Fforymau

phpBB

phpBB3 ffeiliau Cymraeg (gwybodaeth cefndirol)

Mae cywaith ar y gweill er mwyn sefydlu gwefan gymunedol lle gall aelodau gyfrannu at gyfieithu'r pecyn phpBB (fersiwn cyfredol 3.0.7). Caiff ei gynnal ar http://www.phpbb.wetwork.org.uk, er dylid nodi nid yw'r wefan yn weithredol ar hyn o bryd. Yn ogystal â'r gwaith cyfieithu, bydd yn ffynhonnell ar gyfer cyfieithiadau MODs ac arddulliau ('styles'). Mae'r adrannau hyn eisoes yn gyflawn.

Alan Davies.

Diddorol, pam gwefan arbennig? Ydy e'n bosib i ail-defnyddio'r wefan am meddalwedd arall? — Carl Morris 08/03/2010 01:45

Nid ar hyn o bryd - oherwydd bod fersiwn newydd yn dod allan yn gyson gyda sawl newid i'r ffeiliau iaith - meddwl o'n i byddai'n haws i'w gynnal mewn lle canolig. Mae strwythur y ffeiliau iaith yn amrywio'n fawr, felly anodd yw creu un algorithm i osod trefn ar bob un. Bydd y gwaith yn cael ei hollti rhwng ffeiliau iaith cyffredin, e-byst, ffeiliau cymorth, synonyms a geiriau i'w hanwybyddu. Dwi ddim yn rhagweld bydd y wefan yn gallu cynnal prosiectau eraill ar hyn o bryd. Sbardun ar gyfer y prosiect oedd Launchpad a PoEdit.

Alan Davies | 09/03/2010 00:44

Dyn ni'n casglu dolenni meddalwedd cyfieithu yma, ychwanegu/golygu/lawrlwytho - beth bynnag ti eisiau! — Carl Morris 10/03/2010 18:12

Mae'r rhain yn becynnau gwych - er yn anffodus, nid yw un ohonynt yn gallu creu cyfieithiad o'r ffeiliau iaith gwreiddiol. Nid yw phpBB yn defnyddio system po/mo. Na chwaith oes modd defnyddio T'fix - sy'n debyg i Launchpad am nad yw phpBB yn ei ddefnyddio. Ta waith. Rwyf wedi cyfieithu sawl pecyn Rheoli Cynnwys (Spaw2, CKEditor ac eraill) - gwnaf ychwanegu'r rhain i'r rhestr pan fydd gennyf amser.

Alan Davies | 10/03/2010 20:14


Navigation
Personal Tools