Mae Hacio'r Iaith wedi'i drefnu ar y cyd gyda SALT Cymru, Sefydliad Mercator a Phrifysgol Aberystwyth
Noddwyr eraill: Cube Interactive, SbellCheck a Native HQ
Mae Hacio'r Iaith yn gynhadledd agored undydd ar y thema technoleg, gwe ac iaith.
Mae'n gyfle i bobol sy'n gwneud projectau gwe a thechnoleg yn, neu am y Gymraeg, i ddod i gyflwyno eu profiadau ac i drio dysgu oddi wrth ein gilydd mewn awyrgylch braf.
Mae'n gynhadledd agored am ei fod yn cael ei drefnu ar sail egwyddor open source. Mae hyn yn golygu bod cyfle i unrhywun ddod, am ddim, a chyflwyno am bwnc o'u dewis nhw (yn ddibynnol ar amser a lle). Mae wedi ei drefnu ar sail digwyddiadau BarCamp, sydd yn hollol wahanol i gynadleddau arferol. Mae'n anffurfiol iawn - dim ond y gofod sy'n cael ei drefnu o flaen llaw - ac mae trefn y dydd yn cael ei benderfynu gan y siaradwyr. Mae esboniad That Canadian Girl yn un da i unrhywun sydd eisiau dod a chymryd rhan.
Bydd hefyd yn cynnwys sesiynau rhaglennu lle byd cyfle i bobol sy'n gweithio gyda rhaglennu a chôd ddod at eu gilydd i greu rhywbeth - rhaglen, app, neu stwnsh fel arfer - gan ddefnyddio data sy'n bodoli eisoes. Mae'r elfen hyn o'r digwyddiad yn seiliedig ar ddigwyddiadau Open Hack Day. Bwriad hwn yw bod rhywbeth defnyddiol yn dod allan o'r digwyddiad. Dyma hanes Hack Day wnaeth papur y Guardian yn 2008.
Bydd cyswllt di-wifr cyflym ar gael am ddim i bawb sydd yn cymryd rhan er mwyn hwyluso dogfennu a thrafod yn ystod y digwyddiad.
Galli di hefyd ddarllen cofnodion ar Metastwnsh a Quixotic Quisling am esboniad pellach o beth fydd nôd a phatrwm y digwyddiad a sut ddaeth y syniad i fodolaeth.
Mae yna hefyd edefyn yn agored ar Faes-e amdano, a byddwn yn trio ychwanegu mwy o lefydd i drafod y digwyddiad yn y man. Y gobaith yw y bydd sawl person yn ystod y digwyddiad yn cofnodio cynnwys sesiynau gan eu blogio'n fyw, rhoi eu nodiadau ar y Wiki hwn, trydar gyda'r tag #haciaith, postio lluniau i Flickr, creu fideos byr i YouTube ayyb gan gofnodi'r holl ddigwyddiad.
Dydd Sadwrn, 30 Ionawr 2010.
Amser Cofrestru: Rhwng 9am-10am (mae'n bwysig cyrraedd mewn pryd os ydych chi eisiau cael slot dda i'ch cyflwyniad!)
Tan: Byddwn yn debygol o orffen am 7pm (ond bosib byddwn ni'n cario mlaen i drafod yn rhywle dros fwyd a mynd mlaen i gael diod yn dre)
Gwela i chi yn fuan, efallai Hacio'r Iaith nesaf…
Adeilad Parry Williams (Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu), Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth.
Dyma'r Google Fap
Dyma rai pethau allech chi wneud i helpu ni i drefnu'r digwyddiad.
Er bod hwn yn ddigwyddiad sydd yn cael ei drefnu a'i redeg yn wirfoddol, mae dal angen edrych ar ôl y bobol sy'n dod gyda bwyd/diod a help gyda dylunio ayyb. Fasen ni hefyd yn hoff iawn o wneud crys-t neis i bawb sy'n gwneud yr ymdrech i ddod a chyfrannu.
Hyd yn hyn da ni wedi cael sawl cyfraniad tuag at rai o'r costau/neu helpu gyda darparu adnoddau.
Dyma'r rhai presennol - diolch yn fawr am helpu gyda chynnal y digwyddiad! Da chi'n legends.
Os oes ganddoch chi syniadau am noddwyr pellach yna cysylltwch â ni!
Fel y nodwyd uchod mae trefn arferol BarCamp yn golygu bod rhaglen y dydd yn cael ei benderfynu gan y cyflwynwyr, a hynny ar y diwrnod. Mae'n debyg y bydd hyn yn digwydd yn yr hanner awr ar ôl cofrestru a chyflwyno'r diwrnod.
Er bod y digwyddiad yn anffurfiol, mae rhai rheolau sydd yn helpu i wneud pethau ddigwydd fel dylen nhw. Dyma ambell un (wedi eu addasu o fan hyn):
Yr un peth am y rheolau hyn ydi eu bod nhw yno i'w torri hefyd os oes angen!
Byddwn yn defnyddio system Open Grid i wneud hyn. Bydd y slotiau amser rhydd yn cael eu rhoi ar fwrdd gwyn neu ddarn mawr o bapur a byddwch yn gallu nodi teitl eich sesiwn a dewis lle gwag ar y grid.
Bydd dwy brif ystafell ar gael i ni, ond bydd atriwm yr adeilad hefyd ar gael os oes unrhywun eisiau cynnal sesiynau bach mwy anffurfiol. Mae sesiynau ochr yn digwydd mewn coridorau mewn BarCamps eraill felly cyn belled eich bod yn ei nodi ar y Grid i bawb wybod beth sy'n mynd mlaen, ewch amdani!
Hwn oedd yr amserlen ddrafft:
| Amser | Ystafell 1 | Ystafell 2 | Atriwm |
|---|---|---|---|
| 0900-1000 | Coffi, Croesawu, Esbonio Trefn y dydd | ||
| 1000-1030 | N/A | Sut i gysylltu a'r rhwydwaith Ddi-Wifr | Dewis slotiau siaradwyr |
| 1030-1130 | Sesiwn 1 | Sesiwn 2 | Sgyrsiau Anffurfiol |
| 1130-1200 | Gwag | Gwag | Toriad |
| 1200-1300 | Sesiwn 3 | Podlediad Byw Metastwnsh | Sgyrsiau Anffurfiol |
| 1300-1400 | Gwag | Gwag | Cinio + Dangos D'un Di* |
| 1400-1515 | Sesiwn Stwnsho | Sesiwn 5 | Sgyrsiau Anffurfiol |
| 1515-1545 | Sesiwn Stwnsho (parh.) | Gwag | Toriad |
| 1545-1700 | Sesiwn Stwnsho (parh.) | Sesiwn 6 | Sgyrsiau Anffurfiol |
| 1700-1730 | Sesiwn 7 | Cyflwyno Stwnsh (ystafell gyda fideo) | Sgyrsiau anffurfiol |
| 1730-1900 | Gwag | Gwag | Gemau/Diod/Tiwns gan @steffancravos |
* dangos pa wefannau / project ti'n gweithio arno.
Ar hyn o bryd bydd dau slot 30 munud ar gael i bob sesiwn. Os oes ganddoch chi sylwadau o ran ffordd well o'i drefnu yna plis dwedwch yma. Bosib gallwn ni ffitio 3 cyflwyniad yn Sesiynau 5 a 6 er mwyn gwasgu mwy mewn. Mae hyn yn golygu bydd lle i tua 13 o gyflwyniadau yn Stafelloedd 1 a 2.
Croeso i bobol gyflwyno yn ystod amser cinio hefyd os ma'n nhw isio!
Os mae pob slot yn llenwi'n syth, yna gallwn ni gynnal cyflwyniadau yn yr Atriwm hefyd. Wnawn ni drio cael offer taflunio yno hefyd os yn bosib.
Hwn oedd yr amserlen fel digwyddodd pethau. Byddwn yn ychwanegu dolenni + ffeiliau sain fel byddwn ni'n llwytho nhw fyny i'r we.
| Amser | Ystafell 1 | Ystafell 2 | Atriwm |
|---|---|---|---|
| 0900-1000 | Coffi, Croesawu, Esbonio Trefn y dydd | ||
| 1000-1030 | Dim sesiwn | Dim sesiwn | Dewis slotiau siaradwyr a sgwrsio |
| 1030-1130 | "Trafodaeth am Golwg360" gyda Owain Schiavone | "Profiad SaySomethingInWelsh" gyda Aran Jones "Cynhyrchu'r App iPhone 'Learn Welsh'" gyda Neil Taylor | Sgyrsiau Anffurfiol |
| 1130-1200 | Gwag | Sesiynau 'how to' un-i-un, anffurfiol | Toriad |
| 1200-1300 | "Lansiad gwefan newydd Meddal.com" gyda Rhoslyn Prys a Gruffydd Prys "Cyflwyniad o wefan Llennatur.com" gyda Duncan Brown a Twm Elias | Podlediad Byw Metastwnsh gyda Sioned Edwards, Iestyn Lloyd, Rhys Llwyd a Bryn Salisbury | Sgyrsiau Anffurfiol |
| 1300-1400 | Dim sesiwn | Dim sesiwn | Cinio + Dangos D'un Di* |
| 1400-1515 | Sesiwn Stwnsho “FyWordPressCyntaf.com” gyda Carl Morris | "SeibrCofis" gyda John Fraser Williams "Mapio Data Ysgolion Cymraeg" gyda Hywel Jones, Bwrdd Yr Iaith Gymraeg (Sioe sleidiau) | Sgyrsiau Anffurfiol |
| 1515-1545 | (parh.) | Gwag | Toriad |
| 1545-1700 | Sesiwn Stwnsho Sgwrs fer am gynhyrchu Fideos 'how to' Cymraeg | "Lleoleiddio a Rhyngwladoleiddio" gyda Iwan Standley a Rhys Wynne "Digido Treftadaeth a Gwe 2.0" gyda Dafydd Tudur | Sgyrsiau Anffurfiol |
| 1700-1730 | Dim sesiwn | "Lleoleiddio Civilisation IV" gyda Gruffydd Prys | Sgyrsiau anffurfiol |
Dyma lle gallwch chi sgwennu am ba bwnc rydych chi am ei gyflwyno ar y dydd. Gall fod yn gyflwyniad syml am wefan da chi wedi bod yn gweithio arni, yn sesiwn banel, yn drafodaeth agored, yn rant, neu beth bynnag hoffwch chi.
Pwy arall o'r bobol isod sydd wedi nodi eu bod yn dod all roi cyflwyniad byr ar rywbeth maen nhw efo diddordeb ynddo? Mae BarCamps fel arfer yn rhedeg ar y sail bod gan bawb sy'n dod rywbeth i'w gyfrannu, er nad oes gorfodaeth yn yr achos hwn, hoffen ni i bawb rannu rhywbeth.
A sdim rhaid iddo fod am wefannau Cymraeg. Byddai'n dda clywed rhywun yn sôn am bethau ehangach y we yn y Gymraeg hefyd. Dewch 'laen, peidiwch bod yn swil!
Dwi wedi symud y drafodaeth oedd fan hyn ar syniadau am sesiynau posibl draw i dudalen drafodaeth y wici. Gallwch chi weld y syniadau ac ychwanegu atyn nhw ar y dudalen drafodaeth.
Os da chi wedi penderfynu a bwnc i siarad amdano yna rhowch o yn y rhestr uchod o sesiynau arfaethedig.
Ewch i'r tudalen Sesiwn Stwnsho a Hacio
Mae'n bwysig bod pawb sy'n bwriadu dod yn cofrestru o flaen llaw drwy sgwennu eu henw isod. Fel arall, allwn ni ddim sicrhau y bydd lle i chi ar y diwrnod (a'n bwysicach fyth, rhywbeth i chi fwyta!). Ar hyn o bryd mae lle i hyd at 30 o bobol felly brysiwch i roi eich enw lawr!
(Os mae'r rhestr yn cyrraedd 30 yna mae'n bosib y gallwn ni wasgu rhagor mewn, felly rhowch eich enw lawr beth bynnag)
Does dim ond lle i 40 o bobol ar y mwyaf felly os ydyw'n llenwi byddwn yn creu rhestr aros. Os bydd pobol yn tynnu allan, byddwn yn cyfnewid eich enw a'r person yna.
Da ni wedi cael gwybod bod lle i ychydig mwy felly rhowch eich enwau lawr cyn gynted â bo modd!
Mae lot o bobol wedi tynnu at ei gilydd i gyd-drefnu'r digwyddiad, ond os oes ganddoch chi gwestiwn penodol am yr eflennau gweinyddol neu o'r wasg ag eisiau rhywun i siarad yna gallwch chi gysylltu a Rhodri ap Dyfrig, Carl Morris neu Rhys Wynne (manylion cyswllt ar gael trwy'r dolenni uchod).
(croeswch i ffwrdd wedi iddo gael ei gwblhau)
#haciaith yw tag swyddogol y digwyddiad. Defnyddwich o ym mhob cofnod blog, tweet, llun, fideo am y digwyddiad a byddwn ni'n gallu dilyn y drafodaeth.
Trafodaeth wedi ei symud i'r dudalen drafodaeth.
(yn ddelfrydol gyda pherchnogion sy'n siarad Cymraeg)
(oes lle yn sied eich gardd?)
Mae wedi dod yn amlwg bod sawl person yn aros yn Aberystwyth ar y nos Wener. Byddai'n syniad felly i bawb drio cwrdd am swper a chwpwl o beints rhagarweiniol.
Dyma rai cynigion:
Rhain i gyd yn weddol safonol, digon o le (heblaw am Casa Migs) a ddim rhy ddrud.
(Sdim lle Tsieineaidd call yma ac mae'r lle Eidalaidd yn rhy fach (a rhy wael, a bod yn onest)).
Syniad ardderchog - cownt mi in! Sdim ots 'da fi ble, er nad ydw i'n rhy hoff o fwyd Thai. Dewisa di gan fod ti'n gyfarwydd â nhw. (Twitter @malpate)
Be am drio rhannu lifftiau gymaint ag y gallwn ni?
Rhowch eich enw lawr os da chi'n gyrru a'n gallu rhoi sedd fach i rywun. Dydi Aber ddim y lle hawsaf i gyrraedd ar drafnidaeth gyhoeddus gwaetha'r modd.
Rhowch y manylion yma (dyddiad + amser + lleoliad)…
Gallwch chi barcio am ddim ar ddydd Sadwrn ym maes parcio Canolfan Celfyddydau Aberystwyth. Dyma fap gyda manylion y maes parcio.
I gyrraedd adeilad Parry-Williams o'r maes parcio cerddwch mewn i Ganolfan y Celfyddydau, heibio'r siop ar eich dde a pharhau trwy'r drws, ac allan i ochr draw yr adeilad.
Google Translate has a very rough English translation of this page. Don't rely on it though, it's merely the gist.