Hacio'r Iaith


haciaith.com

Hen tudalen Hacio'r Iaith? Ewch i http://hedyn.net/hacio_r_iaith/ionawr2010

Manylion y digwyddiad

Beth?

Mae Hacio'r Iaith yn gynhadledd agored undydd ar y thema technoleg, gwe ac iaith.

Mae'n gyfle i bobol sy'n gwneud projectau gwe a thechnoleg yn, neu am y Gymraeg, i ddod i gyflwyno eu profiadau ac i drio dysgu oddi wrth ein gilydd mewn awyrgylch braf.

Mae'n gynhadledd agored am ei fod yn cael ei drefnu ar sail egwyddor open source. Mae hyn yn golygu bod cyfle i unrhywun ddod, am ddim, a chyflwyno am bwnc o'u dewis nhw (yn ddibynnol ar amser a lle). Mae wedi ei drefnu ar sail digwyddiadau BarCamp, sydd yn hollol wahanol i gynadleddau arferol. Mae'n anffurfiol iawn - dim ond y gofod sy'n cael ei drefnu o flaen llaw - ac mae trefn y dydd yn cael ei benderfynu gan y siaradwyr. Mae esboniad That Canadian Girl yn un da i unrhywun sydd eisiau dod a chymryd rhan.

Bydd hefyd yn cynnwys sesiynau rhaglennu lle byd cyfle i bobol sy'n gweithio gyda rhaglennu a chôd ddod at eu gilydd i greu rhywbeth - rhaglen, app, neu stwnsh fel arfer - gan ddefnyddio data sy'n bodoli eisoes. Mae'r elfen hyn o'r digwyddiad yn seiliedig ar ddigwyddiadau Open Hack Day. Bwriad hwn yw bod rhywbeth defnyddiol yn dod allan o'r digwyddiad. Dyma hanes Hack Day wnaeth papur y Guardian yn 2008.

Bydd cyswllt di-wifr cyflym ar gael am ddim i bawb sydd yn cymryd rhan er mwyn hwyluso dogfennu a thrafod yn ystod y digwyddiad.

Pryd?

30 Ionawr 2010

30 Ionawr 2010 - Hacio'r Iaith 1, Adeilad Parry Williams, Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth.

Dyfodol

gobeithio mwy ar y ffordd!

Digwyddiadau eraill

English translation

Google Translate has a very rough English translation of this page. Don't rely on it though, it's merely the gist.


Navigation
Personal Tools