Gweithrediadau

Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Hacio'r Iaith Ionawr 2012"

Oddi ar Hedyn

Llinell 123: Llinell 123:
* Taith gorwynt trwy hanes y cyfryngau cymdeithasol Cymraeg  --[[Defnyddiwr:Rhodri.apdyfrig|Rhodri.apdyfrig]] 13:54, 26 Hydref 2011 (BST)
* Taith gorwynt trwy hanes y cyfryngau cymdeithasol Cymraeg  --[[Defnyddiwr:Rhodri.apdyfrig|Rhodri.apdyfrig]] 13:54, 26 Hydref 2011 (BST)
* Gweithdy/Demo ar '''gynhyrchu ffilmiau byrion yn defnyddio DSLRs'''. 'Making of: [http://http://vimeo.com/33570778 Brwydr Caerdegog]', gwersi a ddysgwyd, offer a ddefnyddiwyd ayyb... gyda [http://blog.rhysllwyd.com Rhys Llwyd], defnyddiwr Canon 7D a chynhyrchydd y ffilm.
* Gweithdy/Demo ar '''gynhyrchu ffilmiau byrion yn defnyddio DSLRs'''. 'Making of: [http://http://vimeo.com/33570778 Brwydr Caerdegog]', gwersi a ddysgwyd, offer a ddefnyddiwyd ayyb... gyda [http://blog.rhysllwyd.com Rhys Llwyd], defnyddiwr Canon 7D a chynhyrchydd y ffilm.
* Ymchwiliad byr ar ddefnydd Twitter gan pobl dwyieithog (2009-2011) - Ian Johnson
* Cyflwyno canlyniadau ymchwiliad byr ar ddefnydd Twitter gan pobl dwyieithog (2009-2011) - Ian Johnson


====Sesiynau Posib====
====Sesiynau Posib====

Diwygiad 19:58, 16 Ionawr 2012

Mae Hacio'r Iaith wedi'i drefnu gan wirfoddolwyr ar y cyd gyda Phrifysgol Aberystwyth a Sefydliad Mercator ar gyfer Cyfryngau, Ieithoedd a Diwylliant


Croeso! Dyma sut i gyfrannu at y Wici yma...

Er mwyn ysgrifennu ar wici Hedyn / Hacio'r Iaith rhaid i chi gofrestru yma fel aelod o'r wici. Mae hyn yn atal sbambots digywilydd rhag sarnu'r dudalen.

Peidiwch bod ofn golygu'r dudalen, ond triwch roi eich llofnod wrth unrhyw olygiad neu ychwanegiad fel ein bod yn gwybod pwy ydych chi.

Os ydych yn bwriadu mynychu Hacio'r Iaith 2012, cofiwch gofrestru.

Beth yw Hacio'r Iaith?

Mae Hacio'r Iaith yn gynhadledd agored undydd ar y thema technoleg, y we ac iaith.

Dyma boster swyddog y digwyddiad gan Iestyn.

Cyfle i bobol sy'n gwneud projectau gwe a thechnoleg i ddod i gyflwyno eu profiadau ac i ddysgu oddi wrth ein gilydd mewn awyrgylch braf, hamddenol a drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae'n gynhadledd agored am ei fod yn cael ei drefnu ar sail egwyddor open source. Mae hyn yn golygu bod cyfle i unrhywun ddod, am ddim, a chyflwyno am bwnc o'u dewis nhw (yn ddibynnol ar sicrhau slot amser). Mae wedi ei drefnu ar sail digwyddiadau BarCamp, sydd yn anffurfiol iawn, lle caiff trefn y dydd yn cael ei benderfynu gan y siaradwyr.

Mae croeso i chi gyflwyno am be bynnag da chi isio, ond mae'r pwyslais ar gyfrannu nid eistedd nol a gwrando. Chydig yn bryderus? Darllenwch hwn.

Peidiwch anghofio hefyd am y blog grŵp Hacio'r Iaith fydd yn rhoi rhagor o wybodaeth am y digwyddiad a lle arall i drafod wrth i'r diwrnod nesau.

Pryd mae o?

Nos Wener, 27 Ionawr 2012

Dydd Sadwrn, 28 Ionawr 2012

  • Amser: 9yb i tua 7yh
  • 7yh--> y dafarn

Ble mae'n cael ei gynnal?

Adeilad Parry-Williams (map), Prifysgol Aberystwyth, Aberystwyth SY23 3GH

Bydd tri gofod mewn defnydd unwaith eto: Y Stiwdio, Ystafell G38 a'r Cyntedd.

Parcio

Adnoddau eraill cyfagos

Rhaglen y dydd

Fel y nodwyd uchod mae trefn arferol BarCamp yn golygu bod rhaglen y dydd yn cael ei benderfynu gan y cyflwynwyr, a hynny ar y diwrnod, ond bydd rhai sesiynau yn cael eu trefnu o flaen llaw.

Bydd gweddill y sesiynau yn cael eu trefnu yn ystod slot gyntaf y diwrnod gan roi cyfle i bawb hawlio eu lle.


Rheolau BarCamp

Cer i Beth yw'r fformat BarCamp?


Trefnu'r Dydd

Byddwn yn defnyddio system Open Grid i wneud hyn. Bydd y slotiau amser rhydd yn cael eu rhoi ar fwrdd gwyn neu ddarn mawr o bapur a byddwch yn gallu nodi teitl eich sesiwn a dewis lle gwag ar y grid.

Ystafelloedd

Bydd dwy brif ystafell ar gael i ni, ond bydd atriwm yr adeilad hefyd ar gael os oes unrhywun eisiau cynnal sesiynau bach mwy anffurfiol. Mae sesiynau ochr yn digwydd mewn coridorau mewn BarCamps eraill felly cyn belled eich bod yn ei nodi ar y Grid i bawb wybod beth sy'n mynd mlaen, ewch amdani!

Hyd Slotiau

Wnawn ni ddweud fel canllaw bod slotiau siarad/cyflwyno/demo yn ddim mwy na 20 munud yr un (os ydych chi'n aghytuno, trafodwch yma). Os oes syniad am weithdy hirach yna gallwn ni osod gofod addas i hynny yn hytrach na defnyddio'r prif ofodau cyflwyno. Dylai hyn olygu bod tua 36 slot posib rhwng y Stiwdio a G38 ddylai fod yn hen ddigon.

Yr Amserlen Wag

Dyma'r amserlen wag ar gyfer y diwrnod. Paratowch gyflwyniad, panel, gweithdy neu demo a byddwn yn rhoi slot iddo ar y diwrnod. Bydd pawb yn dod at ei gilydd ar gyfer un sesiwn ar y cyd sef yr Haclediad byw.


Amser Cyflwyniadau/Paneli (Y Stiwdio) Gweithdai (Yst. G38) Trafodaethau Bach (Yr Atriwm) Arall
09.00-10.00 Coffi, croesawu, dechrau trefnu sesiynau
10.00-11.00 Sesiwn 1(a) Sesiwn 1(b) Sesiwn 1(c)
11.00-12.00 Sesiwn 2(a) Sesiwn 1(b) Sesiwn 1(c)
12.00-13.00 Yr Haclediad
13.00-14.00 Cinio
14.00-15.00 Sesiwn 3(a) Sesiwn 3(b) Sesiwn 3(c)
15.00-16.00 Sesiwn 4(a) Sesiwn 4(b) Sesiwn 4(c)
16.00-16.30 Toriad
16.30-17.30 Sesiwn 5(a) Sesiwn 5(b) Sesiwn 5(c)
17.30-18.30 Sesiwn 6(a) Sesiwn 6(b) Sesiwn 6(c)
18.30-19.00 Sesiwn gloi

Sesiynau 'Pendant'

Os ydych chi'n gwybod yn bendant am sesiwn yr hoffech chi ei gynnal yna nodwch y sesiwn yma.

Mae'n ddefnyddiol gwybod am rai sesiynau o flaen llaw er mwyn cynyddu diddordeb yn y digwyddiad ac er mwyn i bobol allu paratoi. Gallwch nodi amser y slot ar y dydd.

O ran ffurf y sesiynau gallwn nhw fod yn: sgwrs anffurfiol, cyflwyniad unigol, gweityhdy ymarferol, demo, panel, ford gron, fideo ayyb.

  • Yr Haclediad - Yn Fyw o Aberystwyth!
  • S4C 2.0 - Bryn Salisbury
  • Sesiwn gloi: be nesa i Hacio'r Iaith? Edrych nol ac edrych mlaen
  • Taith gorwynt trwy hanes y cyfryngau cymdeithasol Cymraeg --Rhodri.apdyfrig 13:54, 26 Hydref 2011 (BST)
  • Gweithdy/Demo ar gynhyrchu ffilmiau byrion yn defnyddio DSLRs. 'Making of: Brwydr Caerdegog', gwersi a ddysgwyd, offer a ddefnyddiwyd ayyb... gyda Rhys Llwyd, defnyddiwr Canon 7D a chynhyrchydd y ffilm.
  • Cyflwyno canlyniadau ymchwiliad byr ar ddefnydd Twitter gan pobl dwyieithog (2009-2011) - Ian Johnson

Sesiynau Posib

Dyma lle gallwch chi sgwennu am bwnc yr hoffech chi, efallai, siarad amdano ar y dydd. Lle i roi syniadau tentative am sesiwn neu drafodaeth.

  • allai son am syniad fusnes fi, TechCym. Ers misoedd dwi wedi meddwl am sut allai rhoi cymorth i pobol Cymraeg gyda problemau technokeg nhw, ond dwi angen dipyn bach o ymchwil marchnad. Markgajones
  • Hefyd, ar y thema Ubuntu, dwi'n hapus i rhedeg gweithdy i ddangos sut i defnyddio Launchpad ar gyfer cyfieuthu Ubuntu, ac yn cofrestru pobol sydd gen ddidordeb i helpu. Markgajones
  • Hoffwn i redeg sesiwn, dw i'n wrthi'n meddwl am syniadau. Dw i'n croesawi awgrymiadau hefyd. --Carlmorris 01:52, 30 Hydref 2011 (UTC)
  • Dwi'n gobeithio gall @marshallmedia wneud un slot am Radio'r Cymry --Rhodri.apdyfrig 10:18, 1 Tachwedd 2011 (UTC)
  • Wnaeth Rhys Wynne gynnig sesiwn da ar flog Haciaith cyn un llynedd sef sesiwn "DWI'N CAOLN [PWNC XXX]" - sesiwn quickfire lle ma pobol yn cael 10 munud (ella 5 munud yn ddigon?) i siarad am eu hoff app/meddalwedd/gwefan/syniad/diod feddwol/brid cath ayyb. Fase hwn yn wych dwi'n meddwl. --Rhodri.apdyfrig 11:10, 1 Tachwedd 2011 (UTC)
  • Sesiwn yn dangos sut i adeiladu app 'location aware' sy'n defnyddio GPS ar yr iphone i anfon gwahanol media i'r ffôn yn dibynnu ar leoliad y defnyddiwr e.e. sain/cerddoriaeth, fideo, llun, testun. Geraintffrancon
  • Unrhywun efo diddordeb mewn sesiwn Lemmings? Mae gen i brosiect hacio ar yr hen fersiwn gwreiddiol ar yr A500, sy'n cynnwys level editor, er mwyn i bobl cael chwarae o gwmpas yn creu lefelau eu hun neu jyst chwarae'r gêm...? Kinetic 18:31, 30 Rhagfyr 2011 (UTC) [wedi ei symud o'r dudalen sgwrs gan --Rhodri.apdyfrig 13:41, 2 Ionawr 2012 (UTC)]
    • Dw i hefyd yn hapus i sôn ychydig am yr hacio a'r reverse-engineering sydd wedi mynd mewn iddo fo, os di pobol isio clywed hynny! Kinetic 15:21, 2 Ionawr 2012 (UTC)

Cofrestru

Mae'n bwysig bod pawb sy'n bwriadu dod yn cofrestru o flaen llaw drwy sgwennu eu henw isod (mae'n hawdd!). Fel arall, allwn ni ddim sicrhau y bydd lle i chi ar y diwrnod (a'n bwysicach fyth, rhywbeth i chi fwyta!).

Mae lle i dros 50 o bobol ond os bydd mwy yn cofrestru isod yna bydd angen i ni edrych eto ar y trefniadau ystafell. Bydd yn ddigon hawdd addasu os bydd mwy.

Gallwch hefyd nodi eich bod chi'n dod ar Lanyrd. Mi wnewn ni gopio chi drosodd i'r rhestr hon, ond rydyn ni eisiau annog pobol i gyfrannu at y Wici trefnu gymaint ag sydd bosib hefyd.

Cinio ganol dydd

Er mwyn i ni wybod y niferoedd sydd eisiau cinio yn iawn plis fyddech chi cystal â rhoi eich enw yn y ffurflen yma. Diolch!


Pwy Sy'n Dod?

  1. Rhodri ap Dyfrig blog Twitter (diddordebau: diwylliant rhyngrwyd, y Gymraeg arlein)
  2. Carl Morris blog Twitter (slogan: gwell cynnwys slac na chyhoeddusrwydd slic)
  3. Bryn Salisbury blog Twitter Gîc, Podledwr, Blogiwr a dyn blîn technoleg Cymraeg.
  4. Gareth Morlais [1] Twitter (diddordebau: straeon digidol, heiprlleol, darlledu)
  5. Sioned Mills
  6. Jeremy Evas Twitter
  7. Iestyn Lloyd
  8. Huw Marshall Radio'r Cymry
  9. Dyfrig Jones
  10. Wil Stephens
  11. Elin Haf Gruffydd Jones Twitter
  12. Mark Jones Twitter (diddordebau: Blogio, Cymorth Technolog trwy cyfrwng Cymraeg.
  13. Hywel Jones Twitter (diddordebau: dadansoddi, data)
  14. Telsa Gwynne
  15. Owain Schiavone
  16. Rhys Llwyd Twitter Blog Tumblr (diddordebau: fod datblygiadau technolegol yn dod a'r gallu i gyfathrebu/darlledu i ddwylo mwy a mwy o bobl)
  17. Elliw Gwawr Blog Twitter
  18. Huw Owen (diddordebau; Cynhyrchiadau Amlgyfryngol; eDdysgu; Datblygu Cymunedau Arlein - a ddim yn deall côd yn dda iawn!)
  19. Maldwyn Pate (ddiddordeb: dysgu symudol) Twitter
  20. Geraint Criddle Twitter
  21. Deian ap Rhisiart
  22. Euros Evans Twitter Gwefan
  23. Tim Phillips
  24. Mike Roberts
  25. Illtud Daniel
  26. Aled Mills
  27. Rhun Llwyd Twitter (addysgu, rhaglennu microchips)
  28. Phil Stead Twitter
  29. Owain Hughes BT Cymru Twitter
  30. Ian James Johnson Twitter
  31. David John Evans Twitter Blog (diddordebau: Drupal, Y "We Semantig", archifau, llyfrgelloedd ac amgueddfeydd ar y We)
  32. Christopher Griffiths
  33. Iwan Evans Twitter
  34. Jim Killock Twitter Open Rights Group
  35. Colin Nosworthy Twitter Shwmae
  36. Anwen Roberts Twitter
  37. Mari Fflur Twitter
  38. Rhys Williams
  39. Geraint Ffrancon Twitter Gwefan (diddordebau: Media treiddiol/mobil, symudiad, GPS)
  40. Rhys Wynne blog Twitter (diddordebau: Y Wicipedia, hyper-lleol, stwff i ddysgwyr Cymraeg)
  41. Robin Hughes Twitter
  42. Aelwyn Williams blog Twitter
  43. Pete Telfer Y Wladfa Newydd Twitter(diwylliant Cymru ar lein)
  44. Nici Beech
  45. Aled Bartholomew
  46. Nia Edwards-Behi Twitter
  47. Ivan Baines Twitter
  48. Llio Wyn
  49. David Haylock Twitter
  50. Leia Fee Twitter (Gwaith) Twitter (Fi) Blog (Diddordebau - dysgu gyda technoleg)
  51. Leusa Fflur Llewelyn Twitter
  52. Rhys Miles Thomas Twitter Cyfle
  53. Daniel Cunliffe Twitter
  54. Llinos Lanini Twitter
  55. Tref
  56. Sioned Clwyd Twitter
  57. oelidir
  58. Gwydion Gruffudd Gwefan
  59. Iestyn Hughes Gwefan Trydar
  60. Dafydd Francis Twitter

Methu Dod

Symudwch eich enw i'r rhestr isod os nad ydych chi'n gallu dod am unrhyw reswm:

  • Iwan Standley

Trefnwyr

Mae lot o bobol wedi tynnu at ei gilydd i gyd-drefnu'r digwyddiad, ond os oes ganddoch chi gwestiwn penodol am yr elfennau gweinyddol neu o'r wasg ag eisiau rhywun i siarad yna gallwch chi gysylltu a Rhodri ap Dyfrig, Carl Morris neu Rhys Wynne (manylion cyswllt ar gael trwy'r dolenni uchod).

Sut allwch chi helpu?

Gwirfoddoli

Mae llwyddiant y digwyddiad yn lwyr ddibynnol ar y bobol sy'n dod. Yn wahanol i gynhadleddau arferol y chi sy'n ffurfio'r sesiynau ac yn llywio'r diwrnod. Mae disgwyl i bawbs sy'n dod i wneud rhyw fath o gyfraniad tuag at lwyddiant y digwyddiad, nid jest ista nôl a gwrando.

Os nad ydych chi eisiau siarad neu gyflwyno, gallwch helpu drwy:

  • roi cymorth a chyngor ar yr ochr dechnegol
  • hyrwyddo'r digwyddiad trwy flogio, ffilmio, siarad amdano...
  • helpu gyda rhoi sylw i'r digwyddiad yn y wasg
  • helpu ar y ddesg groeso/tywys pobol
  • cymryd rhan ar-lein os nad ydych yn gallu bod yno!

Dyma restr fanwl o'r tasgau sydd angen cymorth gyda nhw.

Noddwyr - Diolch yn fawr!

Hyrwyddo

Tagiau

#haciaith yw tag swyddogol y digwyddiad. Defnyddwich o ym mhob cofnod blog, tweet, llun, fideo am y digwyddiad a byddwn ni'n gallu dilyn y drafodaeth.

Cyhoeddusrwydd a'r Wasg

Cer i Trefnu cyhoeddusrwydd a'r wasg

Swper Nos Wener

Roedd sawl un yn aros dros nos yn Aberystwyth y llynedd felly aethon ni allan am gyri. Roedd yn ddechrau gwych i'r diwrnod canlynol. Felly pam lai gwneud yr un peth eto. Hacio'r Cyri.

Mae bwrdd wedi ei archebu ym Mwyty Shilam (ger yr orsaf) am 7.30pm. Rhowch eich enw isod os ydych chi eisiau cadw lle. Dim ond lle i 25 sydd yn y stafell sydd wedi ei archebu felly gwnewch yn siwr eich bod yn cael lle.

  1. elinhgj
  2. rhodri ap dyfrig
  3. Sioned Mills
  4. Maldwyn Pate
  5. Aled Mills
  6. Elliw Gwawr
  7. Carl Morris
  8. Christopher Griffiths
  9. Bryn Salisbury
  10. Ivan Baines
  11. Rhys Wynne
  12. Ian Johnson
  13. Llinos Lanini
  14. Tref

Mae yna gig gyda Y Niwl a Sen Segur mlaen yn y Llew Du y noson honno. Digwyddiad Facebook y gig.

Hacio'r Methodoleg, Pnawn Gwener

Y tro yma yn Hacio'r Iaith, mi fydd yna sesiwn ychwanegol a phenodol ar y pnawn Gwener wedi ei hanelu at fyfyrwyr ymchwil ac arolygwyr/ymchwilwyr academaidd i gael cyfle i drafod methodolegau ar gyfer ymchwil academaidd ym meysydd y cyfryngau digidol (a’r iaith Gymraeg). Rhwng 2.30pm a 4.30pm yn Adeilad Parry Williams (Ystafell Seminar 3 ar y llawr gwaelod). Croeso i bawb, does dim rhaid bod yn academydd/myfyriwr PhD. Croeso i chi ddod â'ch problemau methodolegol yma! --Elinhgj 17:34, 14 Ionawr 2012 (UTC)

Ble i aros?

Cer i Llety a theithio

Teithio

Cer i Llety a theithio

English translation

Here's a rough machine translation of this page into English. And it is rough.