Cynllunio trefn y dydd

Amserlen

Dw i'n mwynhau fersiwn tudalen newydd gan Rhys Wynne, da iawn! — Carl Morris 18/10/2009 19:26 Oes angen creu rhyw fath o strwythr bras i'r diwrnod - h.y. jest rhoi blocks amser i nodi pryd fydd popeth yn digwydd? Rhywun yn gwirfoddoli i wneud hyn? — Rhodri ap Dyfrig 16/11/2009 22:22 Rhodri, faint o'r gloch dyn ni'n dechrau a gorffen? Dw i'n awgrymu tua 10:30 tan 5:30, beth dych chi'n meddwl? Dyn ni'n gallu creu 2 “nant” ar y cychwyn. Efallai cynllunio rhywbeth yn y darfarn yn y nos hefyd… — Carl Morris 18/11/2009 11:43 Beth am: 10:00 Cofrestru a paned (efallai bod hyn yn swnio'n rhy ffurfiol, ond dylid trio annog pobl i gyradedd rhwng 10:00 a 10:20) 10:30 - 12:00 Cyflwyniadau (hyd y cyflwyniadau yn dibynnu ar sawl un sydd) 12:00 - 1:30 Cinio (fydd cyfleusteru bwyd ar gael ar y safle?) 1:30 - 2:00 Cynnigon ar gyfer stwnsh 2:00 - 4:45 Creu stwnsh / gwahanu i 2 ffrwd (stream) neu fwy, yn dibynu ar allu technegol/diddordebau 4:45 - 5:30 Cyflwyno'r stwsh / ble nesa? — Rhys Wynne 18/11/2009 13:39 Diolch, dw i'n licio'r cynllun. Dylen ni cael sesiwn bach ar y cychwyn i esbonio'r sesiynau gwahanol a'r diwrnod. 20 munud? Efallai cyflwyno pob haciwr yna hefyd. Allen ni recordio POB sesiwn ar awdio? Dyn ni eisiau “hybu” sesiwn stwnsh. (Pan es i BarCamp arall, collais i sesiynau da iawn achos es i sesiwn hacio!) — Carl Morris 19/11/2009 12:00

Bach o hwyl diwedd y dydd

Swnio'n dda - ga'i awgrymu bach o hwyl am 5.30? Beth am awr o gemau ar sgrin fawr gyda chydig o ddiodydd i orffen y dydd? — Rhodri ap Dyfrig 16/12/2009 10:20

Syniadau am Sesiynau

Dwi wedi penderfynu symud y darn yn y wici oedd yn casglu syniadau am sesiynau i fan hyn gan ei fod yn tarfu ar drefn y wici braidd.

Digon hapus i'w symud i dudalen arall os yw hynny'n well. — Rhodri ap Dyfrig 13/01/2010 12:10

Facebook

  • Facebook Translation a Google Translate: beth fydd impact y rhain ar gyfieithu, lleoleiddio a deall cynnwys Cymraeg? — Rhodri ap Dyfrig 18/10/2009 21:51
  • Facebook a Facebook Connect: ffrind neu gelyn? — Carl Morris 19/10/2009 15:08
  • ychwanega bwnc…


Lleoleiddio

  • Pwy sy'n defnyddio meddalwedd/rhyngwynebau Cymraeg? Os nad ydyn nhw, pam ddim? — Rhys Jones 23/10/2009 07:55
  • Lleoleiddio 101: sut i gyfieithu meddalwedd Cymraeg eich hun — Rhys Jones 23/10/2009 07:55
  • Lleoleiddio 102(?!): sut i wneud yn siŵr bod y feddalwedd yr ydych chi'n ei ddatblygu yn hawdd ei leoleiddio gan eraill — Rhys Jones 23/10/2009 07:55
  • Lleoleiddio Termau Cywir - gyda marwolaeth Kywiro a phroblemau dod o hyd at dermau Cymraeg (Cysgair a Thermiadur Bwrdd yr Iaith yn annigonol) - a oes ffynhonnell gynhwysfawr ar gael i gyfieithwyr amatur? Os na - a oes cynlluniau i greu a chyhoeddi un? — Alan Davies 06/01/2010 23:04
  • ychwanega bwnc…


Cymunedau Ar-lein

  • Byddai'n dda cael trafodaeth ar gymunedau Cymraeg ar-lein. — Rhodri ap Dyfrig 16/11/2009 22:03
  • Hedd i siarad am Maes-e?
  • Lle mae'r cymunedau nesaf am ffurfio? Google Wave fel message board? Y broblem o hyder mewn Cymraeg ysgrifenedig. Oes dyletswydd ar Golwg360/BBC Cymru i greu cymunedau trafodaeth? — Rhodri ap Dyfrig 16/11/2009 22:03
  • ychwanega bwnc…


Porthiannau

  • Yahoo Pipes: rough guide, a sut gallen ni ei ddefnyddio ar gyfer cynnwys Cymraeg — Rhodri ap Dyfrig 18/10/2009 21:51
  • Aggregators a gwefannau social news: Oes angen mwy o filters? pam nad oes rhai Cymraeg a Chymreig, ac a oes angen rhai? Rhodri ap Dyfrig 18/10/2009 21:51
    • Wyt ti'n cyfri'r Blogiadur (a Welsh Blogs) fel aggregators felly? — Rhys Jones 23/10/2009 08:06
      • Wedi meddwl, ydw a dwi di newid yr uchod, ond o'n i'n meddwl mwy am ryw fath Digg Cymraeg (dwi di bod yn mwydro am hwn ers tipyn) ond ma hwnna'n llai o aggregator a mwy o ffilter newyddion dydi. Eniwe, does dim llawer o lefydd sydd yn rhoi ffilter ar newyddion/straeon/gwefannau diddorol y dydd. Dwi'n credu bod angen mwy o guraduron (curators) gwe yn y Gymraeg. Sgen bawb ddim yr amser i fynd trwy bopeth. Roedd maes-e yn arfer gwneud hyn ond dio ddim rhagor. Ai Digg Cymraeg yw'r ateb? Wn i ddim, ond byddwn a diddordeb trafod. — Rhodri ap Dyfrig 16/11/2009 22:03
  • ychwanega bwnc…


Blogio / “Cynnwys”

  • Pwy yw'r gynulleidfa ar-lein Gymraeg? Demograffeg, sut maen nhw'n defnyddio cynnwys a.y.b. — Rhys Jones 23/10/2009 07:55
  • Y Gynulleidfa anweledig: sut mae curo cyrhaeddiad blogio/trydar/cynhyrchu fideo yn Saesneg? — Rhodri ap Dyfrig 18/10/2009 21:51
  • 101 mewn blogio yn y Gymraeg (ar gyfer dechreuwyr llwyr) - gellid cael yr un math o sesiwn ar gyfer sawl math o gynnwys ar-lein — Rhodri ap Dyfrig 18/10/2009 21:51
  • Clywed am enghreifftiau neu chael trafodaeth am bosibiliadu cyfryngau lleol (hyperlocal). — Rhys Wynne 18/10/2009 09:02
  • Fideo ar-lein a'r Gymraeg — Rhodri ap Dyfrig 18/10/2009 21:51
  • ychwanega bwnc…


Y Rhyngrwyd a Dysgu Cymraeg

  • Apps symudol dysgu Cymraeg - dwi wedi holi Dr.Chris Price o adran CompSci Aberystwyth i siarad am ei app iphone dysgu Cymraeg ac mae wedi cytuno mewn egwyddor.
  • Dysgu Cymraeg, y We, a Busnes - byddai'n dda cael clywed am hanes SaySomethingInWelsh a CymraegOnTheMove - ydi Aran isio gwirfoddoli? [Oce - ond dw i ddim yn gwybod beth sy'n digwydd efo CymraegOnTheMove - wna i dynnu sylw Aled at y dudalen hon — Aran]
  • Clwb Malu Cachu: The Return?! - mae sibrydion y bydd atgyfodiad o'r wefan wych hon ar gyfer dysgwyr. Byddai'n grêt cael rhywun i siarad amdano. Efallai gall Suw Charman-Anderson ddod gan taw hi sefydlodd o. (Bydda i'n hapus i siarad am CMC, os dw i'n gallu dod, a hefyd am y petha sydd ar goll pan mae'n dod i ddysgu ac ymarfer yr iaith Cymraeg arlein. - Suw)
  • ychwanega bwnc…


Amrywiol

  • The Semantic Web: beth y goblygiadau hyn ar gyfer ieithoedd bychain ar-lein? — Rhodri ap Dyfrig 18/10/2009 21:51
  • Technoleg iaith yn gyffredinol? (nid ddim ond testun: llais a gwaith amlfodd hefyd). — Rhys Jones 23/10/2009 07:55
  • Diacritics mewn URLs - fyddech chi'n rhoi âêîôûŵŷ yn eich URL?! — Rhodri ap Dyfrig 16/11/2009 22:03
  • Y we mewn ieithoedd lleiafrifol eraill - allai rhywun ddod mewn i roi perspectif cyflym ar rai achosion diddorol mewn ieithoedd bach eraill? — Rhodri ap Dyfrig 16/11/2009 22:03
  • ychwanega bwnc…


e-ddysgu

  • Gwasanaethau ar-lein, sy'n helpu creu/rhannu/darganfod cynnwys + dulliau o ddosbarthu ac asesu gwaith. — Rhys Wynne 27/10/2009 21:45
  • Deunyddiau digidol dysgu Cymraeg ar gyfer teclynnau symudol. - \\Maldwyn Pate
  • ychwanega bwnc…

===Trafodaeth am tag swyddogol Hacio'r Iaith (wedi ei archifo)=== — Rhodri ap Dyfrig 25/01/2010 21:55

  • Mae @malpate wedi argymell #hacioriaith — Rhodri ap Dyfrig 18/10/2009 21:49
  • Dwi'n credu gallen ni ei dalfyrru i #haciaith — Rhodri ap Dyfrig 18/10/2009 21:49
    • Baswn i'n mynd gyda #haciaith, gwneud y mwyaf o bob llythyren — Rhys Wynne 19/10/2009 08:44
    • Beth am just defnyddio #hacio ?
  • Dylen ni dal yn defnyddio #haciaith nawr, dw i'n meddwl. Achos dyn ni wedi defnyddio fe yn barod. Mae Hacio yw rhaglen teledu! Mae'n iawn. — Carl Morris 26/11/2009 01:08

Navigation
Personal Tools