Gweithrediadau

Sgwrs

Hacio'r Iaith Ionawr 2012

Oddi ar Hedyn

Rhestr I'w wneud (wythnos olaf)

Rhestr fach o bethau sydd angen eu gwneud yn yr wythnos neu ddwy olaf. Angen rhoi strikethgrough drwyddyn nhw pan mae'n nhw wedi eu gwneud. Dyma'r markup: <del></del>

Iawn

  • Argraffu bathodynnau adnabod ar gyfer y bwrdd croesawu - Alla'i neud hyn --Llefenni 09:40, 19 Ionawr 2012 (UTC)
  • Argraffu rhestr mynychwyr ar gyfer y bwrdd croesawu - Alla'i neud hyn --Llefenni 09:40, 19 Ionawr 2012 (UTC)
  • Ysgrifennu datganiad i'r wasg - wrthi'n sgwennu --Carlmorris 11:58, 19 Ionawr 2012 (UTC) fedri di basio copi i fi? Galla i ddefnyddio fo i anfon at yr Adran hefyd,diolch --Elinhgj 13:07, 20 Ionawr 2012 (UTC) Dyma'r datganiad. Diolch i Ifan am help.
  • Anfon datganiad i'r wasg - hapus i gymryd cyfrifoldeb --Carlmorris 12:11, 19 Ionawr 2012 (UTC)
  • Dewis lluniau llonydd o llynedd ar gyfer mynd gyda'r datganiad - iawn --Carlmorris 11:59, 19 Ionawr 2012 (UTC)
  • Dewis dolenni i fideos o llynedd i fynd gyda'r datganiad - iawn --Carlmorris 11:59, 19 Ionawr 2012 (UTC)
  • Pennu pobol i siarad gyda'r wasg - hapus i siarad os oes angen, dim cysylltiadau wasg gyda mi yn uniongyrchol yn anffodus --Llefenni 09:40, 19 Ionawr 2012 (UTC)
  • Cysylltu gyda criw Coleg Cymraeg (RaD)
  • Ysgrifennu cofnod blog ar gyfer pobol sy'n newydd i'r digwyddiad ac anfon y ddolen atyn nhw ar Twitter. Vlog efallai? - Bryn wedi cytuno i wneud hyn --Rhodri.apdyfrig 11:13, 19 Ionawr 2012 (UTC)
  • Teledu ar gyfer consoles? - mae gen i hen 4:3 efo scart os da chi isie, retro tu-hwnt! --Llefenni 09:40, 19 Ionawr 2012 (UTC)
  • Sgrin deledu y dderbynfa - beth i'w roi arno?
    bach yn gawslyd ond efallai tweets? http://visibletweets.com/#query=%23haciaith&animation=1 --Carlmorris 12:06, 19 Ionawr 2012 (UTC)
roedd hwnna arno llynedd, ond mae angen laptop yn sdyc yno i'w redeg. Efallai galla i gael un gan y coleg...--Rhodri.apdyfrig 12:45, 19 Ionawr 2012 (UTC)
bydd gen i'r Asus EEEpc eto, ddim yn meindio rhoi hwna yn sownd yn generatio'r lluniau os gai fenthyg cable VGA iddo --Llefenni 15:42, 19 Ionawr 2012 (UTC)
Wedi archebu dau laptop gan lyfrgell y Brifysgol: un i neud hyn, a 'r llall ar gyfer y stiwdio --Rhodri.apdyfrig 17:21, 19 Ionawr 2012 (UTC)
  • Y grid - pwy sydd am ei roi at ei gilydd? - Wedi creu un o'r rhain. --Rhyswynne 09:53, 19 Ionawr 2012 (UTC)
Oes modd rhoi colofn arall ynddo fo? Dwi'n meddwl bod ni am ddefnyddio 3 stafell y tro ma, rhag ofn. --Rhodri.apdyfrig 17:22, 19 Ionawr 2012 (UTC)
  • Holi adran CompSci Aber eto os ydyn nhw'n dod - wedi'i wneud --Rhodri.apdyfrig 17:13, 19 Ionawr 2012 (UTC)
  • Holi'r Adran ThFfT am leoliadau socedi gwefru laptops - --Rhodri.apdyfrig 17:13, 19 Ionawr 2012 (UTC)
  • Archebu dau liniadur o lyfrgell Prifsgol Aber - iawn --Rhodri.apdyfrig 17:21, 19 Ionawr 2012 (UTC)
  • Anfon manylion at ebost wythnosol Prifysgol Aber --Elinhgj 11:45, 20 Ionawr 2012 (UTC) wedi gwneud
  • Dilyn fyny eto ar y WiFi Wedi dilyn fyny. Aros am ateb...--Rhodri.apdyfrig 17:13, 19 Ionawr 2012 (UTC)
wedi siarad efo Hefin. Mae o am roi ail bwynt WiFi yn stwidio ED fel bod y signal yn cael ei gryfhau. Mae am jecio am bosibiliad ethernet (sdim soced yn y Stiwdio - bydd rhaid caelestyniad o'r tu allan) --Rhodri.apdyfrig 13:13, 20 Ionawr 2012 (UTC)
  • Rhoi logo S4C ar y poster cyfredol (sori!)
  • Cael cadarnhad cinio gan bawb cymryd bydd 60 o bobol
  • Archebu'r cinio / te / coffi--Elinhgj 11:59, 20 Ionawr 2012 (UTC) wedi ffonio nhw angen cadarnhau niferoedd dydd Mercher
  • Anfon manylion at bobol eraill sydd angen gwybod amdano? Pwy?! - iawn yma dw i'n meddwl --Carlmorris 13:29, 24 Ionawr 2012 (UTC)

Ddim yn iawn eto!

  • Cysylltu gyda phawb sydd wedi cofrestru i'w annog i feddwl am sut mae nhw am gyfrannu ar y diwrnod
  • Os oes gan rywun syniad pendant am sesiwn yna plis ei roi o ar y Wici, neu ddweud wrth rywun i'w roi ar y Wici
  • Byrddau ar gyfer y cinio
  • Anfon manylion at restr mewnol Adran ThFfT
  • Creu schema ar gyfer ardaloedd gwefru gliniaduron / ffonau
  • Dod â 4 x 4-way extension leads.
  • Posteri A0 - argraffu 6 a'u gosod o gwmpas y lle (angen ystol?)
  • Ffrydio'r haclediad? Oes modd erbyn hyn? Be di'r logistics?
  • Pennu pobol i gadw amser ym mhob sesiwn? (gallwn ni sgwennu hwn ar y grid wrth ddewis slotiau)
  • Unrhywbeth arall?

cofnodion sgwrs Skype

Cawson ni sgwrs ynglyn â Hacio'r Iaith neithiwr, jyst eisiau cofnodi'r cofnodion. --Carlmorris 13:26, 24 Ionawr 2012 (UTC)

AGENDA SKYPE

  • annog cyfranogiad / sesiynau

- cyflwyniad

- rheol 'dwy draed', gallu cerdded allan unrhyw bryd!

- trefnu rhai sesiynau o flaen llaw? annodd >> dim digon o sesiynau 'pendant'

- rhoi 'pwll syniadau' wrth ochr y grid, fel bod modd grwpio syniadau tebyg (oes angen i ni feddwl am themâu o flaen llaw?)

- pethau 'croesawgar' ar y dechrau

- tips yma http://www.helpfultechnology.com/helpful-blog/2012/01/the-republic-of-ukgovcamp/ (gweler y google doc spreadsheet gydag amserlen - syniad da?)

- dechrau gyda 'FAQ' / C&A

- sesiwn gynta i ddechra am 9 - cyflwyniad a C & A (20 munud)

- 9:20yb - nol allan i'r cyntedd i gael amser i feddwl am syniadau, grŵpio pobol / sesiynau

- rhoi arweiniad / cyngor i bobol ar ddewis sesiynau (angen penodi pobol penodol i wneud hyn?)

  • bwyd - angen cadarnhau dydd mawrth!!

- cinio wedi bod yn wych yn y gorffennol

- pot gonestrwydd, wedyn cyfrannu unrhyw beth ychwanegol i elusen?

- 60 person cyfanswm? IE

  • crysau-t

- pris? Cost yw £11.03 (casglu am bwyd hefyd) Gwerthu am £15 (angen float?) Rhys: Os wyt ti angen i mi ddod a rhain (yng Nghaerydd dmae'r cwmni ia?), dw i off gwaith dydd Gwener, felly dim problem. << fasa hynny'n grêt, diolch

  • y wasg / cyfryngau

- colin i'w wneud

- angen gorffen y datganiad - torri allan yr un gwreiddiol + cyfieithu i'r Saesneg

- sioned wedi 7, bbc yn anfon camera

- planet eisiau erthygl wedyn, rising voices wedyn

- elin i anfon datganiad i prifysgol aber

- Golwg Celfyddydau (Non Tudur) yn mynd i wneud chydig o drydar o'r digwyddiad

- gwasg tech: The Register, Techcrunch UK, Wired UK, Guardian Tech, Indy Tech (Rhodri Marsden), T3 (un o'u hysgrifenwyr yn siarad .cy)

  • ffrydio / tech / di-wifr

- sgwennu passwords ar yr amserlen / mewn stafelloedd

- fideo vox pops

  • dogfennu

- Flip camerau

- blogio ar y pryd - penodi rhywun i bob sesiwn

  • Delight

- mass #Denzface

- consoles - SNES!

- sweets! choclets!

  • pethau eraill cyn y diwrnod?

- posterau A0

- creu

pethau eraill ar y diwrnod?

  • Amseru

Rhoi rhybudd "5 munud i fynd?" Dwi'n fodlon amseru unrhyw sesiwn dw i ddim yn cyfranu ato, neu cymryd fy nhro. - gofyn i un person ar gyfer pob sesiwn

UFA - dim byd

Trefniadaeth : trafodaeth mis Rhagfyr

Sa'n grêt sa pobol yn gallu rhoi eu sylwadau ar y pynciau isod. Diolch, Rhods --Rhodri.apdyfrig 15:19, 13 Rhagfyr 2011 (UTC)

Niferoedd

Faswn i'n deud bod lle i 80 ond tu hwnt i hynny bydd angen ystafell baralel ychwanegol ac ystyried trefniannau ychwanegol. Byddai hefyd yn annodd cael seddi i bawb yn y Stiwdio ar gyfer yr Haclediad o bosib.

Fasa hi'n syniad i ni osod dyddiad cau cofrestru er mwyn trio annog pobol i roi eu henwau lawr? Mae sawl sefydliad isio anfon mwy nag un person ac os ydyn nhw gyd yn gneud yn hwyrt yna gallai fod yn ruthr braidd ar y diwedd. Os da chi wedi gofyn i rywun ddod, neu bod rhywun wedi dweud wrthych chi yr hoffen nhw ddod, ella bod hi'n amser rhoi proc iddyn nhw i ddweud wrthyn nhw i roi eu henwau lawr.

Cyflwyniadau/Sesiynau

Byddai'n dda gallu cysylltu gyda'r rheiny sydd wedi cofrestru hefyd i'w annog i gymryd rhan drwy gyflwyno am rhywbeth, cynnal demo neu weithdy. Da ni rioed wedi cracio cael rhestr gall o sesiynau o flaen llaw a fasa'n dda cael hynny fyny eleni er mwyn annog pobol ddi-hyder y gallan nhw wneud rhywbeth drwy ddangos enghreifftiau.

Bryn, gan dy fod ti efo profiad first hand o BarCamps eraill, mwy, faset ti'n fodlon drafftio rhyw fath o apêl i'w anfon allan at bobol? Dwi'n meddwl oedd y ffordd nes ti ddweud pethe ar ddiwedd yr Haclediad 15 yn wych. Os nad oes cyfeiriad ebost ganddon ni, gallwn ni roi o fel cofnod blog ac anfon neges bersonol at bobol ar Twitter yn cyfeirio nhw ato fo.

Cyhoeddusrwydd

Fase hi'n dda gallu cael rhyw fath o nodyn cyhoeddusrwydd allan i'r wasg cyn y dolig. Sa rywun awydd sgwennu un, neu'n nabod rhywun allai ein helpu ni i sgwennu rhywbeth wasg ffrendli?

Petha technegol

Os oes na anghenion technegol arbennig sydd ddim yn glir ar y wiki, dylen ni feddwl amdanyn nhw rwan. Bydai pwynt charjo gwell yn dda dwi'n meddwl, be am y cyswllt WiFi? Oedd o'n ddigon da? Oes angen trafod efo'r coleg? Petha fel hyn.

'Delight'

Nath Matt Jones sôn rhyw dro mewn cynhadledd pa more bwysig oedd 'delight' mewn profiad defnyddwyr o wefannau, ac taw'r pethau bach sy'n gneud i chi fynd "O, waw, cŵwŵŵŵl" ydi'r pethau sy'n cnesu chi at rywbeth. Pa fath o elfennau 'delight' allwn ni daflu mewn da chi'n meddwl? (Vitruvius oedd o'n cyfeirio ato!)

  • Oeddan ni di meddwl cael consoles a gêmau o'r blaen? Be am rhai hen-ysgol? Cystadleuaeth amseroedd Super MarioKart (SNES) am y diwrnod? --Rhodri.apdyfrig 15:33, 13 Rhagfyr 2011 (UTC)
    • Mae SNES a Mega Drive (ac Atari 2600 doji) yn ty acw rhywle. Os nad ydyn't wedi eu claddu yn yr atig, ceisiaf ddod a nhw.--Rhyswynne 10:17, 14 Rhagfyr 2011 (UTC)
      • Gwych! Street Fighter II unrhyw un? --Carlmorris 14:38, 15 Rhagfyr 2011 (UTC)
    • Faswn i wrth fy modd yn gweld ZX Spectrum yna... --Rhodri.apdyfrig 10:10, 16 Rhagfyr 2011 (UTC)
    • Www, newydd weld hyn jyst ar ôl anfon neges at Rhodri am rhywbeth eitha tebyg. Unrhywun efo diddordeb mewn sesiwn Lemmings? Mae gen i brosiect hacio ar yr hen fersiwn gwreiddiol ar yr A500, sy'n cynnwys level editor, er mwyn i bobl cael chwarae o gwmpas yn creu lefelau eu hun neu jyst chwarae'r gêm...? Kinetic 18:31, 30 Rhagfyr 2011 (UTC)
Diddordeb *mawr*! Swnio'n wych. Dwi am gopio'r syniad i'r dudalen flaen os ti ddim yn meindio. --Rhodri.apdyfrig 13:39, 2 Ionawr 2012 (UTC)
Dos amdani! O, dwi'n gweld bod chdi wedi. Nes ti dderbyn fy neges ar y ffurflen thingy? Mae na ragor o fanylion yn fanna. Kinetic 15:05, 2 Ionawr 2012 (UTC)

Posteri

Ma na le yn yr adran i osod posteri mawr A1 : cafodd Elin y syniad o roi'r hen bosteri Hacio'r Iaith fyny yna o gwmpas y lle. Efallai gallwn ni gael poster Gwilym Deudraeth Iestyn hefyd? Oes unrhyw bosteri eraill perthnasol allwn ni roi? "Gorsedd y Gîcs"? Wn im.

Trafodaeth Gyffredinol / Adborth

  • Unrhyw sylwadau ar sut da chi'n meddwl aeth un Ionawr 2011? Be allen ni ei wella?
  • Oedd digon o sesiynau?
  • Oedd digon o amrywiaeth o sesiynau?
  • Dwi'n meddwl y dylen ni dorri'r slots awr fewn i dri slot 20munud. Os oes rhywbeth yn edrych fel y dylai fod yn banel awr yna gallwn ni wthio pethau at ei gilydd. Be chi'n feddwl? Dwi' yn meddwl bod neb isio siarad am fwy na 20 munud! (--Rhodri.apdyfrig 15:44, 7 Rhagfyr 2011 (UTC))
  • Dim cyfrif Twitter 'da fi, a ddim yn bwriadu cael un chwaith - felly methu cofrestru ar Lanyrd. --Dewin 10:34, 13 Ionawr 2012 (UTC)
Does dim ots, ar y Wici ma'r brif restr. Gobeithio gallwn ni gael Eventbrite i leoleiddio eu gwasanaeth i'r Gymraeg erbyn y tro nesa fel bod un ffordd hawdd o gofrestru. Mi ddwedon nhw eu bod nhw'n agor eu gwasanaeth i gyfieithu eleni...ond dim sôn eto. --Rhodri.apdyfrig 11:26, 13 Ionawr 2012 (UTC)
Gwd thing. Edrych mlaen! --Dewin 22:57, 24 Ionawr 2012 (UTC)

Cyllideb / Gwariant

Dylen ni greu gofod fan hyn i nodi beth yw'r incwm mewn ac allan ar gyfer y digwyddiad. Unrhywun yn gallu creu tabl syml?


Trafodaethau sydd wedi eu symud o'r brif dudalen

Dyma le i nodi eich bod wedi dileu neu symud trafodaeth o'r brif dudalen.

Adran Lleoliad

Beth am Cellb - Blaenau Ffestiniog? Mae Indian yn Blaenau hefyd ar gyfer Hacio'r Cyri --Garethvjones 21:37, 12 Medi 2011 (UTC)

  • Dwi eisoes yn trafod posibliadau efo Rhys yn Cellb --Rhodri.apdyfrig 21:51, 14 Medi 2011 (UTC)
  • Wedi penderfynu taw yn Aber fydd o eto yn Ionawr ond am drio trefnu rhagor mewn llefydd eraill dros 2012 --Rhodri.apdyfrig 11:38, 3 Hydref 2011 (UTC)

Adran Trefn y dydd

Y tro hwn rydyn ni eisiau trio rhoi rhai sesiynau yn y rhaglen cyn y diwrnod, neu o leiaf wybod bod nifer o sesiynau'n digwydd rhagblaen. Dwi wedi dechrau drwy roi'r Haclediad byw mewn am hanner dydd.

  • Dynodi Y Stwidio ar gyfer paneli/cyflwyniadau a G38 ar gyfer gweithdai
    • Bydd natur y stwidio yn well ar gyfer paneli ac mae cyfrifiaduron ar gael yn G38. Llawer gwell ar gyfer gweithdai ymarferol.
  • Dwi wedi rhoi toriad mewn yn y pnawn.
    • Oedd y slot 30munud ddim fod ar gyfer sesiynau, ond croeso i chi newid hyn os ydych chi isio.