Dw i'n mwynhau fersiwn tudalen newydd gan Rhys Wynne, da iawn!
— Carl Morris 18/10/2009 19:26
Oes angen creu rhyw fath o strwythr bras i'r diwrnod - h.y. jest rhoi blocks amser i nodi pryd fydd popeth yn digwydd? Rhywun yn gwirfoddoli i wneud hyn? — Rhodri ap Dyfrig 16/11/2009 22:22
Rhodri, faint o'r gloch dyn ni'n dechrau a gorffen? Dw i'n awgrymu tua 10:30 tan 5:30, beth dych chi'n meddwl? Dyn ni'n gallu creu 2 “nant” ar y cychwyn. Efallai cynllunio rhywbeth yn y darfarn yn y nos hefyd… — Carl Morris 18/11/2009 11:43
Beth am:
10:00 Cofrestru a paned (efallai bod hyn yn swnio'n rhy ffurfiol, ond dylid trio annog pobl i gyradedd rhwng 10:00 a 10:20)
10:30 - 12:00 Cyflwyniadau (hyd y cyflwyniadau yn dibynnu ar sawl un sydd)
12:00 - 1:30 Cinio (fydd cyfleusteru bwyd ar gael ar y safle?)
1:30 - 2:00 Cynnigon ar gyfer stwnsh
2:00 - 4:45 Creu stwnsh / gwahanu i 2 ffrwd (stream) neu fwy, yn dibynu ar allu technegol/diddordebau
4:45 - 5:30 Cyflwyno'r stwsh / ble nesa?
— Rhys Wynne 18/11/2009 13:39
Diolch, dw i'n licio'r cynllun. Dylen ni cael sesiwn bach ar y cychwyn i esbonio'r sesiynau gwahanol a'r diwrnod. 20 munud? Efallai cyflwyno pob haciwr yna hefyd. Allen ni recordio POB sesiwn ar awdio? Dyn ni eisiau “hybu” sesiwn stwnsh. (Pan es i BarCamp arall, collais i sesiynau da iawn achos es i sesiwn hacio!)
— Carl Morris 19/11/2009 12:00
Swnio'n dda - ga'i awgrymu bach o hwyl am 5.30? Beth am awr o gemau ar sgrin fawr gyda chydig o ddiodydd i orffen y dydd? — Rhodri ap Dyfrig 16/12/2009 10:20
Dwi wedi penderfynu symud y darn yn y wici oedd yn casglu syniadau am sesiynau i fan hyn gan ei fod yn tarfu ar drefn y wici braidd.
Digon hapus i'w symud i dudalen arall os yw hynny'n well. — Rhodri ap Dyfrig 13/01/2010 12:10
Lleoleiddio
Cymunedau Ar-lein
Porthiannau
Blogio / “Cynnwys”
Y Rhyngrwyd a Dysgu Cymraeg
Amrywiol
e-ddysgu
===Trafodaeth am tag swyddogol Hacio'r Iaith (wedi ei archifo)=== — Rhodri ap Dyfrig 25/01/2010 21:55