======= Hacio'r Iaith ======= {{http://farm3.static.flickr.com/2764/4248218732_36f3ddb6ca_m.jpg|}} \\ [[http://haciaith.com| haciaith.com]] Hen tudalen Hacio'r Iaith? Ewch i [[http://hedyn.net/hacio_r_iaith/ionawr2010]] ======Manylion y digwyddiad====== =====Beth?===== Mae Hacio'r Iaith yn gynhadledd agored undydd ar y thema **technoleg, gwe ac iaith**. Mae'n gyfle i bobol sy'n gwneud projectau gwe a thechnoleg yn, neu am y Gymraeg, i ddod i gyflwyno eu profiadau ac i drio dysgu oddi wrth ein gilydd mewn awyrgylch braf. Mae'n **gynhadledd agored** am ei fod yn cael ei drefnu ar sail egwyddor //open source//. Mae hyn yn golygu bod cyfle i unrhywun ddod, am ddim, a chyflwyno am bwnc o'u dewis nhw (yn ddibynnol ar amser a lle). Mae wedi ei drefnu ar sail digwyddiadau [[http://en.wikipedia.org/wiki/BarCamp|BarCamp]], sydd yn hollol wahanol i gynadleddau arferol. Mae'n anffurfiol iawn - dim ond y gofod sy'n cael ei drefnu o flaen llaw - ac mae trefn y dydd yn cael ei benderfynu gan y siaradwyr. Mae [[http://www.thatcanadiangirl.co.uk/blog/2008/09/22/the-barcamp-virgins-guide-making-the-most-of-your-first-barcamp/|esboniad That Canadian Girl]] yn un da i unrhywun sydd eisiau dod a chymryd rhan. Bydd hefyd yn cynnwys **sesiynau rhaglennu** lle byd cyfle i bobol sy'n gweithio gyda rhaglennu a chôd ddod at eu gilydd i greu rhywbeth - rhaglen, //app//, neu stwnsh fel arfer - gan ddefnyddio data sy'n bodoli eisoes. Mae'r elfen hyn o'r digwyddiad yn seiliedig ar ddigwyddiadau [[http://en.wikipedia.org/wiki/Open_Hack_Day|Open Hack Day]]. Bwriad hwn yw bod rhywbeth defnyddiol yn dod allan o'r digwyddiad. Dyma [[http://www.guardian.co.uk/global/insideguardian/2008/nov/18/guardian-hack-day-results|hanes Hack Day wnaeth papur y Guardian yn 2008]]. Bydd **cyswllt di-wifr cyflym** ar gael am ddim i bawb sydd yn cymryd rhan er mwyn hwyluso dogfennu a thrafod yn ystod y digwyddiad. =====Pryd?===== ==== 3 Awst 2010 ==== Hacio'r Iaith - Eisteddfod Genedlaethol 2010\\ [[http://hedyn.net/digwyddiadau#hacio_r_iaith_-_eisteddfod_genedlaethol_2010]] ==== 24 Gorffennaf 2010 ==== Hacio'r Iaith Bach - Gwyl Arall, Caernarfon\\ [[http://hedyn.net/digwyddiadau#hacio_r_iaith_bach_-_caernarfon_24_gorffennaf_2010]] ==== 19 Mai 2010 ==== Hacio'r Iaith Bach - Adeilad Parry Williams, Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth (ar ddiwedd [[http://www.aber.ac.uk/cgi-bin/user/merwww/index.pl?rm=c_main|Cynhadledd Ryngwladol Rhwydwaith Mercator]])\\ [[http://haciaith.com/2010/05/13/hacior-iaith-bach-aberystwyth-19-5-10-6-30pm/| Manylion eraill]]\\ Croeso i unrhywun ddod i gael sgwrs am y rhyngrwyd a ieithoedd lleiafrifol. Bydd tipyn o bobol yno o dramor fydd wedi dod i gynhadledd Mercator felly bydd yn gyfle i gyfarfod â chriw diddorol. Fydd dim strwythr pendant ar wahan i gyflwyniad byr gen i am y digwyddiad Hacio'r Iaith cyntaf er mwyn gosod y cyd destun. Bydd y gynhadledd yn darparu cwrw a swper i'r rhai sy'n dod. Diolch yn fawr Sefydliad Mercator! ====26 Ebrill 2010==== Hacio'r Iaith Bach, Chapter, Treganna, Caerdydd.\\ [[http://haciaith.com/2010/04/27/adroddiad-a-sgyrsiau-hacior-iaith-bach-ebrill-2010-caerdydd-un-gair-ardderchog/|Adroddiad/sgyrsiau]] / [[http://haciaith.com/2010/03/26/hacior-iaith-bach-caerdydd-26ain-mis-ebrill-2010/|Cofnod wreiddiol]] \\ ====30 Ionawr 2010==== Hacio'r Iaith 1, Adeilad Parry Williams, Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth.\\ [[http://hedyn.net/hacio_r_iaith/ionawr2010|nodiadau]] \\ ====Dyfodol==== //gobeithio mwy ar y ffordd!// ====Digwyddiadau eraill==== [[http://hedyn.net/digwyddiadau| am ddigwyddiadau eraill, ewch i'r tudalen Hedyn]] ====== English translation ====== [[http://translate.google.com/translate?js=y&prev=_t&hl=en&ie=UTF-8&u=http%3A%2F%2Fhedyn.net%2Fhacio_r_iaith&sl=cy&tl=en | Google Translate has a very rough English translation]] of this page. Don't rely on it though, it's merely the gist.