Gweithrediadau

Sut i ddechrau blog - canllaw i ddechreuwyr

Oddi ar Hedyn

(Ailgyfeiriad oddi wrth Sut i ddechrau blog lleol - canllaw i ddechreuwyr)

Mae'r canllaw yma yn esbonio sut i ddechrau blog lleol am dy ardal drwy ddefnyddio gwasanaeth am ddim o'r enw WordPress.com.

Rydyn ni'n sôn am flog lleol yn y canllaw yma. Wrth gwrs rwyt ti'n gallu dechrau blog neu wefan am unrhyw bwnc arall. Does dim gwahaniaeth o ran meddalwedd nag egwyddorion.

Mae systemau eraill yn bodoli hefyd, ond dw i'n licio WordPress - mae lot o bobol o Gymru a llawer iawn o gwmpas y byd yn cytuno!


Pam?

Sgrînlun o BaeColwyn.com - blog lleol da iawn am dref Bae Colwyn

Gall blog fod yn ddefnyddiol am y rhesymau posib isod.

  • Rhannu newyddion
  • Rhannu lluniau a fideos
  • Hyrwyddo digwyddiadau
  • Helpu dy gymuned neu pentref ac ysgol
  • Codi arian am bethau, elusenau
  • Ymgyrchu
  • Papur bro ar-lein (defnyddiol i gyn-drigolion gadw mewn cysylltiad)
  • Defnyddio'r iaith Gymraeg ar-lein

Gaf i weld enghreifftiau plîs?

Dyma restr o wefannau/blogiau Cymraeg sy'n seiliedig ar wordpress.com.

Beth ydw i ei angen?

Rwyt ti angen:

  • cyfrifiadur
  • cysylltiad i'r we
  • cyfeiriad e-bost

(Os wyt ti'n gallu darllen y dudalen yma ar y we ac os oes gen ti gyfeiriad e-bost, rwyt ti'n hollol iawn!)


Beth fydd nodweddion y blog?

Gwnawn ni ddefnyddio gwasanaeth ar-lein o'r enw WordPress. Mae'r peth am ddim. Ar y diwedd, bydd gen ti wefan gyda'r nodweddion isod. Does dim ots os nad wyt ti'n eu deall eto.

  • eitemau newyddion / cofnodion
  • gallu postio testun, lluniau, fideo, ffeiliau sain neu cyfuniad o'r pedwar
  • sylwadau gan darllenwyr os ti eisiau
  • URL (cyfeiriad gwefan) fel enwpentref.wordpress.com
  • rhyngwyneb yn Gymraeg
  • mwy nag un awdur os ti eisiau


Amser?

Bydd y broses yma yn cymryd tua 5 neu 10 munud.


Iawn, dw i'n barod. Canllaw plis!

1. Cer i http://cy.wordpress.com/

2. Clicia "Sign Up Now!"

Wordpress-cymraeg-clic.jpg

3. Llenwa'r ffurflen gyda:

  • Cyfeiriad Blog (yr x yn x.wordpress.com, os mae'r ffurflen yn cynnig cyfeiriad fel "x.com is available, use it for your blog for $rhwybeth a year?", clicia "No thanks, I’ll use the free wordpress.com address." am y tro. Rwyt ti'n gallu cysylltu dy flog gyda chyfeiriad fel x.com neu x.cymru yn y dyfodol - ond paid a phoeni ar hyn o bryd.)
  • Enw Defnyddiwr (defnyddia'r un enw a'r cyfeiriad os ti eisiau)
  • Cyfrinair
  • Cadarnhau (yr un cyfrinair eto)
  • E-mail address

Wordpress-ffurflen.jpg

4. Clicia "Sign Up"

5. Mae WordPress yn cynnig ffurflen arall gyda phroffil personol. Rwyt ti'n gallu llenwi a chlicia "Cadw Proffil"...

Llanhedyn-proffil-jane.jpg

...neu gadael y proffil yn hollol wag am y tro.

Llanhedyn-proffil.jpg

6. Cer i dy e-bost. Dylet ti fod wedi derbyn e-bost gan WordPress i gadarnhau dy gyfeiriad e-bost. Dilyna'r cyfarwyddiadau yn y neges e-bost. Paid ag anghofio dy ffolder sbam, weithiau mae negeseuon yn mynd yna. (Dim lwc? Arhosa am 5 neu 10 munud. Os dwyt ti ddim wedi derbyn yr e-bost, cer i wneud paned. Os dwyt ti dal ddim wedi derbyn yr e-bost, cer i waelod y dudalen a newidia'r cyfeiriad i gyfeiriad dy briod, plentyn neu ffrind.)

7. Rwyt ti wedi gorffen y pethau sylfaenol! Mae'r blog lleol yn fyw ar y we - cer i'r cyfeiriad. Does dim ond un cofnod arno fe ar hyn o bryd ("Hello world!"), sef cofnod awtomatig... Gweler yr adran nesaf am dy gofnod cyntaf go iawn.

Llanhedyn-dechrau.jpg

Nesaf

Mae cofnod blog yn eitem o newyddion, barn, gwybodaeth neu beth bynnag.

Sut i bostio dy gofnod blog cyntaf


Opsiynau

Thema

Mae WordPress yn cynnig themâu gwahanol o bob math. Mae rhai ar gael yn Gymraeg.

Mae modd defnyddio unrhyw thema sydd yna. Ond bydd pwt mewn iaith arall, Saesneg fel arfer, tasai'r thema ddim ar gael yn Gymraeg.

Rhestr o themau sydd ar gael yn Gymraeg - yn fuan!

Teclynnau

Teclynnau yw'r bocsys dynamig (ar yr ochr neu ar y gwaelod fel arfer), e.e. chwilio, cofnodion diweddaraf, ayyb. Rydych chi'n gallu newid y teclynnau neu'r drefn.

Enw parth

Mae modd cofrestru a mapio enw parth fel eichenw.cymru - os ydych chi eisiau defnyddio cyfeiriad gwe 'brandiedig' yn hytrach nag eichenw.wordpress.com

Mae cwmnïau fel http://www.enwau.cymru yn cynnig cofrestru enw parth .cymru.

Dylech chi ystyried prynu'r fersiwn .wales hefyd er mwyn amddiffyn eich brand.

Wedyn bydd angen i chi osod 'Domain Mapping' ar WordPress am ffi ar gyfer lletya, diogelwch, ayyb (nid 'Site Redirect', mae hynny yn rhywbeth gwahanol).

Dolenni perthnasol

Am y dudalen yma

Croeso i ti olygu'r tudalen yma gydag unrhyw bethau defnyddiol. Yn enwedig, bydd canllaw ar fideo yn dda!

Os wyt ti eisiau helpu, cer i gyfieithu WordPress.com i Gymraeg: http://translate.wordpress.com/projects/wpcom/cy/default