu'r Rhaglen o gwbl. Er enghraifft, pe na bai trwydded patent yn
caniatau i'r Rhaglen gael ei hailddosbarthu yn rhydd rhag breindal gan
bawb sy'n derbyn copiau yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwyddoch
chi, yna'r unig ffordd y gallech ei bodloni hi a'r Drwydded hon fyddai i
ymatal yn llwyr rhag dosbarthu'r Rhaglen.

Os yw unrhyw ran o'r adran hon yn cael ei hystyried i fod yn annilys
neu'n amhosibl ei gweithredu dan unrhyw amgylchiad arbennig, bwriedir
gweddill yr adran i fod yn berthnasol a bwriedir yr adran yn gyfan i fod
yn berhnasol dan amgylchiadau eraill.

Nid pwrpas yr adran hon yw gwneud i chi dorri unrhyw hawlio patentau neu
hawliau eiddo eraill neu ymladd dilysrwydd unrhyw hawlio o'r fath; unig
bwrpas yr adran hon yw diogelu cyfanrwydd y system ddosbarthu meddalwedd
rhydd, sy'n cael ei weithredu gan arferion trwyddedu cyhoeddus. Mae
llawer o bobl wedi gwneud cyfraniadau hael i'r dewis eang o feddalwedd
sy'n cael ei dosbarthu drwy'r system honno ac sy'n dibynnu ar gysondeb
gweithrediad y system honno; mater i'r awdur/rhoddwr yw penderfynu a yw
ef/hi yn barod i ddosbarthu meddalwedd drwy unrhyw systemau eraill ac ni
all y sawl sy'n drwyddedig orfodi'r dewis hwnnw.

Bwriad yr adran hon yw ei gwneud hi'n hollol eglur beth y credir ei fod
yn ganlyniad gweddill y Drwydded hon. 8. Os yw dosbarthiad a/neu
ddefnydd y Rhaglen hon yn cael ei gyfyngu mewn rhai gwledydd naill ai
gan batentau neu ryngwynebau wedi'u hawlfreintio, gall deiliad yr
hawlfraint gwreiddiol sy'n gosod y Rhaglen dan y Drwydded hon ychwanegu
cyfyngiad dosbarthu daearyddol yn cau allan y gwledydd hynny, fel bod
dosbarthu yn cael ei ganiatau yn unig o fewn neu rhwng gwledydd nad
ydynt wedi cael eu cau allan fel hyn. Mewn achos o'r fath, mae'r
Drwydded hon yn ymgorffori'r cyfyngiad fel petai wedi'i ysgrifennu yng
nghorff y Drwydded hon.

9. Efallai y bydd y Free Software Foundation yn cyhoeddi fersiynau
wedi'u hadolygu a/neu rhai newydd o'r Drwydded Gyhoeddus Gyffredinol o
dro i dro. Bydd fersiynau newydd o'r fath yn debyg o ran ysbryd i'r
fersiwn presennol, ond efallai y byddant yn wahanol yn y manylion er
mwyn delio gyda phroblemau neu bryderon newydd. Rhoddir rhif fersiwn
gwahanol i bob fersiwn. Os yw'r Rhaglen yn pennu rhif fersiwn o'r
Drwydded hon sy'n berthnasol iddi ac "unrhyw fersiwn diweddarach" , mae
gennych y dewis o ddilyn telerau ac amodau naill ai'r fersiwn hwnnw neu
unrhyw fersiwn diweddarach a gyhoeddir gan y Free Software Foundation.
Os nad yw'r Rhaglen yn pennu rhif fersiwn o'r Drwydded hon, gallwch
ddewis unrhyw fersiwn a gyhoeddwyd erioed gan y Free Software
Foundation.

10. Os dymunwch ymgorffori rhannau o'r Rhaglen i mewn i raglenni rhydd
eraill y mae amodau eu dosbarthu yn wahanol, ysgrifennwch at yr awdur i
ofyn caniatad. Ar gyfer meddalwedd sydd wedi'i hawlfreintio gan y Free
Software Foundation, ysgrifennwch at y Free Software Foundation; rydym
ni weithiau yn gwneud eithriadau ar gyfer hyn. Bydd ein penderfyniad yn
cael ei arwain gan y ddau nod o ddiogelu statws rhydd pob un o
ddeilliannau ein meddalwedd rhydd ac o hybu rhannu ac ailddefnyddio
meddalwedd yn gyffredinol.

DIM GWARANT

11. GAN FOD Y RHAGLEN YN CAEL EI THRWYDDEDU YN RHAD AC AM DDIM, NID OES
GWARANT AR GYFER Y RHAGLEN, I'R GRADDAU Y MAE'R GYFRAITH BERTHNASOL YN
CANIATAU. AC EITHRIO LLE CEIR DATGANIAD YSGRIFENEDIG FEL ARALL MAE
DALWYR YR HAWLFRAINT A/NEU BARTION ERAILL YN DARPARU'R RHAGLEN "FEL Y
MAE" HEB WARANT O UNRHYW FATH, NAILL AI WEDI'I FYNEGI NEU YMHLYG, GAN
GYNNWYS, OND HEB FOD YN GYFYNGEDIG I WARANTAU OBLYGEDIG YNGHYLCH
MARSIANDWYAETH A FFITRWYDD AT BWRPAS ARBENNIG. MAE'R HOLL RISG YNGHYLCH
ANSAWDD A PHERFFORMIAD Y RHAGLEN YN PERTHYN I CHI. PETAI'R RHAGLEN YN
PROFI I FOD YN DDIFFYGIOL, CHI SY'N YSGWYDDO COST YR HOLL WASANAETHU,
TRWSIO NEU GYWIRO ANGENRHEIDIOL.

12. NI FYDD DALWYR YR HAWLFRAINT, NEU UNRHYW BARTI ARALL A FYDD EFALLAI
YN ADDASU A/NEU AILDDOSBARTHU'R RHAGLEN FEL SY'N CAEL EI GANIATAU UCHOD,
DAN UNRYW AMGYLCHIADAU ONI BAI BOD HYNNY'N ORFODOL DAN GYFRAITH
BERTHNASOL NEU WEDI'I GYTUNO YN YSGRIFENEDIG, YN ATEBOL I CHI AM
IAWNDAL, GAN GYNNWYS UNRHYW IAWNDAL CYFFREDINOL, ARBENNIG, ATODOL NEU
GANLYNIADOL YN CODI O DDEFNYDDIO NEU ANALLU I DDEFNYDDIO'R RHAGLEN (GAN
GYNNWYS OND HEB FOD YN GYFYNGEDIG I GOLLI DATA NEU DDATA YN CAEL EI
WNEUD YN WALLUS NEU GOLLEDION A DDIODDEFIR GENNYCH CHI NEU DRYDYDD
PARTION NEU FETHIANT Y RHAGLEN I WEITHREDU GYDAG UNRHYW RAGLENNI
ERAILL), HYD YN OED OS YW DALIWR O'R FATH NEU BARTI ARALL WEDI CAEL EI
GYNGHORI O BOSIBILRWYDD IAWNDAL O'R FATH.

DIWEDD Y TELERAU A'R AMODAU

Sut i Gymhwyso'r Telerau hyn i'ch Rhaglenni Newydd

Os ydych yn datblygu rhaglen newydd, a'ch bod am iddi fod mor
ddefnyddiol ag y mae modd i'r cyhoedd, y ffordd orau i gyflawni hyn yw
i'w gwneud yn feddalwedd rhydd y gall pawb ei hailddosbarthu a'i newid
dan y telerau hyn.

I wneud hyn, atodwch yr hysbysiadau canlynol i'r rhaglen. Y ffordd fwyaf
diogel yw eu hatodi i ddechrau pob ffeil ffynhonnell i gyfleu'r ffaith
fod gwarant wedi'i chau allan yn y ffordd fwyaf effeithiol; a dylai pob
ffeil gael o leiaf un llinell "hawlfraint" a phwyntydd at y man lle ceir
yr hysbysiad llawn.

<un llinell i roi enw'r rhaglen a syniad byr o'r hyn mae'n gwneud.>
Hawlfraint (C) <blwyddyn> <enw'r awdur>

Mae'r rhaglen hon yn feddalwedd rhydd; gallwch ei hailddosbarthu a/neu
ei haddasu dan delerau Trwydded Gyhoeddus Gyffredinol GNU fel y'i
cyhoeddwyd gan y Free Software Foundation; naill ai fersiwn 2 y
Drwydded, neu (yn ol eich dewis) unrhyw fersiwn diweddarach.

Mae'r rhaglen hon yn cael ei dosbarthu yn y gobaith y bydd yn
ddefnyddiol, ond HEB UNRHYW WARANT; heb hyd yn oed y warant oblygedig o
FARSIANDWYAETH neu FFITRWYDD AT BWRPAS ARBENNIG. Gweler Trwydded
Gyhoeddus Gyffredinol GNU am ragor o fanylion.

Dylech fod wedi derbyn copi o Drwydded Gyhoeddus Gyffredinol GNU ynghyd
a'r rhaglen hon; os na, ysgrifennwch at y

Free Software Foundation, Inc., 59 Temple Place, Suite 330, Boston MA
02111-1307 USAHefyd dylech gynnwys gwybodaeth am sut i gysylltu a chi
drwy gyfrwng y post electronig a phapur.

Os yw'r rhaglen yn rhyngweithiol, gwnewch iddi allbynnu hysbysiad byr
fel hyn pan fydd yn dechrau mewn modd rhyngweithiol:

Gnomovision fersiwn 69, Hawlfraint (C) blwyddyn enw'r awdur. Mae
Gnomovision yn dod HEB UNRHYW WARANT O GWBL; am fanylion teipiwch
'dangoswch w'. Meddalwedd rhydd yw hwn, ac mae croeso i chi ei
ailddosbarthu dan amodau arbennig; teipiwch 'dangoswch c' am fanylion.

Dylai'r gorchmynion damcaniaethol 'dangoswch w' a 'dangoswch c' ddangos
y rhannau priodol o'r Drwydded Gyhoeddus Gyffredinol. Wrth gwrs, gall y
gorchmynion rhydych chi'n eu defnyddio fod wedi'u galw'n rhywbeth arall
ar wahan i 'dangoswch w' a 'dangoswch c'; gallent hyd yn oed fod yn
cliciadau llygoden neu eitemau ar ddewislen--beth bynnag sy'n addas i'ch
rhaglen.

Dylech hefyd gael eich cyflogwr (os ydych chi'n gweithio fel
rhaglennydd) neu eich ysgol, os oes un, i lofnodi "gwadiad hawlfraint"
ar gyfer y rhaglen, os oes angen. Dyma sampl; newidiwch yr enwau:

Mae Yoyodyne, Inc. drwy hyn yn gwadu pob buddiant hawlfraint yn y
rhaglen 'Gnomovision' (sy'n mwytho crynhowyr) a ysgrifennwyd gan James
Hacker. <llofnod Ty Coon>, 1 Ebrill 1989 Ty Coon, Llywydd Llygredd

Nid yw'r Drwydded Gyhoeddus Gyffredinol hon yn caniatau i'ch rhaglen
gael ei hymgorffori mewn rhaglenni perchnogol. Os mai llyfrgell
isreolwaith yw eich rhaglen, efallai y byddwch yn ystyried ei bod hi'n
fwy defnyddiol cysylltu cymwyseddau perchnogol gyda'r llyfrgell. Os mai
dyma'r hyn rydych am ei wneud, defnyddiwch Drwydded Gyhoeddus Gyfredinol
Llyfrgelloedd GNU yn lle'r Drwydded hon.