====Cynllunio trefn y dydd===== ===Amserlen=== Dw i'n mwynhau fersiwn tudalen newydd gan Rhys Wynne, da iawn! --- //[[wiki/user/carlmorris| Carl Morris]] 18/10/2009 19:26// Oes angen creu rhyw fath o strwythr bras i'r diwrnod - h.y. jest rhoi blocks amser i nodi pryd fydd popeth yn digwydd? Rhywun yn gwirfoddoli i wneud hyn? --- //[[wiki/user/rhodri.apdyfrig| Rhodri ap Dyfrig]] 16/11/2009 22:22// Rhodri, faint o'r gloch dyn ni'n dechrau a gorffen? Dw i'n awgrymu tua 10:30 tan 5:30, beth dych chi'n meddwl? Dyn ni'n gallu creu 2 "nant" ar y cychwyn. Efallai cynllunio rhywbeth yn y darfarn yn y nos hefyd... --- //[[wiki/user/carlmorris| Carl Morris]] 18/11/2009 11:43// Beth am: 10:00 Cofrestru a paned (efallai bod hyn yn swnio'n rhy ffurfiol, ond dylid trio annog pobl i gyradedd rhwng 10:00 a 10:20) 10:30 - 12:00 Cyflwyniadau (hyd y cyflwyniadau yn dibynnu ar sawl un sydd) 12:00 - 1:30 Cinio (fydd cyfleusteru bwyd ar gael ar y safle?) 1:30 - 2:00 Cynnigon ar gyfer stwnsh 2:00 - 4:45 Creu stwnsh / gwahanu i 2 ffrwd (stream) neu fwy, yn dibynu ar allu technegol/diddordebau 4:45 - 5:30 Cyflwyno'r stwsh / ble nesa? --- //[[wiki/user/rhys_wynne| Rhys Wynne]] 18/11/2009 13:39// Diolch, dw i'n licio'r cynllun. Dylen ni cael sesiwn bach ar y cychwyn i esbonio'r sesiynau gwahanol a'r diwrnod. 20 munud? Efallai cyflwyno pob haciwr yna hefyd. Allen ni recordio POB sesiwn ar awdio? Dyn ni eisiau "hybu" sesiwn stwnsh. (Pan es i BarCamp arall, collais i sesiynau da iawn achos es i sesiwn hacio!) --- //[[wiki/user/carlmorris| Carl Morris]] 19/11/2009 12:00// ==Bach o hwyl diwedd y dydd== Swnio'n dda - ga'i awgrymu bach o hwyl am 5.30? Beth am awr o gemau ar sgrin fawr gyda chydig o ddiodydd i orffen y dydd? --- //[[wiki/user/rhodri.apdyfrig| Rhodri ap Dyfrig]] 16/12/2009 10:20// ===Syniadau am Sesiynau==== Dwi wedi penderfynu symud y darn yn y wici oedd yn casglu syniadau am sesiynau i fan hyn gan ei fod yn tarfu ar drefn y wici braidd. Digon hapus i'w symud i dudalen arall os yw hynny'n well. --- //[[wiki/user/rhodri.apdyfrig| Rhodri ap Dyfrig]] 13/01/2010 12:10// **Facebook** * Facebook Translation a Google Translate: beth fydd impact y rhain ar gyfieithu, lleoleiddio a deall cynnwys Cymraeg? --- //[[wiki/user/rhodri.apdyfrig| Rhodri ap Dyfrig]] 18/10/2009 21:51// * Facebook a Facebook Connect: ffrind neu gelyn? --- //[[wiki/user/carlmorris| Carl Morris]] 19/10/2009 15:08// * //ychwanega bwnc...// \\ **Lleoleiddio** * Pwy sy'n defnyddio meddalwedd/rhyngwynebau Cymraeg? Os nad ydyn nhw, pam ddim? --- //[[wiki/user/rhys| Rhys Jones]] 23/10/2009 07:55// * Lleoleiddio 101: sut i gyfieithu meddalwedd Cymraeg eich hun --- //[[wiki/user/rhys| Rhys Jones]] 23/10/2009 07:55// * Lleoleiddio 102(?!): sut i wneud yn siŵr bod y feddalwedd yr ydych chi'n ei ddatblygu yn hawdd ei leoleiddio gan eraill --- //[[wiki/user/rhys| Rhys Jones]] 23/10/2009 07:55// * Lleoleiddio Termau Cywir - gyda marwolaeth Kywiro a phroblemau dod o hyd at dermau Cymraeg (Cysgair a Thermiadur Bwrdd yr Iaith yn annigonol) - a oes ffynhonnell gynhwysfawr ar gael i gyfieithwyr amatur? Os na - a oes cynlluniau i greu a chyhoeddi un? --- //[[wiki/user/duw| Alan Davies]] 06/01/2010 23:04// * //ychwanega bwnc...// \\ **Cymunedau Ar-lein** * Byddai'n dda cael trafodaeth ar gymunedau Cymraeg ar-lein. --- //[[wiki/user/rhodri.apdyfrig| Rhodri ap Dyfrig]] 16/11/2009 22:03// * Hedd i siarad am Maes-e? * Lle mae'r cymunedau nesaf am ffurfio? Google Wave fel message board? Y broblem o hyder mewn Cymraeg ysgrifenedig. Oes dyletswydd ar Golwg360/BBC Cymru i greu cymunedau trafodaeth? --- //[[wiki/user/rhodri.apdyfrig| Rhodri ap Dyfrig]] 16/11/2009 22:03// * //ychwanega bwnc...// \\ **Porthiannau** * Yahoo Pipes: rough guide, a sut gallen ni ei ddefnyddio ar gyfer cynnwys Cymraeg --- //[[wiki/user/rhodri.apdyfrig| Rhodri ap Dyfrig]] 18/10/2009 21:51// * Aggregators a gwefannau //social news//: Oes angen mwy o filters? pam nad oes rhai Cymraeg a Chymreig, ac a oes angen rhai? --- //[[wiki/user/rhodri.apdyfrig| Rhodri ap Dyfrig]] 18/10/2009 21:51// * Wyt ti'n cyfri'r [[http://www.blogiadur.com/|Blogiadur]] (a Welsh Blogs) fel aggregators felly? --- //[[wiki/user/rhys| Rhys Jones]] 23/10/2009 08:06// * Wedi meddwl, ydw a dwi di newid yr uchod, ond o'n i'n meddwl mwy am ryw fath Digg Cymraeg (dwi di bod yn mwydro am hwn ers tipyn) ond ma hwnna'n llai o aggregator a mwy o ffilter newyddion dydi. Eniwe, does dim llawer o lefydd sydd yn rhoi ffilter ar newyddion/straeon/gwefannau diddorol y dydd. Dwi'n credu bod angen mwy o guraduron (//curators//) gwe yn y Gymraeg. Sgen bawb ddim yr amser i fynd trwy bopeth. Roedd maes-e yn arfer gwneud hyn ond dio ddim rhagor. Ai Digg Cymraeg yw'r ateb? Wn i ddim, ond byddwn a diddordeb trafod. --- //[[wiki/user/rhodri.apdyfrig| Rhodri ap Dyfrig]] 16/11/2009 22:03// * //ychwanega bwnc...// \\ **Blogio / "Cynnwys"** * Pwy yw'r gynulleidfa ar-lein Gymraeg? Demograffeg, sut maen nhw'n defnyddio cynnwys a.y.b. --- //[[wiki/user/rhys| Rhys Jones]] 23/10/2009 07:55// * Y Gynulleidfa anweledig: sut mae curo cyrhaeddiad blogio/trydar/cynhyrchu fideo yn Saesneg? --- //[[wiki/user/rhodri.apdyfrig| Rhodri ap Dyfrig]] 18/10/2009 21:51// * 101 mewn blogio yn y Gymraeg (ar gyfer dechreuwyr llwyr) - gellid cael yr un math o sesiwn ar gyfer sawl math o gynnwys ar-lein --- //[[wiki/user/rhodri.apdyfrig| Rhodri ap Dyfrig]] 18/10/2009 21:51// * Clywed am enghreifftiau neu chael trafodaeth am bosibiliadu cyfryngau lleol (//[[http://en.wikipedia.org/wiki/Hyperlocal#Hyperlocal_Contenthyper|hyperlocal]]//). --- //[[wiki/user/rhys_wynne| Rhys Wynne]] 18/10/2009 09:02// * Fideo ar-lein a'r Gymraeg --- //[[wiki/user/rhodri.apdyfrig| Rhodri ap Dyfrig]] 18/10/2009 21:51// * //ychwanega bwnc...// \\ **Y Rhyngrwyd a Dysgu Cymraeg** * Apps symudol dysgu Cymraeg - dwi wedi holi Dr.Chris Price o adran CompSci Aberystwyth i siarad am ei app iphone dysgu Cymraeg ac mae wedi cytuno mewn egwyddor. * Dysgu Cymraeg, y We, a Busnes - byddai'n dda cael clywed am hanes [[http://www.saysomethinginwelsh.com/home/|SaySomethingInWelsh]] a [[http://www.cymraegonthemove.co.uk/|CymraegOnTheMove]] - ydi Aran isio gwirfoddoli? [Oce - ond dw i ddim yn gwybod beth sy'n digwydd efo CymraegOnTheMove - wna i dynnu sylw Aled at y dudalen hon --- //[[wiki/user/aran| Aran]]]// * Clwb Malu Cachu: The Return?! - mae sibrydion y bydd atgyfodiad o'r wefan wych hon ar gyfer dysgwyr. Byddai'n grêt cael rhywun i siarad amdano. Efallai gall Suw Charman-Anderson ddod gan taw hi sefydlodd o. (Bydda i'n hapus i siarad am CMC, os dw i'n gallu dod, a hefyd am y petha sydd ar goll pan mae'n dod i ddysgu ac ymarfer yr iaith Cymraeg arlein. - Suw) * //ychwanega bwnc...// \\ **Amrywiol** * The Semantic Web: beth y goblygiadau hyn ar gyfer ieithoedd bychain ar-lein? --- //[[wiki/user/rhodri.apdyfrig| Rhodri ap Dyfrig]] 18/10/2009 21:51// * Technoleg iaith yn gyffredinol? (nid ddim ond testun: llais a gwaith amlfodd hefyd). --- //[[wiki/user/rhys| Rhys Jones]] 23/10/2009 07:55// * Diacritics mewn URLs - fyddech chi'n rhoi âêîôûŵŷ yn eich URL?! --- //[[wiki/user/rhodri.apdyfrig| Rhodri ap Dyfrig]] 16/11/2009 22:03// * Y we mewn ieithoedd lleiafrifol eraill - allai rhywun ddod mewn i roi perspectif cyflym ar rai achosion diddorol mewn ieithoedd bach eraill? --- //[[wiki/user/rhodri.apdyfrig| Rhodri ap Dyfrig]] 16/11/2009 22:03// * //ychwanega bwnc...// \\ **e-ddysgu** * Gwasanaethau ar-lein, sy'n helpu creu/rhannu/darganfod cynnwys + dulliau o ddosbarthu ac asesu gwaith. --- //[[wiki/user/rhys_wynne| Rhys Wynne]] 27/10/2009 21:45// * Deunyddiau digidol dysgu Cymraeg ar gyfer teclynnau symudol. - \\Maldwyn Pate\\ * //ychwanega bwnc...// ===Trafodaeth am tag swyddogol Hacio'r Iaith (wedi ei archifo)=== --- //[[wiki/user/rhodri.apdyfrig| Rhodri ap Dyfrig]] 25/01/2010 21:55// * Mae @malpate wedi argymell #hacioriaith --- //[[wiki/user/rhodri.apdyfrig| Rhodri ap Dyfrig]] 18/10/2009 21:49// * Dwi'n credu gallen ni ei dalfyrru i #haciaith --- //[[wiki/user/rhodri.apdyfrig| Rhodri ap Dyfrig]] 18/10/2009 21:49// * Baswn i'n mynd gyda #haciaith, gwneud y mwyaf o bob llythyren --- //[[wiki/user/rhys_wynne| Rhys Wynne]] 19/10/2009 08:44// * Beth am just defnyddio #hacio ? * Dylen ni dal yn defnyddio #haciaith nawr, dw i'n meddwl. Achos dyn ni wedi defnyddio fe yn barod. Mae Hacio yw rhaglen teledu! Mae'n iawn. --- //[[wiki/user/carlmorris| Carl Morris]] 26/11/2009 01:08//